Duw a ddywedodd:Pwy sy'n becso am yr Eidal? Cyfle i brofi chwaraewyr ar ymylon y garfan. Ennill/colli - WGAF - 'ryn ni wedi colli yn erbyn y 3 tim a ddylwn fod wedi rhoi gem dda iddynt.
Ti'n disgwyl gormod. Does dim llawer o gryfder mewn dyfnder gyda Chymru, gyda'r colledion yn dilyn taith y Llewod, annochel byddai tymor gwael.
Yn absennol (am ba bynnag reswm, ac am o leiaf un gem): Gethin Jenkins, Matthew Rees, Alun Wyn Jones, Ian Evans, Andy Powell, Mike Phillips, Dwayne Peel, Henson, Mark Jones
Yn ogystal a hynny mae'r chwareuwyr sydd heb dangos eu bod ar eu gorau yn ddiweddar: Tom Shanklin, Ian Gough, Lee Byrne
Does dim syndod fod Cymru wedi ei chael yn anodd. Y syndod i mi yw y gallai Cymru fod wedi curo Lloegr a Ffrainc. Iwerddon oedd yr unig dim roddodd grasfa i Gymru. Yr ofn sydd gen i yw y bydd pobl Cymru yn dechrau troi yn erbyn Gatland heb gymryd popeth mewn i ystyriaeth ac heb feddwl na chawn ni hyfforddwr gwell rhwng nawr a chwpan y Byd.