Gogledd Cymru - byth RCG 1400!

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gogledd Cymru - byth RCG 1400!

Postiogan cemegwr » Gwe 26 Maw 2010 7:50 pm

rygbigog a ddywedodd:Croeso i'r Eidalwyr. :D Braf iawn un dydd bydd weld Gogledd Cymru'n chwarae tim o'r Eidal ar Parc Eirias.

Tim o Ganadians yn erbyn tim o'r Eidal yng Ngogledd Cymru? Bownd o werthu mas.
cemegwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Gwe 09 Hyd 2009 10:52 am

Re: Gogledd Cymru - byth RCG 1400!

Postiogan rygbigog » Maw 30 Maw 2010 1:13 pm

cemegwr a ddywedodd:
rygbigog a ddywedodd:Croeso i'r Eidalwyr. :D Braf iawn un dydd bydd weld Gogledd Cymru'n chwarae tim o'r Eidal ar Parc Eirias.

Tim o Ganadians yn erbyn tim o'r Eidal yng Ngogledd Cymru? Bownd o werthu mas.


Ewrop yn Gogledd Cymru - bell, bell iawn dros y gorwel Cem.

Uwch Gynghrair Cymru ydi'r nod - ond bydd Gogs hefyd yn chwarae dros timoedd y De yn erbyn ei ardal genedigol. Beth digwyddodd i'r filltir sgwar?

Byddai'n well gen i cael hogia ni nol yn hytrach na'r Canwcs, ond mae'n costion dim i Cymru a bydd yn help yn y fur tymor mae'n digwydd.
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Gogledd Cymru - byth RCG 1400!

Postiogan ceribethlem » Mer 05 Mai 2010 3:01 pm

Cardi Bach a ddywedodd:
rygbigog a ddywedodd:Ychydig o hanes am y sefyllfa.

Dechreuodd tim Gogledd Cymru chwarae gemau yn haner gyntaf y ganrif diwethaf, wrth gynnwys Cymru Cymraeg o'r dechrau, yn adnabod y tim fel 'Gogledd Cymru'. Dros y flynyddoedd mae amryw wedi ddatblygu i chwarae dros Cymru a'r Llewod. Mae'r tim wedi enill pencampwriaeth Siroedd Cymru tair waith, gyda timau ieuenctid hefyd yn lwyddo'n gyson yn erbyn timoedd y De. Yn diweddar, mae'r enw Gymraeg wedi ei dderbyn gan hyd yn oed aelodau iaith Saesneg y tim a'r chefnogwyr. Enillodd Cor Rygbi Gogledd Cymru eu penampwriaeth yn y Stadiwm Mileniwm o flaen y Gamp Lawn 2008 a cyfarfod aduniad.

Gwleidyddiaeth, ddim chwaraewyr, ydi'r problem hanesyddol a cael tim Gogledd Cymru i chwarae timau'r De bob wythnos. Mae'r URC o'r diwedd wedi chefnogi'r syniad gyda'r sefydliad yn Parc Eirias ac apwyntiad Clive Griffiths i hyfforddi't tim. Ond, mae nifer fach iawn yn gwrthwynebu'r enw o herwydd mae yn yr iaith Gymraeg. :drwg:

Fellu, mae RCG 1400 wedi cael ei chreu er mwyn ceisio dileu'r iaith Gymraeg o ein tim, ein rhanbarth ac ein delwedd.

Ond byddai'n ddiolchgar iawn os bydd pawb yn gwrthod yr sarhad hyn, ac adnabod y tim gyda'r enw cywir: Gogledd Cymru - am byth.


Pa mor sicr wyt ti o hyn, fel ffaith?
O adnabod ambell un o'r cyfarwyddywr mae'n nhw'n gwadu hyn yn llwyr. Yn wir i'r gwrthywneb o'r cyhuddiad yma am fod yn wrth-Gymraeg, bwriad yr enw yw dathlu hanes a threftadaeth y Cymry.
Wy'n credu fod yna lot o bethau mwy a phwysicach i bryderi amdano, a sianeli ein hegni tuag ato, ym mherthynas y WRU a rygbi yng ngogledd Cymru na brand tim rhanbarthol.

Gair, ma hido am yr enw yn hytrach nac ymfalchio fod cyfle i rygbi magu gwreiddyn yn y gogledd yn nosens. Mae cyfle i gael rygbi yn y gogledd, os bydd ffys a nonsens am yr enw, yna bydd URC yn tynnu'r arian nol a dweud "Rhoddon ni gyfle ac oedd dim diddordeb."
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gogledd Cymru - byth RCG 1400!

Postiogan rygbigog » Sad 08 Mai 2010 6:46 pm

Problem ydi Ceri. Mae'r ardal yma wedi adnabod fel Gogledd Cymru am dros fil o flynyddoedd, a rhan fwyaf o'r poblogaeth yn medru cysylltu gyda hyn.

Ma'r enw RCG1400 wedi dod o gwr Awstraliad, ar ol llai na mis yn y wlad - o herwydd ei fod ddim yn barod i ddysgu dwy air o'r gymraeg.

Mae angen i'r tim cadw'r enw Gogledd Cymru er mwyn cael chefnogaeth holl pobl Gogledd Cymru. Byddech yn hapus gyda'r enw URC1880 yn hytrach na 'Cymru' ?
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Gogledd Cymru - byth RCG 1400!

Postiogan ceribethlem » Sad 08 Mai 2010 7:25 pm

rygbigog a ddywedodd:Problem ydi Ceri. Mae'r ardal yma wedi adnabod fel Gogledd Cymru am dros fil o flynyddoedd, a rhan fwyaf o'r poblogaeth yn medru cysylltu gyda hyn.

Ma'r enw RCG1400 wedi dod o gwr Awstraliad, ar ol llai na mis yn y wlad - o herwydd ei fod ddim yn barod i ddysgu dwy air o'r gymraeg.

Mae angen i'r tim cadw'r enw Gogledd Cymru er mwyn cael chefnogaeth holl pobl Gogledd Cymru. Byddech yn hapus gyda'r enw URC1880 yn hytrach na 'Cymru' ?

Paid cefnogi nhw te. Pwda gyda'r enw yn hytrach na mwynhau'r ffaith fod yna dim i'w wylio. Wedyn pan fydd popeth wedi mynd tits lan beia pobol arall.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gogledd Cymru - byth RCG 1400!

Postiogan rygbigog » Sul 09 Mai 2010 8:19 am

Dwi'n chefnogi nhw a gweiddi 'Gogledd Cymru' fel pawb arall ar y teras. Dwi' byth wedi chlywed un person yn galw allan llythrennau a rhifau!

Mae'r Cwmni Cymunedol sy'n rhedeg y tim wedi gofrestru fel 'Gogledd Cymru' fellu does dim adnobod ffurfiol o gwbwl o'r enw arall.

Dwi'n sefyll i fynnu am yr enw fel yr ydym am ein iaith - yn erbyn pobol di Gymraeg sy'n cheisio dileu'r ddau.
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Gogledd Cymru - byth RCG 1400!

Postiogan ceribethlem » Sul 09 Mai 2010 8:59 am

rygbigog a ddywedodd:Dwi'n sefyll i fynnu am yr enw fel yr ydym am ein iaith - yn erbyn pobol di Gymraeg sy'n cheisio dileu'r ddau.

:lol:
Enw Cymraeg yw RGC 1404. Rygbi Gogledd Cymru yw'r RGC, ac mae'r 1404 yn cyfeirio at Owain Glyndwr. Ymgais i'w wneud yn Gymreig ac yn Gmraeg yw hi.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gogledd Cymru - byth RCG 1400!

Postiogan rygbigog » Sul 09 Mai 2010 5:57 pm

ceribethlem a ddywedodd:
rygbigog a ddywedodd:Dwi'n sefyll i fynnu am yr enw fel yr ydym am ein iaith - yn erbyn pobol di Gymraeg sy'n cheisio dileu'r ddau.

:lol:
Enw Cymraeg yw RGC 1404. Rygbi Gogledd Cymru yw'r RGC, ac mae'r 1404 yn cyfeirio at Owain Glyndwr. Ymgais i'w wneud yn Gymreig ac yn Gmraeg yw hi.


Mae'r enw 'Gogledd Cymru' yn Gymreig a Gymraeg a wedi bodoli am dros haner ganrif fel enw'r tim a mil o flynyddoedd fel ardal - fellu pam newid.
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Gogledd Cymru - byth RCG 1400!

Postiogan ceribethlem » Sul 09 Mai 2010 7:16 pm

rygbigog a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
rygbigog a ddywedodd:Dwi'n sefyll i fynnu am yr enw fel yr ydym am ein iaith - yn erbyn pobol di Gymraeg sy'n cheisio dileu'r ddau.

:lol:
Enw Cymraeg yw RGC 1404. Rygbi Gogledd Cymru yw'r RGC, ac mae'r 1404 yn cyfeirio at Owain Glyndwr. Ymgais i'w wneud yn Gymreig ac yn Gmraeg yw hi.


Mae'r enw 'Gogledd Cymru' yn Gymreig a Gymraeg a wedi bodoli am dros haner ganrif fel enw'r tim a mil o flynyddoedd fel ardal - fellu pam newid.

Gan mai tim newydd yw e'. Cadw elfennau o'r enw traddodiadol tra'n ailfrandio a chynnwys elfennau newydd i ddangos fod cyfundrefn rygbi newydd yn bodoli.

Fi'n sylwi dy fod wedi penderfynnu anwybyddu dy safbwynt gwreiddiol mai achub yr iaith yw'r safbwynt yma yn erbyn yr enw RGC1404 :lol:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gogledd Cymru - byth RCG 1400!

Postiogan rygbigog » Sul 09 Mai 2010 8:29 pm

Anghywir eto CB. Ddim tim newydd (mae'r tim yn bron 60 oed). Cheisio ail frandio - syn cael ail meddwl yn ystod yr haf.

Ffwc ddim sens gyda hwn. :lol:
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron