Tudalen 1 o 1

Cymru i chwarae Llydaw?

PostioPostiwyd: Gwe 26 Chw 2010 8:52 pm
gan Hedd Gwynfor

Re: Cymru i chwarae Llydaw?

PostioPostiwyd: Sad 27 Chw 2010 2:37 am
gan Hen Rech Flin
Ond pwy i gefnogi?

Oni fyddai buddugoliaeth I Lydaw yn drech na buddugoliaeth i Gymru o ran hunaniaeth y gwledydd Celtaidd?

Re: Cymru i chwarae Llydaw?

PostioPostiwyd: Sad 27 Chw 2010 10:48 am
gan Josgin
Pwy fydd chwaraewyr Llydaw ? A fydd chwaraewyr fel Gourcuff yn cael chwarae , neu Toulalan ?

Re: Cymru i chwarae Llydaw?

PostioPostiwyd: Llun 01 Maw 2010 2:26 pm
gan Ray Diota
Josgin a ddywedodd:Pwy fydd chwaraewyr Llydaw ? A fydd chwaraewyr fel Gourcuff yn cael chwarae , neu Toulalan ?


dim gobeth fydden i'n meddwl. dyw'r FFF ddim yn lico bo Llydaw yn chware o gwbwl so no we fyddan nhw'n gadel i seren y "tim cenedlaethol" chware jyst cyn cwpan y byd...

Re: Cymru i chwarae Llydaw?

PostioPostiwyd: Llun 01 Maw 2010 2:27 pm
gan Ray Diota
Hen Rech Flin a ddywedodd:Ond pwy i gefnogi?


wyt ti'n gymro neu'n lydawr? wy'n ffindo bod y cwestiwn ma'n helpu pan yn trio cofio pwy i gefnogi...

Re: Cymru i chwarae Llydaw?

PostioPostiwyd: Maw 02 Maw 2010 6:10 pm
gan dewi_o
Yr un anthem sydd gan y ddwy wlad.