Tudalen 1 o 1

Anaf erchyll i Rasmsey

PostioPostiwyd: Sad 27 Chw 2010 7:18 pm
gan Hedd Gwynfor

Re: Anaf erchyll i Rasmsey

PostioPostiwyd: Sul 28 Chw 2010 12:40 pm
gan Rhods
O ni yn gwando ar 606 radio sport five live neithiwr, a lot o ffans Arsenal oedd yn y gem yn dweud odd lot o ffans Stoke yn canu, wrth i Ramsey fynd off y cau 'Youve only got one leg'. Un gair i ddisgrifio pobl fe na - 'sgym'. :drwg:

Hyn yn masif blow i Gymru, ond yn fwy masif blow, i Ramsey. Bydd Aaron yn dod yn ol yn sicr - top class player, a ma fe yn boi ifanc a cryf. Mynd i gymyd amser, blwyddyn falle, ond fe ddeith e nol yn gryfach dwi yn meddwl. Pob lwc Aaron, gwellhad buan. Ma Cymru tu ol i ti...

Re: Anaf erchyll i Rasmsey

PostioPostiwyd: Sul 28 Chw 2010 4:32 pm
gan Chickenfoot
Newydd weld y sialens, a 'doedd hi ddim yn edrych yn fwriadol. Yn sicr, 'doedd hi ddim fel Haaland a Keane, er enghraifft. I ddweud y gwir, o'n i'n teimlo'n flin dros Shawcross yn ogystal a Ramsey.
I mi, mae'n debyg iawn i'r sialens ar David Busst, ond hefo dau chwaraewr.
Os yw hynna'n wir am rhai o gefnogwyr Stoke, mae nhw angen cymorth meddyliol. :ofn:

Re: Anaf erchyll i Rasmsey

PostioPostiwyd: Sul 28 Chw 2010 9:49 pm
gan osian
Ma'r anaf yn edrach yn erchyll, a gobeithio y gwellith o mor fuan รข phosib.
Ond dwi'n cytuno bod na'm bai o gwbl ar shawcross - dwi'n gobeithio fydd bob idiot sy'n galw fo'n fucking scum aballu yn callio yn o fuan.

ond ma rhywun ar un o'r 23,345 grwp facebook Get well soon Aaron Ramsey wedi cael ateb fydd yn gneud i bawb deimlo'n well. Shawcross i sgorio'r gol fuddugol yn cwpan y byd, ac fydd y gol honno wedi ei dedicatio i ramsey. ia, gret.