Tudalen 1 o 1

Seren y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Maw 23 Maw 2010 3:23 pm
gan Owain
Gweld yn y Western Mule heddiw fod Simon Thomas ddim ond wedi cynnwys un Cymru yn ei dîm y 'Chwe Gwlad', sef Shane Bach! Asesiad digon teg? Byddai rhai'n anghytuno mai Shane oedd chwaraewr gorau Cymru yn y bencampwriaeth mae'n siŵr - pwy da chi'n meddwl oedd seren ddisgleiria Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni?

Pleidleisiwch dros chwaraewr gorau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Re: Seren y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Maw 23 Maw 2010 8:38 pm
gan Duw
Neb o Gymru. Perffromiad gwael gan y mwyafrif. O ran Cymru - Stephen Jones / Ritchie Rees cyfartal â Shane Williams weden i. Brad Davies wedi gwneud yn dda.

I mi seren y 6 gwlad oedd Imanol Harinordoquy. Parra a Dusautoir yn dda hefyd. Harinordoquy - pwer byger, mae'n haeddu rhywbeth am y ffordd roedd y sylwebwyr wedi cachu ar ei enw.

Re: Seren y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Gwe 26 Maw 2010 7:45 pm
gan cemegwr
Duw a ddywedodd:I mi seren y 6 gwlad oedd Imanol Harinordoquy. Parra a Dusautoir yn dda hefyd. Harinordoquy - pwer byger, mae'n haeddu rhywbeth am y ffordd roedd y sylwebwyr wedi cachu ar ei enw.

Haridorniquay (chwedl Jiffy) yn anhygoel o dda.

Duw a ddywedodd:Neb o Gymru. Perffromiad gwael gan y mwyafrif. O ran Cymru - Stephen Jones / Ritchie Rees cyfartal â Shane Williams weden i. Brad Davies wedi gwneud yn dda.
Bradley Davies wedi bod yn arbennig o dda. Gethin Jenkins a Warburton hefyd yn y gem olaf (er mai'r Eidal yn unig oedd e').
Richie Rees? Na. Wedi bod ychydig yn well na shit, dim arall. Dangosodd Mike Phillips gymaint gwell nag unrhywun arall oedd e', gyda'r perfformiad yn erbyn yr Eidal; a hynny bron yn syth ar ol dychwelyd o anaf.

Re: Seren y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Sad 27 Maw 2010 12:00 am
gan Duw
cemegwr a ddywedodd:Richie Rees? Na. Wedi bod ychydig yn well na shit, dim arall. Dangosodd Mike Phillips gymaint gwell nag unrhywun arall oedd e', gyda'r perfformiad yn erbyn yr Eidal; a hynny bron yn syth ar ol dychwelyd o anaf.


Wel, dwi ffili rhoi Mike Phillips mewn edefyn 'Seren y Chwe Gwlad' ar sail un gêm. O ran yr olwyr - Roedd cymaint o gachiade, doedd neb yn disgleirio. Roedd Shane wedi cymryd ambell gyfle - er braidd yn shit parthed ei safone e. Meddwl o'n i bo Rees wedi ware llond cystal â Jones/WIlliams. Roedd y canolwyr yn siomedig -a Byrne (o diar).

Dwi lico Warburton - a mae ishe mwy o amser ar y llwyfan rhyngwladol arno. Ffili gweld Martyn Williams yn ware pob gem o nawr tan diwedd Cwpan y Byd. Jest gobeithio cewn ni ddim 'croen banana' a ware bois di-brofiad. Gareth Delve yn siomedig. Ble mae ein ball-carriers wedi mynd? Rhoien i unrhyw beth i gael rhywun fel Harinordoquy yn y tim.