Rygbi Gogledd Cymru ac F C Barcelona

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Rygbi Gogledd Cymru ac F C Barcelona

Postiogan rygbigog » Sul 09 Mai 2010 6:47 pm

Aaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaa! :syniad:

Newydd ddarganfod fod person flin iawn ar yr edefyn yma yn dod o .................. ardal Llanelli. Popeth wedi esbonio rwan!

Gwrando ma 'gw boi'. Cerddodd y Scarelts allan o Gogledd Cymru a rydym yn arwahan o hyn ymlaen, fellu rhyfedd bod cymaint o diddordeb.

Byddai'n hawdd iawn cael hwyl wrth son am y Scarlets yn waelodion y Magners, mas o'r Heineken, stadiwm haner wag, dyledion erchyll, tim dan oed yn colli i Gogledd Cymru.
Ond, byddai'n person drist iawn a mwy bwysig na hyn, bydda'i ddim yn canolbwyntio ar cheisio wella pawb a phopeth yn fy ardal fy hun.

Dwi'n awgrymu i ti wneud yr un peth, neu bydd dim dyfodol i'r Sgarlets.
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Rygbi Gogledd Cymru ac F C Barcelona

Postiogan ceribethlem » Sul 09 Mai 2010 7:20 pm

rygbigog a ddywedodd: Aaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaa! :syniad:

Newydd ddarganfod fod person flin iawn ar yr edefyn yma yn dod o .................. ardal Llanelli. Popeth wedi esbonio rwan!
Pwy yw hwnna te?

rygbigog a ddywedodd:Gwrando ma 'gw boi'. Cerddodd y Scarelts allan o Gogledd Cymru a rydym yn arwahan o hyn ymlaen, fellu rhyfedd bod cymaint o diddordeb.
Naddo, fe wedodd URC wrthyn nhw fod cynlluniau gyda nhw am Ogledd Cymru. Mae'r cynlluniau yn dechrau dwyn ffrwyth trwy greu RGC1404.

rygbigog a ddywedodd:Byddai'n hawdd iawn cael hwyl wrth son am y Scarlets yn waelodion y Magners, mas o'r Heineken, stadiwm haner wag, dyledion erchyll, tim dan oed yn colli i Gogledd Cymru.
Cytuno, mae'n hawdd cicio rhywun pan mae lawr.
rygbigog a ddywedodd:Ond, byddai'n person drist iawn a mwy bwysig na hyn, bydda'i ddim yn canolbwyntio ar cheisio wella pawb a phopeth yn fy ardal fy hun.

Dwi'n awgrymu i ti wneud yr un peth, neu bydd dim dyfodol i'r Sgarlets.

Beth yffach wyt ti'n trial gweud fan hyn?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Rygbi Gogledd Cymru ac F C Barcelona

Postiogan ceribethlem » Sul 09 Mai 2010 7:25 pm

rygbigog a ddywedodd:1. Prop pen rhydd: Rhodri Jones
2. Bachwr: Peter Edwards
3. Prop pen tynn: Cai Griffiths
4. Ail Rheng: Haydn Pugh
5: Ail Rheng: Joel Galley
6: Blaenasgellwr tywyll: Rob Mc Cusker
8. Wythwr: James King
7. Blaenasgellwr agored: Ben Rose

9. Mewnwr: Josh Leach
10 Maswr: Jack Roberts

11: Asgell chwith: Andy Fenby
12: Canolwr mewnol: Rob Higgitt
13: Canolwr allanol: Pat Leach
14: Asgell dde: Iolo Evans
15: Cefnwr: George North

Dywedes i tim neu garfan? Neu oes clem gyda ti beth ydi'r wahaniaeth. Ond mae amryw o eraill a pawb yn medru newid safle.

Ymddengys mai ti sydd ddim yn deall y gwahaniaeth. Carfan yw'r hollol chwareuwyr y gellir dewis ohonynt (rhyw ddeugain neu fwy gan amlaf). Tim yw'r 22 (neu'r 23 yn y Guiness ac Ewrop) sy'n troi lan ar ddiwrnod gem. Ti yn deall fod hawl gweud eilyddion tactegol yn ystod gem?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Rygbi Gogledd Cymru ac F C Barcelona

Postiogan ceribethlem » Sul 09 Mai 2010 7:41 pm

rygbigog a ddywedodd:1. Prop pen rhydd: Rhodri Jones
15. Cefnwr - George North

Trueni mai prop pen tynn yw Rhodri Jones gweler a chanolwr yw George North gweler :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Rygbi Gogledd Cymru ac F C Barcelona

Postiogan rygbigog » Sul 09 Mai 2010 8:23 pm

ceribethlem a ddywedodd:
rygbigog a ddywedodd:1. Prop pen rhydd: Rhodri Jones
15. Cefnwr - George North

Trueni mai prop pen tynn yw Rhodri Jones gweler a chanolwr yw George North gweler :winc:


Er.. ddim 15 ydi tim rygby, chwaraewyr yn methu chwarae mwy na 1 safle (Lee Williams), a dywedodd y Sgarlets byth fod y Gogledd yn rhy bell i nhw!!!!

Mae dy wybodaeth mor wag na eisteddle yn PYS. :lol:
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Rygbi Gogledd Cymru ac F C Barcelona

Postiogan ceribethlem » Llun 10 Mai 2010 7:30 am

rygbigog a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
rygbigog a ddywedodd:1. Prop pen rhydd: Rhodri Jones
15. Cefnwr - George North

Trueni mai prop pen tynn yw Rhodri Jones gweler a chanolwr yw George North gweler :winc:


Er.. ddim 15 ydi tim rygby,
Nage 22 (neu 23 yn Ewrop a'r Guiness.

rygbigog a ddywedodd:chwaraewyr yn methu chwarae mwy na 1 safle (Lee Williams),
Enghraifft wael yw Lee Williams. Mae Lee Williams wedi ei ddefnyddio oherwydd anafiadau i Mark Jones a Regan King (mae Lamont wedi gorfod symud i'r canol oherwydd anaf Lamont). Ffwlbri llwyr byddai dewis tim gyda chwareuwyr mas o le heb unrhyw opsiynnau i gael rhywun mwy profiadol yn y safle mewn oni bai bod rhaid.

rygbigog a ddywedodd:a dywedodd y Sgarlets byth fod y Gogledd yn rhy bell i nhw!!!!
Mae dyfyniad gan Nigel Davies yn son am y peth

rygbigog a ddywedodd:Mae dy wybodaeth mor wag na eisteddle yn PYS. :lol:

rygbigog a ddywedodd:Byddai'n hawdd iawn cael hwyl wrth son am y Scarlets yn waelodion y Magners, mas o'r Heineken, stadiwm haner wag, dyledion erchyll, tim dan oed yn colli i Gogledd Cymru.
Ond, byddai'n person drist iawn

Ti wedws i.

Gyda llaw, ti heb ddweud pwy sy'n dod o ardal Llanelli.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Nôl

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai