rygbigog a ddywedodd:Mae arian URC i'r timau rhanbarthol er mwyn i chwaraewyr Cymru cystadlu ar y lefel uchaf posib.
Arian URC? Ti'n siwr am hyn? Lle yn union mae'r arian yma i URC yn dod?
rygbigog a ddywedodd:Ond mae'r Scarlets yn tangyflawni ar, ac oddi ar, y cae.
Iesu, ti'n bach o harsh taskmaster os ti'n disgwyl galle'r tim 'na (a'r anafiade 'na) neud dipyn gwell na wnaethon nhw. Perfformiadau gweddol dda (ar wahan i gemau Leinster) yn Ewrop, diffyg dyfnder yn golygu fod cystadlu yn y Magners ac Ewrop yn mynd i fod yn anodd tu hwnt.
Mae'r Scarlets wedi gwneud cangymeriadau ariannol erchyll yn y gorffennol, ond fi ddim yn gwybod os mae tangyflawni bydden i'n galw hynny. Bellach, wrth gwrs, mae'n nhw'n cydnabod fod ffigurau ddim yn gweithio, ac mae'n nhw'n ceisio clirio dyledion. O ran gweithgareddau arall oddi ar y cae, mae pethau fel y beudy ymarfer yn arbennig o dda.