Scarlets i gefnogi'r Gleision

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Scarlets i gefnogi'r Gleision

Postiogan Duw » Gwe 28 Mai 2010 7:11 pm

Os ydy hynny'n wir - mae'r synnwyr symud o stadiwm gallant lenwi i un sydd dors 3/4 gwag yn un dalentog o dwp.

Mae stadiwm y Bluebirds yn crap. Sneb o'n ardal ni yn mentro lawr na bellach. Roedd mynd i weld y Gleision ar ddydd Sadwrn lawr yn y ddinas yn achlysur. Poen yw mynd i'w gweld yn y stadiwm newydd. :rolio:

Roedd modd dal y tren o Bontyclun a cherdded i Barc yr Arfau (stop mewn sawl tafarn ar y ffordd yna a'r ffordd nol!). Nawr, mae'n rhaid drifo 'na. Ffwrch o le.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Scarlets i gefnogi'r Gleision

Postiogan ceribethlem » Gwe 28 Mai 2010 11:24 pm

Macsen a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd: Fi'n poeni mwy am y ffordd mae niferoedd yn cwmpo yng Nghaerdydd ers iddyn nhw symud i stadiwm Lego.

Mae'n debyg bod y tyrfaoedd ar i fyny 25%... http://www.golwg360.com/Chwaraeon/cat4/Erthygl_12706.aspx

Dyw rhai y Scarlets ddim i lawr chwaith. Dwi'n meddwl mai'r stadiwms mawr yma sy'n rhoi'r agraff fod neb yn mynd i'w gwylio nhw...

O'r hyn dwi 'di clywed, ti'n iawn am gemau'r Scarlets.
Mae ffigurau'r Gleision (eto yn ol yr hyn glywais i) yn gamarweiniol. Mae'r niferoedd o bobl sy'n mynychu wedi codi, ond mae'r niferoedd sy'n talu i fynychu wedi cwympo'n arw. Roedd un o'm ffrindiau'n berchen ar docyn tymor, ond fe sylwodd fod nifer o docynnau rhad ac am ddim yn cael eu rhoi i bobl yn yr archfarchnadoedd yn wythnosol. Rhoddwyd cymaint o docynnau am ddim, bod fy ffrind wedi cael llond bola o dalu (a chael sedd gwael) am docyn, tra bod eraill yn cael tocynnau safonol (premium yw'r term defnyddiodd), felly mae wedi terfynnu ei docyn tymor. Mae nawr wedi dwedu y bydd yn gwrthod mynychu gem y Gleision byth eto.
Os yw hyn yn wir, mae'n peri gofyd anferth am ddyfodol y tim.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Scarlets i gefnogi'r Gleision

Postiogan Duw » Sad 29 Mai 2010 10:18 am

Marchnata gwael felly. Beth yw'r pwynt o weithio os oes modd cael y r'un peth ar y dôl?

Gêm dwetha es i weld y Gleision (erbyn Leinster) - tocynne tsiêp o ysgol y mab. Lle'n 3/4 gwag. Y swn mwya o gefnogwyr Leinster - tua 40 ohonyn nhw. Tro dwetha. Tro ola.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Scarlets i gefnogi'r Gleision

Postiogan Macsen » Sad 29 Mai 2010 10:24 am

Dyma sut fyddwn i yn cynnyddu nifer y bobol sy'n mynd i wylio rygbi'r clybiau. I ddechrau, symud y tymor i'r haf - llai o rygbi diflas attritional yn y glaw, dim cystadlu gyda pel-droed am sylw, a rhoi tymor y gogs ar yr un timescale a hemisffer y de.

Weeedyn ffurfio cynghrair ar y cyd gyda Lloegr a Ffrainc, naill ai torri nifer y timau i lawr fel bod yna ryw fath o Super 14, neu cynnwys bob tim sy'n bodoli ar hyn o bryd ond gyda promotion / relegation i tua tri cynghrair gwahanol o 13 tim. Wedyn byddai 4 uchaf y gynghrair yn chwarae 4 uchaf Super 15 hemisffer y de ar ddiwedd y tymor.

Hefyd mynd nol i tours hen ffasiwn pan oedd timau rhyngwladol sy'n dod i fyny o hemisffer y de yn chwarae clybiau /rhanbarthau lleol cyn herio'r tim rhyngwladol.

:seiclops:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Scarlets i gefnogi'r Gleision

Postiogan Duw » Sad 29 Mai 2010 5:57 pm

Dweda'i un beth. Stim diddordeb 'da fi wylio cymaint of estronied yn ware dan faner time Cymru. Ambell un iawn, ond nid dros hanner y tim. Gyda phob gem yn cal ei ddangos ar y bocs - stim ishe symud o'r clwb. Gyda naws y geme'n shit a'r trafferth sy ishe mynd i fe i gyrradd y tylle diawl, stim rhyfedd ma'n nhw'n mynd lawr y pan.

mae e fel bo'r 'powers that be' wedi cynllunio i neud eu hunen mor shit â sy'n bosib. Reginald Perrins y Byd Rygbi.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Scarlets i gefnogi'r Gleision

Postiogan ceribethlem » Sul 30 Mai 2010 10:22 pm

Macsen a ddywedodd:Dyma sut fyddwn i yn cynnyddu nifer y bobol sy'n mynd i wylio rygbi'r clybiau. I ddechrau, symud y tymor i'r haf - llai o rygbi diflas attritional yn y glaw, dim cystadlu gyda pel-droed am sylw, a rhoi tymor y gogs ar yr un timescale a hemisffer y de.

Weeedyn ffurfio cynghrair ar y cyd gyda Lloegr a Ffrainc, naill ai torri nifer y timau i lawr fel bod yna ryw fath o Super 14, neu cynnwys bob tim sy'n bodoli ar hyn o bryd ond gyda promotion / relegation i tua tri cynghrair gwahanol o 13 tim. Wedyn byddai 4 uchaf y gynghrair yn chwarae 4 uchaf Super 15 hemisffer y de ar ddiwedd y tymor.

Hefyd mynd nol i tours hen ffasiwn pan oedd timau rhyngwladol sy'n dod i fyny o hemisffer y de yn chwarae clybiau /rhanbarthau lleol cyn herio'r tim rhyngwladol.

:seiclops:

Wythnos nesa, Macsen yn egluro sut i gael heddwch Byd-eang :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Nôl

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron