Eleni am y tro cyntaf fe fydd Play-offs yng Nghyngrair Magners. Fe fydd y Gweilch adre yn erbyn Glasgow, tra fod Leinster adre i Munster. Gan fod gobeithion mawr gyda'r Gweilch a'r ddau dim Gwyddelig yn Ewrop, fe fydd y cyfle yma i ennill tlws yn wobr eilradd o dipyn. Serch hynny yr unig dlws gellir ennill felly mae'n well na dim.
Bydden i'n disgwyl gweld y Gweilch yn erbyn Leinster yn y rownd derfynnol, er does dim dal gyda Munster, mae'r gallu gyda nhw i ennill gemau clos iawn.