Gweilch trwyddo i'r ffeinal wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Glasgow neithiwr. Bydd Leinster yn erbyn Munster heno yn Nulyn. Os bydd Leinster yn ennill bydd y ffeinal yn Nulyn, ond os yw Munster yn ennill bydd y ffeinal yng Nghymru. Er mod i'n casau Munster a chas perffaith, byddai buddugoliaeth iddyn nhw yn meddwl y byddaf yn gallu mynd pum munud lawr y hewl i weld y ffeinal yn y Liberty.
Byddai cyfle i'r Gweilch i ddewis lleoliad, a bydde nifer yn tybio mae Stadiwm y Mileniwm bydd y lleoliad, camgymeriad byddai hwn yn fy marn i. Mae Munster yn enwog am gael miloedd o gefnogwyr yn heidio i gemau, byddai stadiwm maint y Mileniwm yn golygu gallai fod cryn dipyn mwy o gefnogwyr Munster nac o'r Gweilch. Mewn Stadiwm llai fel y Liberty gellir cael mwy o gefnogwyr y Gweilch a negyddu dylanwad cefnogwyr Munster.