Ffeinal Cynghrair Magners

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ffeinal Cynghrair Magners

Postiogan ceribethlem » Sad 15 Mai 2010 9:56 am

Gweilch trwyddo i'r ffeinal wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Glasgow neithiwr. Bydd Leinster yn erbyn Munster heno yn Nulyn. Os bydd Leinster yn ennill bydd y ffeinal yn Nulyn, ond os yw Munster yn ennill bydd y ffeinal yng Nghymru. Er mod i'n casau Munster a chas perffaith, byddai buddugoliaeth iddyn nhw yn meddwl y byddaf yn gallu mynd pum munud lawr y hewl i weld y ffeinal yn y Liberty.
Byddai cyfle i'r Gweilch i ddewis lleoliad, a bydde nifer yn tybio mae Stadiwm y Mileniwm bydd y lleoliad, camgymeriad byddai hwn yn fy marn i. Mae Munster yn enwog am gael miloedd o gefnogwyr yn heidio i gemau, byddai stadiwm maint y Mileniwm yn golygu gallai fod cryn dipyn mwy o gefnogwyr Munster nac o'r Gweilch. Mewn Stadiwm llai fel y Liberty gellir cael mwy o gefnogwyr y Gweilch a negyddu dylanwad cefnogwyr Munster.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Ffeinal Cynghrair Magners

Postiogan ceribethlem » Llun 17 Mai 2010 7:10 am

Yn Nulyn mae'r ffeinal, wedi i Leinster guro Munster. Mae'n hanfodol fod y Gweilch yn dechrau ennill gemau fel hyn yn gyson.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du


Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron