Clwb Cymric yn ennill dwbwl hanesyddol

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Clwb Cymric yn ennill dwbwl hanesyddol

Postiogan Rhys Meilir » Mer 26 Mai 2010 10:46 pm

http://www.bbc.co.uk/cymru/chwaraeon/sa ... 1033.shtml

Bu’n dymor llwyddiannus a hanesyddol iawn i glwb peldroed Clwb Cymric eleni gyda’r tim cyntaf yn ennill Uwchgynghrair Caerdydd a’r Fro ac hefyd Cwpan Intermediate Cymdeithas Beldroed De Cymru. Dyma’r tro cyntaf erioed i Glwb Cymric ennill y gwpan hon a’r ail dro i’r clwb ennill y gynghrair yn eu hanes. Dyma hefyd yr ail dro yn y pum tymor diwethaf i Cymric ennill y gynghrair a’r gwpan. Dathlwyd 40 mlynedd ers sefydlu Clwb Cymric, clwb peldroed i Gymry Caerdydd, diwedd y tymor diwethaf a cafodd y dathliadau gryn ddylanwad ac ysbrydoliaeth ar y chwaraewyr presennol.

Bu wythnosau olaf y tymor yn brysur iawn gyda Cymric yn chwarae hyd at dair gêm yr wythnos er mwyn cwbwlhau yr holl gemau cyn diwedd y tymor. Cafwyd rhediad o guro 12 gêm cyngrair yn olynol gan hefyd lwyddo mewn 4 gem gwpan ar dechrau’r flwyddyn. Gorffennodd y tim ar frig yr uwchgynghrair wedi curo 17 gêm allan o 22, gyda un gêm gyfartal a cholli 4 ac o bell ffordd y gwahaniaeth goliau gorau. Dros y tymor cyfan ym mhob cystadleuaeth sgoriodd Cymric 123 o goliau ac ildio ond 25, ystadegau sydd yn pwysleisio llwyddiant y tim o flaen y gol ac yn amddiffynnol.

Sefydlwyd cystadleuaeth Cwpan Intermediate Cymdeithas Beldroed De Cymru yn 1891 ac mae’n agored i dimau uwch cyngrheiriau lleol ar draws de Cymru o Bort Talbot, y Cymoedd, Caerdydd, Bro Morgannwg a Chasnewydd. Ar y ffordd i rownd derfynol y Gwpan, curodd Clwb Cymric dimau ar draws De Cymru gan sgorio 25 o goliau ac ildio un gol yn unig.

Tim Bryncae o ochrau Penybont oedd y gwrthwynebwyr yn y rownd derfynnol a gynhaliwyd yn Ffynnon Taf. O flaen torf brwdfrydig, Cymric oedd y tim cryfa o ddechrau’r gêm a gwastraffwyd sawl cyfle cyn i Steve Cope sgorio ar ôl tua hanner awr. Roedd Cymric hefyd yn drech na’r gwrthwynebwyr yn yr ail hanner gan reoli’r meddiant a chreu sawl cyfle ond methwyd a ychwanegu at y sgôr. Bu cryn ddathlu yn nhafarn y Mochyn Du, cartref y clwb!

Yn anffodus methodd y clwb eto esgyn i gynghrair Amateur De Cymru oherwydd diffyg cyfleusterau ond mae trefniadau ar waith i geisio gwella’r sefyllfa ar gyfer y tymor nesa ac hefyd y hir dymor. Bydd ymarfer yn dechrau eto yn mis Gorffenaf ac mae croeso i unrhyw chwaraewyr newydd ymuno a’r clwb a gellir cysylltu a’r clwb drwy’r cyfeiriad ebost clwbcymric@hotmail.com.
Rhys Meilir
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Gwe 21 Mai 2010 1:58 pm

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron