Tîm 'gwan' De'r Affrig

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Tîm 'gwan' De'r Affrig

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 03 Meh 2010 2:57 pm

Pa mor wan yw tîm De'r Affrig i chwarae Cymru dydd Sadwrn mewn gwirionedd? Dwi'n deall bod tipyn o chwaraewyr wedi cael eu gadael i orffwys yn Ne'r Affrig, a bod y tîm ond wedi cael rhai diwrnodau i ymarfer, ond mae'r tîm i'w weld yn gryf i fi!! Sawl un o'r chwaraewyr yna na fydde yng ngharafan Cymru pe tawn nhw'n Gymry e.e. :?

Tîm De'r Affrig i chwarae Cymru: Frans Steyn (Racing Metro); Gio Aplon (Stormers), Jaque Fourie (Stormers), Juan de Jongh (Stormers), Odwa Ndungane (Sharks); Ruan Pienaar (Sharks), Ricky Januarie (Stormers); CJ van der Linde (Leinster), John Smit (Sharks, capt), BJ Botha (Ulster), Danie Rossouw (Bulls), Victor Matfield (Bulls), Francois Louw (Stormers), Dewald Potgieter (Bulls), Joe van Niekerk (Toulon).
Eilyddion: Chiliboy Ralepelle (Bulls), Jannie du Plessis (Sharks), Alistair Hargreaves (Sharks), Ryan Kankowski (Sharks), Meyer Bosman (Cheetahs), Zane Kirchner (Bulls), Bjorn Basson (Cheetahs).

Mae'n drueni mowr fod Shane mas, ond yr ergyd mwyaf i Gymru yn fy marn bach i yw absenoldeb Gethin Jenkins.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Tîm 'gwan' De'r Affrig

Postiogan ceribethlem » Iau 03 Meh 2010 9:50 pm

Rheng ol gwan sydd gyda De'r Affrig, heb Juan Smith na Burger. Hefyd show-pony yn gefnwr. Ar wahan i hynny, mae'n edrych yn reit gryf.
Mae hwn yn dangos y diffyg dyfnder sydd gyda ni yng Nghymru mewn gwirionedd, mae colli ambell i chwareuwr i ni yn golled enfawr; i Dde'r Affrig, Seland Newydd a Ffrainc (yn bennaf) dyw colli lan at hannerf tim ddim o reidrwydd yn gwnhau'r tim.

Ni mynd i golli hon a cael ein treisio mas yn Seland Newydd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Tîm 'gwan' De'r Affrig

Postiogan ceribethlem » Llun 07 Meh 2010 10:10 am

ceribethlem a ddywedodd:Rheng ol gwan sydd gyda De'r Affrig, heb Juan Smith na Burger. Hefyd show-pony yn gefnwr. Ar wahan i hynny, mae'n edrych yn reit gryf.
Mae hwn yn dangos y diffyg dyfnder sydd gyda ni yng Nghymru mewn gwirionedd, mae colli ambell i chwareuwr i ni yn golled enfawr; i Dde'r Affrig, Seland Newydd a Ffrainc (yn bennaf) dyw colli lan at hannerf tim ddim o reidrwydd yn gwnhau'r tim.

Ni mynd i golli hon a cael ein treisio mas yn Seland Newydd.


Wedes i! Sgor yn awgrymu fod Cymru yn well nac oeddwn nhw. Doedden ni ddim yn haeddu bod o fewn sgor iddyn nhw. Dechrau rhydlyd gan De'r Affrig (gan nad oeddent wedi chwarae gyda'i gilydd o'r blaen), ond gwella dipyn wrth i'r gem mynd yn ei flaen.

Y daith i Seland Newydd, tybiaf mai colli'r gem gyntaf o rhyw 10-15 pwynt, wedi chwalfa yn yr ail brawf 35+ o bwyntiau. Papurau ishe gael gwared o Gatland wedyn, heb gymryd ystyriaeth o'r ffaith fod dim digon o chwareuwyr o safon gyda ni.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Tîm 'gwan' De'r Affrig

Postiogan ceribethlem » Llun 07 Meh 2010 3:27 pm

Ychydig fwy o amser gyda fi nawr.

15: Lee Byrne 5/10 = braidd yn siomedig, colli'r bel yn rhy hawdd
14: Leigh Halfpenny 6 = Dim lot o gyfle i wneud llawer
13: James Hook 4 = Rhy erratic, amddiffyn a lleoli yn simsan iawn
12: Jamie Roberts 6 = Cwarter agoriadol cryf, heb wneud llawer ers hynny.
11: Tom Prydie 7= Y cefnwr gorau o beth wmbreth, anffodus fod un cic wedi mynd yn farw.
10: Stephen Jones 4 = gem gwaethaf ers dipyn, gorfod dygymod a phel gwael iawn ar brydie. Cicio mas o'r dwylo'n siomedig.
9: Mike Phillips 4 = Gem gwael. Pasio'n erchyll ar adegau. Gem amddiffynol gryf.

1: Paul James 5 = Dim Gethin Jenkions yw e'. Mae'n iawn yn yr hyn mae'n wneud, ond sdim wmff 'na.
2: Mathew Rees 6 = Cario'r bel yn rymus. Y linell yn peri problemau unwaith eto.
3: Adam Jones 5 = Gem waethaf Adam ers dipyn
4: Bradley Davies 8 = Hanner agoriadol gwych, cario'r bel yn rymus iawn, ymddengys ei fod yn chwareuwr arbennig o dda.
5: Deiniol Jones 4 = Mae'n bell o fod o'r safon i chwarae rygbi rhyngwladol.
6: Jonathan Thomas 0 = hollol shit. Syndod o wan yn cario'r bel mewn i'r dacl. Perfformiad mwyaf llipa i fi weld gan flaenwr rhyngwladol erioed.
8: Ryan Jones 3 = Crap. Ddim mor crap a JT. Diffyg wmff, heb gario'n effeithiol. Gwell 6 nac 8.
7: Sam Warburton 8 = yn brwydro ar ei ben ei hunan yn y rheng ol. Edrych fel chwareuwr o fry.


Yr unig chwareuwyr ddaeth mas o'r gem ag unrhyw glod oedd Prydie yn y cefn, Matthew Rees, Bradley Davies a Sam Warburton yn y pac.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Tîm 'gwan' De'r Affrig

Postiogan Duw » Llun 07 Meh 2010 9:37 pm

Wel, torrodd SW ei en yn yr hanner cynta a chario mlaen i ware bron gem cyfan. Dyna'r ceillie sy ishe. Pwr dab - colli'r geme i ddod. Er i Gymru ware'n wael ar adege, gwnes ei fwynhau'n fawr. Wylle weles i gem gwahanol i bawb arall.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai