Mae'r Tair Gwlad yn dechre eto ar y penwthnos, gyda'r Cryse Duon adre i Dde'r Affrig. I symleiddio'n llwyr, mater o nerth a phwer De'r affrig yn erbyn gallu gwrth-ymosodol y Cryse Duon. Mae sgrym a llinell De'r Affrig yn edrych yn rymus tu hwnt, ond mae gan Seland Newydd McCaw i wneud y gwaith ar y llawr (twyllo!) a Maa Nonu i groesi'r linell fantais yng nghanol y cae.
Os caiff Seland Newydd ddigon o'r bel mae'r ddawn gyda nhw i ddatglou unrhyw amddiffyn. Y cwestiwn mawr yw a fydd gwaith McCaw yn ddigon i ennill cyflenwad digonol o bel da.
De'r Affrig o rhyw 5 yw fy rhagfynegiad i.