Tair Gwlad

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Tair Gwlad

Postiogan ceribethlem » Iau 08 Gor 2010 6:57 pm

Mae'r Tair Gwlad yn dechre eto ar y penwthnos, gyda'r Cryse Duon adre i Dde'r Affrig. I symleiddio'n llwyr, mater o nerth a phwer De'r affrig yn erbyn gallu gwrth-ymosodol y Cryse Duon. Mae sgrym a llinell De'r Affrig yn edrych yn rymus tu hwnt, ond mae gan Seland Newydd McCaw i wneud y gwaith ar y llawr (twyllo!) a Maa Nonu i groesi'r linell fantais yng nghanol y cae.
Os caiff Seland Newydd ddigon o'r bel mae'r ddawn gyda nhw i ddatglou unrhyw amddiffyn. Y cwestiwn mawr yw a fydd gwaith McCaw yn ddigon i ennill cyflenwad digonol o bel da.

De'r Affrig o rhyw 5 yw fy rhagfynegiad i.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Tair Gwlad

Postiogan ceribethlem » Sad 10 Gor 2010 3:15 pm

Jiawcs am rhagfynegiad gach. Nath blaenwyr Seland Newydd cael y gore o Dde'r Affrig yn gyffredinol. Y sgrym yn nerthol a'r linell yn hollol ddibynadwy, hyd yn oed dwyn ambell i bel ar ddafliad De'r Affrig.
Bakkies Botha yn debygol o gael ei wahardd am gyfnod dybiwn i yn dilyn penbwt (headbutt :lol: ) ar Cowan, mewnwr y cryse Duon.
Odd e'n bleser mawr cael gweld rygbi o safon mor uchewl gan Seland Newydd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Tair Gwlad

Postiogan rygbigog » Sul 11 Gor 2010 1:05 pm

Rhagfymegiad teg CB - OS oedd y dau tim ar eu orau.

Perfformiad gwaethaf y Boks am amser hir iawn, wrth adael i Polyneisiaid y Crusau Duon rhedeg.

Mae'r Boks wedi curo'r Duon tair waith eleni, ond ddoe yn credu dim ond troi lan oedd angen!

Ond cofiwch, blwyddyn cyn bob CyB mae'r Duon ar eu orau, a wedyn yn creudu dim ond troi lan sydd angen i cipio'r twrnament - ond beth sy'n digwydd bob 4 mlynedd!
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Tair Gwlad

Postiogan ceribethlem » Llun 12 Gor 2010 9:03 am

ceribethlem a ddywedodd:Bakkies Botha yn debygol o gael ei wahardd am gyfnod dybiwn i yn dilyn penbwt (headbutt :lol: ) ar Cowan, mewnwr y cryse Duon.
Naw wythnos i'r ionc.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Tair Gwlad

Postiogan Macsen » Gwe 16 Gor 2010 1:19 pm

Gwneud i ymdrechion Cymru edrych bach gwell!
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Tair Gwlad

Postiogan ceribethlem » Gwe 16 Gor 2010 2:03 pm

Macsen a ddywedodd:Gwneud i ymdrechion Cymru edrych bach gwell!

Ondyw e'. Roedd ail gem Cymru yn weddol. Y trueni yw nad oes llawer o fflach ymosodol gyda ni tra'n chware Stephen Jones, Jamie Roberts a Bishop yn y canol. Mae llawer yn son am Hook a'i greadigrwydd, ond mae'r boi yn gallu neud cymaint o gawlach o bethau fi ddim yn gwbod! Trueni nad yw Henson yn dod nol wedi'r cyfan.

Parthed gem y Crysau Duon a de'r Affrig fory, fi'n rhagweld gem tipyn mwy clos, ond y Cryse Duon yn fuddugol unwaith eto. Mae cicio Ricky Januerie yn sal, ac mae'r cwrso ddim lot gwell. Mae Jean De Villiers ar yr asgell yn rhy araf. Gan fod y Cryse duon wedi dangos fod dipyn mwy o nerth ymysg eu blaenwyr nac oedd llawer yn rhagfynegi, ddylent cael digon o bel glan, yn arbennig os bydd Tom Donnely yn cael cystal gem eto.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Tair Gwlad

Postiogan ceribethlem » Sul 25 Gor 2010 8:13 pm

O ran adeiladu am Gwpan y Byd flwyddyn nesa, tybed os fydd hi'r hen sdori o Seland Newydd yn "peako" rhy gynnar tra bod De'r Affrig yn adeiladu i gael momentwm ar yr adeg iawn.
De'r Affrig wedi cael dau stwffad yn erbyn Seland Newydd ond wedi bod dipyn gwell (er colli'n weddol drwm) yn erbyn Awstralia. Hefyd mae'n nhw'n diodde o gael nifer o gardiau melyn. 4 (neu ife 5?) mewn 3 gem nawr!
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du


Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron