Cymedrolwr: eusebio
Josgin a ddywedodd:Y gwir ydi fod peldroed Prydeinig fel 'na tan rhyw 30 mlynedd yn ol. Yr oedd taclo caled a mileinig (' rhychu' chydal Orig Williams ac Arthur Picton) yn ran annatod o'r gem, a hogia' caled cymaint o arwyr a'r asgellwyr a'r blaenwyr. Cafodd Pele ei gicio allan o gwpan y byd yn 1966 . Mi oedd tim dawnus Leeds dechrau'r 70au yn llawn moch (moch dawnus, cofiwch) - Hunter, Bremner a Giles am dri. Mi oedd gan Lerpwl nifer o 'enforcers ' - Tommy Smith ydi'r enwocaf, ond yr oedd Souness yn enghraifft arall o ' fochyn dawnus' . Nid oedd blaenwyr mor feddal ac y maent yn awr - mi oedd Wyn Davies y Cofi'n goblyn o foi gyda'i benelin yn y cwrt cosbi.
Dwi'n cofio sawl sglyfath ar Farrar Road, a pob un yn boblogaidd iawn .
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai