Cymru - Ewro 2012

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymru - Ewro 2012

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 14 Awst 2010 12:43 pm

Pa system hoffech chi weld Toshack yn chwarae yn y rhagbrofion a pwy ddylai fod yn y tîm 1af? Gyda pawb yn ffit dyma fyddwn i'n dewis 4-3-3 (4-5-1 pan yn amddiffyn)

---------------------Hennessey---------------------

Gunter------Williams------Collins------Ricketts

--------Collison------Ramsey------Ledley--------

----------Bellamy------Morison------Bale---------

Mae cryfder hefyd os oes anafiadau, gyda rhain oll yn chwarae yn yr Uwchgynghrair neu'r Bencampwriaeth (Fi'n credu!) 8)

Myhill, Morgan, Eardley, Nyatanga, Blake, Matthews, Gabbidon, Andy King, Crofts, Stock, David Edwards, David Vaughan, David Cotterill, Ched Evans, Simon Church, Vokes, Earnie
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cymru - Ewro 2012

Postiogan Ramirez » Sul 29 Awst 2010 10:02 am

Gareth Bale fel forward?!

Dau yn y blaen, Ramsey a Ledley yn y canol a Bale ar y chwith faswni'n ddewis, dwi'n meddwl. Ond efo Bale yn chwarae fel mae o yn left-back ar hyn o bryd, ella bysa'n well ei gadw fo'n fanno?
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Cymru - Ewro 2012

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 29 Awst 2010 12:25 pm

Bellamy a Bale ar yr esgyll tu ol o Morison oed gyda fi mewn golwg. Mae Bale wedi bod yn chwarae yn ymosodol trwy'r tymor gyda Tottenham ar y chwith o flaen y cefnwr chwith. Ar gyfer gem nos Wener yn erbyn Montenegro beth am 4-3-2-1 :

---------------------Hennessey---------------------

Gunter------Williams------Collins------Ricketts

--------Edwards---------King-------Ledley--------

-------------Bellamy--------------Bale-------------

-------------------------Morison--------------------

Eilyddion: Myhill, Eardley, Morgan, Crofts, Vaughan, Church, Evans
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cymru - Ewro 2012

Postiogan osian » Sul 29 Awst 2010 12:26 pm

Ramirez a ddywedodd:Gareth Bale fel forward?!

Dau yn y blaen, Ramsey a Ledley yn y canol a Bale ar y chwith faswni'n ddewis, dwi'n meddwl. Ond efo Bale yn chwarae fel mae o yn left-back ar hyn o bryd, ella bysa'n well ei gadw fo'n fanno?

Swn i'n deud bod Bale yn prysur ddod yn asgellwr yn hytrach nag amddiffynwr, felly ar y chwith fyswn inna'n roi o fyd
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Cymru - Ewro 2012

Postiogan Dai dom da » Maw 31 Awst 2010 9:28 am

Sawl un mas 'to, nhim i i'r gem nos wener;

---------------------Hennessey--------------------

Gunter------Morgan------Williams-----Rickets

--------Edwards-----Ledley------Vaughan------

Bellamy---------------------------------------Bale

--------------------Morison------------------------


Subs: Myhill - Eardley - Collins - King - Evans

Byddai'n uffernol o grac os wneith Toshack chware Bale fel cefnwr chwith! Achos dwi'n amau na beth fydd yn digwydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Re: Cymru - Ewro 2012

Postiogan Cynyr » Mer 01 Medi 2010 9:46 am

Ma wir angen i Williams chwarae yn y cefn, dyw e ddim yn deg chwarae fe fel 'holding midffildyr'. Dwi'n credu mai dyna fydd hi gan fod Morgan a Gabbidon allan.

Edrych mlan i weld y gem gan fod Bellamy a Bale yn top fform ar hyn o bryd.
Fydd hi'n yffach o annodd a dwi'n gweld Montenegro yn tynnu pwyntiau o wledydd eraill hefyd nid jest Cymru. Ma Bwlgaria dal mewn galar ar ol i Berbatov i ymddeol a sgen Swisdir ddim mwy o dalent na Chymru.

Dal angen i Toshack fynd!!!!
" And Britain defeats the rest of the world to pick up the bronze medal."
Rhithffurf defnyddiwr
Cynyr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 934
Ymunwyd: Llun 12 Gor 2004 10:37 am
Lleoliad: Clancrannock!!

Re: Cymru - Ewro 2012

Postiogan EsAi » Gwe 03 Medi 2010 8:44 pm

bechod 'sana gystal fform na oedd ar malcom allen!

Ma Dai di suro hefyd dydi?! gwynab tin drwy nos
Rhithffurf defnyddiwr
EsAi
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 436
Ymunwyd: Llun 08 Maw 2004 11:43 am

Re: Cymru - Ewro 2012

Postiogan Josgin » Gwe 03 Medi 2010 8:48 pm

Y crap arferol. Mae'n amlwg mai'r rheswm mai ymosodwr yw Bellamy yw nad yw'n deall mai gem pasio yw peldroed. Gwyliau hyfryd i Ledley ac Edwards- Tocyn am ddim i weld gem ryngwladol o ganol y cae. Mae gennym chwaraewyr rhyngwladol gyda'r gallu i chwarae fel chwaraewyr clwb(sal) pan wisgant grys eu gwlad .A welith Toshack gem Lloegr ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Cymru - Ewro 2012

Postiogan Agogo » Sad 04 Medi 2010 3:03 pm

Josgin a ddywedodd:Y crap arferol. Mae'n amlwg mai'r rheswm mai ymosodwr yw Bellamy yw nad yw'n deall mai gem pasio yw peldroed. Gwyliau hyfryd i Ledley ac Edwards- Tocyn am ddim i weld gem ryngwladol o ganol y cae. Mae gennym chwaraewyr rhyngwladol gyda'r gallu i chwarae fel chwaraewyr clwb(sal) pan wisgant grys eu gwlad .A welith Toshack gem Lloegr ?


Na, 'reign of terror' Toshack yn brysur dod i ben.
Dwi erioed wedi clywed sylwebydd yn gweiddi ' C'mon' fel nath Malcolm neithiwr cyn un cic rhydd Cymru.
Rhithffurf defnyddiwr
Agogo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Sul 04 Maw 2007 2:39 pm

Re: Cymru - Ewro 2012

Postiogan Ray Diota » Sad 04 Medi 2010 11:11 pm

Agogo a ddywedodd:Dwi erioed wedi clywed sylwebydd yn gweiddi ' C'mon' fel nath Malcolm neithiwr cyn un cic rhydd Cymru.


peth gore am yr holl noson!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!


Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai