Cymru A ?

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymru A ?

Postiogan rygbigog » Gwe 20 Awst 2010 11:21 am

Son am dod a'r tim yn ol! :ofn:

http://www.walesonline.co.uk/rugbynatio ... -27083391/

Ymddirheuriadau am yr fynhonell (a'r saesneg) ond mae'r pobol bwysig o ddifri yn trafod y sefyllfa!

Dau meddwl yma. Fel chefnogwr a Gog dwi'n cofio gemau mawr ar nos Wener yn y Cae Ras, torf mawr oedd yn methu cael tocyn neu methu teithio i'r gem fawr yng Nghaerdydd diwrnod wedyn.

Ond ydi'r gem wedi symud ymlaen ers 2003?

1. Rhanbarthau'n chwarae ar penwythnosau rhyngwladol, fellu digon o cyfle i'r hogia ifainc cael cyfle ynno.
2. Gem y tim cyntaf v Lloegr ar nos Wener - fellu pryd fydd posib chwarae Gem A?
3. Gogs yn canolbwyntio ar tim Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrair, fellu bydd cymaint yn hyrddio i'r Cae Ras os ynno fydd y lleoliad.
4. Y gem newydd corfforol yn creu mwy o anafiadau a ddangos diffug cryfder mewn dyfnder wlad fach fel Cymru.
5. Cymru Dan 20 yn cael ei weld fel tim ser ifainc y ddyfodol.
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Cymru A ?

Postiogan ceribethlem » Gwe 20 Awst 2010 2:48 pm

Nonsens dibwynt yw dod nol a'r Chymru A yn fy marn i. Mae gan y rhanbarthau gytundeb i gael ond 6 NWQ ym mhob sgwad. Wrth gymryd dwywaith cymaint o chwareuwyr mas adeg gemau rhyngwladol, mae'r rhanbarthau'n cael eu gwanhau ym mhellach gyda diffyg safon o chwareuwyr yn cymryd eu lle.
Byddai'n gwneud mwy o synnwyr i gynnal timoedd A rhanbarthol er mwyn datblygu'r talent sy'n cael diffyg amser chwarae. Mae'r gwactod rhwng y rhanbarthau a'r gynghrair yn anferth. Er enghraifft mae chwareuwr fel Kristian Phillips llawer rhy dda i'r gynghrair ond ddim eto'n barod i chwarae i safon rhanbarthol.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cymru A ?

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 20 Awst 2010 3:23 pm

Ron i'n joio'r gemau lefel A. Twpdra yw cynnal gemau rhanbarthol/clybiau yn ystod penwythnos gem rhyngwladol. Mae'n tanseilio'r cystadlaethau. Gwell fyddai dod nol a'r tim A, ond canslo gemau'r rhanbarthau ar benwythnosau rhyngwladol.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cymru A ?

Postiogan rygbigog » Gwe 20 Awst 2010 5:17 pm

Os mae'r strwythyr yn iawn, does dim angen timau A artiffisial o gwbwl, rhynglwadol neu rhanbarthol.

Roedd Cymru'n aflwyddians cyn y ranbarthau o herwydd gormod o clybiau proffesiynol o safon isel. Newid i strwythyr rhanbarthol a wedyn 2 Camp Lawn yn 5 mlynedd!

Hefyd gyda'r level ranbarthol. Yn hytrach na chreu gemau di bwrpas ail dim, mae angen gwella'r level o dan trwy buddsoddi yn yr Uwch Gynghrair Cymru - caeau, adnoddau. hyfforddi, etc.

Atgofion dda o Cymru A, ond yn edrych ymlaen i'r tymor hir, well gen i deithio 4 awr i weld Cymru'n enill na 1awr i weld ail dim yn enill.
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Cymru A ?

Postiogan ceribethlem » Gwe 20 Awst 2010 6:07 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Ron i'n joio'r gemau lefel A. Twpdra yw cynnal gemau rhanbarthol/clybiau yn ystod penwythnos gem rhyngwladol. Mae'n tanseilio'r cystadlaethau. Gwell fyddai dod nol a'r tim A, ond canslo gemau'r rhanbarthau ar benwythnosau rhyngwladol.

Fi'n cytuno, un broblem yw fod URC yn trefnu cymaint o gemau rhyngwladol bellach, mae'n tanseilio'r rhanbarthau'n llwyr. Fi'n credu nath Stephen Jones chwarae fwy on gemau i Gymru nac y gwnaeth i'r Scarlets llynedd. Sefyllfa dwl!
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cymru A ?

Postiogan rygbigog » Gwe 20 Awst 2010 6:44 pm

ceribethlem a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Ron i'n joio'r gemau lefel A. Twpdra yw cynnal gemau rhanbarthol/clybiau yn ystod penwythnos gem rhyngwladol. Mae'n tanseilio'r cystadlaethau. Gwell fyddai dod nol a'r tim A, ond canslo gemau'r rhanbarthau ar benwythnosau rhyngwladol.

Fi'n cytuno, un broblem yw fod URC yn trefnu cymaint o gemau rhyngwladol bellach, mae'n tanseilio'r rhanbarthau'n llwyr. Fi'n credu nath Stephen Jones chwarae fwy on gemau i Gymru nac y gwnaeth i'r Scarlets llynedd. Sefyllfa dwl!


Diwedd y gan yw'r geinig, CB!

Mae Cymru'n denu torfeudd 10 waith mwy na'r ranbarthau gyda tocynnau 2 neu 3 waith y pris, heb son am arian enfawr teledu a noddwyr.

Ond mae'r rhanbarthau'n talu arian mawr am dramorwyr ac angen cael arian trwyr giat. Problem i'r chefnogwyr rhanbarthol, ond gwych i chwaraewyr ifainc disglair o'r UGC chwarae gyda ser brofiadol.
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm


Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron