Sgorio Pnawn Sadwrn

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sgorio Pnawn Sadwrn

Postiogan Sioni Size » Sul 05 Medi 2010 11:54 am

Symudiad gwych i roi gemau byw bnawn sadwrn, a mae'r ddwy gem dwi di weld wedi bod yn hynod dda, Caerfyrddin v Aber a Llanelli v TNS.

Ond oes unrhyw un arall yn gweld y ticker ar y gwaelod yn rhy fawr? Mae methu gweld y bel oherwydd fod sgor Hayes and Yeading v Histon drosto yn medru mynd yn annymunol y degfed gwaith. Be am ei newid i un linell?

A pham Bury v Gillingham a Mansfield v Tamworth ond dim sgors yr Alban?
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Re: Sgorio Pnawn Sadwrn

Postiogan Josgin » Sul 05 Medi 2010 12:42 pm

Syniad da - hwyr glas i ni hyrwyddo ein clybiau ein hunain .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Sgorio Pnawn Sadwrn

Postiogan eusebio » Llun 06 Medi 2010 1:10 pm

Sioni Size a ddywedodd:Symudiad gwych i roi gemau byw bnawn sadwrn, a mae'r ddwy gem dwi di weld wedi bod yn hynod dda, Caerfyrddin v Aber a Llanelli v TNS.


Tair gêm - Y Bala v Bangor hefyd
:winc:

Sioni Size a ddywedodd:A pham Bury v Gillingham a Mansfield v Tamworth ond dim sgors yr Alban?


Hawliau - rhyfedd o fyd ond mae angen prynnu'r hawl i ddangos sgôrs hyd yn oed
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Sgorio Pnawn Sadwrn

Postiogan Cynyr » Gwe 10 Medi 2010 8:57 am

Sioni Size a ddywedodd:A pham Bury v Gillingham a Mansfield v Tamworth ond dim sgors yr Alban?


Efallai bod rhai ohonym yn edrych ymlaen i weld sgor Tamworth Sioni !!! :winc:
Na, dwi'n cytuno. Dim ond gem Bala v Bangor dwi di gweld mor belled a uffarn o gem dda fyd. Edrych ymlaen i gem dydd sadwrn, Prestatyn v Castell Nedd ia?
" And Britain defeats the rest of the world to pick up the bronze medal."
Rhithffurf defnyddiwr
Cynyr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 934
Ymunwyd: Llun 12 Gor 2004 10:37 am
Lleoliad: Clancrannock!!

Re: Sgorio Pnawn Sadwrn

Postiogan garynysmon » Sad 11 Medi 2010 9:51 pm

Gem bach dda eto heno, Castell Nedd a Prestatyn dal yn chwilio i'w hennill hi holl ffordd i'r chwiban ola'.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon


Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron