Dwi'n meddwl fod e wedi neud yn dda dan amgylchiadau anodd dros y blynyddoed diwethaf, anafiadau e.e. Gabbidon, chwarewyr yn ymddeol gynt na phryd
(Simon Davies edrycha ar David Weir!).
Un blip fach yw canlyniad Montenegro, oni bant o adref ac roeddent yn dim bach da llawn trefn, gôl ffodus, a bu bron i ni cael hi'n gyfartal, rhy gynnar i banico gleu?!
Ma fe wedi dod a llwyth o chwarewyr ifanc ardderchog drwyddo, a sawl un o rheini yn mynd mlaen i arwyddo cytyndebau da gyda clybiau. Byddai'n siomedig os eith e yn ystod yr ymgyrch yma, a'r holl ail adeilau eto ddeith gyda rheolwr newydd.
Dwi'n cyfaddef dwi ddim yn deall lot fawr am bel droed, ond dwi'n deall bod Mr T. yn deall ei stwff, a mae fod yn rheolwr ar Gymru fach yn dalcen caled.
Yr unig foi all cymeryd ei le yw Brian Flynn. Dwi'n gobeithio wneith e ddim rhoi'r ffidil yn y tô serch hynny.
Er mwyn y mowredd allen ni fennu lan 'da Robbie Savage!
Paid mynd Tosh!