Ta ta Toshack...

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ta ta Toshack...

Postiogan Duw » Maw 07 Medi 2010 8:59 pm

Cytuno bo disgwyliade'r cefnogwyr yn uwch na photensial y tim. Er, a ydy Montenegro yn well na ni? Mae'r geme diwetha wedi bod yn siambls llwyr. A eiff canrif heibio cyn bo Cymru'n cyrraedd pencampwriaeth o safon eto, pwy bynnag sy'n arwain?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ta ta Toshack...

Postiogan Ray Diota » Maw 07 Medi 2010 11:29 pm

Duw a ddywedodd:Cytuno bo disgwyliade'r cefnogwyr yn uwch na photensial y tim.


Nagyw ddim. Dyw cefnogwyr Cymru'n disgwyl dim byd - gobeithio yden ni, a hynny jyst am dim sy'n mynd i roi rial go iddi ym mhob gem. Sneb yn disgwyl i ni gwoliffeio o'r grwp 'ma, ond dyle fod gobeth 'da ni tan y 2/3 gem ddiwetha o leia. Ma safon y chwaraewyr fel unigolion yn well 'na peth wmbreth o'r timau sy'n perfformio'n well 'na ni.

Dwi'n mawr obeithio y bydd Tosh yn mynd go iawn dydd Iau a bydd y FAW yn neud y peth call a rhoi Flynn yn 'i le'n syth tra bo'r grwp 'ma dal yn fyw. Fydden i hefyd yn rhoi cic awt i Saunders achos ar y foment ma'r boi'n neud 2 jobyn yn wael.

Ma canlyniade hyd yn hyn yn awgrymu bo Lloeger yn mynd i ennill y grwp yn haws hyd yn oed nag on ni'n meddwl o'r blan. Sai'n gweld Montenegro na'r Swisdir yn mynd heb golli o leia dwywaith ne dair a gymran nhw bwyntie wrth i gilydd. Os gurwn ni bulgaria mis nesa, ma'r peth yn hollol agored.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Ta ta Toshack...

Postiogan Duw » Iau 09 Medi 2010 12:19 pm

">Cytuno bo disgwyliade'r cefnogwyr yn uwch na photensial y tim."

Fel mae e yn i mi. Dwi'n disgwyl iddyn nhw guro Montenegro. Yn anffodus, mae'r tîm/aweinydd yn crap. Wedi bod ers sbel, er am rhyw rheswm dwi dal yn disgwyl iddyn nhw guro timoedd fel y Faroes, Pwll Mawr 4ths, Brynaman Eagles Veterans.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ta ta Toshack...

Postiogan dil » Llun 20 Medi 2010 10:41 am

negyddol ne be.
mar tim yma yn mynd i fod yn un da.
coleman dir boi i gymru dwi meddwl.
tosh di neud gwaith da er fod ambell gem di mynd yn sal.
amser a ddengys ond dwin obeithiol.
Rhithffurf defnyddiwr
dil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 488
Ymunwyd: Gwe 19 Maw 2004 11:47 am

Re: Ta ta Toshack...

Postiogan Gorwel Roberts » Gwe 24 Medi 2010 8:22 am

Mi nath Toshack waith da mewn cyfnod anodd - gwell na Hughes mae'n debyg yn ystadegol. Dwn i ddim be ddigwyddith dan y rheolwr nesaf - peidiwch a disgwyl rhyw welliant mawr mewn dim o amser....
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nôl

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron