Ta ta Toshack...

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ta ta Toshack...

Postiogan osian » Llun 06 Medi 2010 12:51 am

http://news.bbc.co.uk/sport1/hi/footbal ... 970745.stm
Do'n i ddim yn un o'r rhei fuodd yn galw am ei ymddiswyddiad o ers blynyddoedd, ond mi o'n i'n dechra' anesmwytho ers tro, ac ar ôl nos wener, dwi'n meddwl bod pawb - yn cynnwys Toshack - yn gytûn.
Amsar cael gwaed ifanc. Angen rhywun gaiff effaith debyg i Mark Hughes 10 mlynedd yn ôl. h.y. un o'r genhedlaeth honno o chwaraewyr.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Ta ta Toshack...

Postiogan bartiddu » Llun 06 Medi 2010 11:22 am

Dwi'n meddwl fod e wedi neud yn dda dan amgylchiadau anodd dros y blynyddoed diwethaf, anafiadau e.e. Gabbidon, chwarewyr yn ymddeol gynt na phryd (Simon Davies edrycha ar David Weir!).

Un blip fach yw canlyniad Montenegro, oni bant o adref ac roeddent yn dim bach da llawn trefn, gôl ffodus, a bu bron i ni cael hi'n gyfartal, rhy gynnar i banico gleu?! :rolio:

Ma fe wedi dod a llwyth o chwarewyr ifanc ardderchog drwyddo, a sawl un o rheini yn mynd mlaen i arwyddo cytyndebau da gyda clybiau. Byddai'n siomedig os eith e yn ystod yr ymgyrch yma, a'r holl ail adeilau eto ddeith gyda rheolwr newydd. :(

Dwi'n cyfaddef dwi ddim yn deall lot fawr am bel droed, ond dwi'n deall bod Mr T. yn deall ei stwff, a mae fod yn rheolwr ar Gymru fach yn dalcen caled.
Yr unig foi all cymeryd ei le yw Brian Flynn. Dwi'n gobeithio wneith e ddim rhoi'r ffidil yn y tô serch hynny.

Er mwyn y mowredd allen ni fennu lan 'da Robbie Savage! :? Paid mynd Tosh!
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: Ta ta Toshack...

Postiogan Doctor Sanchez » Llun 06 Medi 2010 12:02 pm

Dwi'n licio Tosh, a nath o ddod a chwaraewyr fatha Bale, Gunther a Rambo drwodd bron cyn i'w clybiau nhw eu chwarae'n rheolaidd, sydd yn help i ddyfodol pel droed Cymru.

Ond dwi yn meddwl ei bod hi'n amser i fynd wan. Mae o di cal chwech mlynadd, a diom di gneud digon i ddeud y gwir.

Oddan ni'n gach yn erbyn Montenegro nos Wenar, heb ddangos dim wrth ymosod, a hynny'n cynnwys Bale a Bellamy as yr esgyll!

Dwnim be oedd oddan nhw wedi bod yn mynd drwyddo yn training, ond yn amlwg doedd y tictacs ddim yn ddigon da. Dau ne dri pas sydyn ag oedd y montenegrins drwy'r midffild fatha cyllall boeth drw fenyn. Doedd Bale a Bellamy methu ymosod achos bod nhw'n gorfod trio amddiffyn y midffild.

Methu cadw'r bel di'r broblam. Dwim yn dalld sud ma chwaraewyr sy'n ennill miloedd o bunnoedd bob wsnos, ac yn gneud dim byd ond trenio a chwarae pel droed, yn methu pasio.

Odd Collins allan o safle bob tro, achos fod o'n gorfod cyfro Ricketts, odd yn ffacin warthus fathag arfar. Lle ma'r hogyn Matthews na sy'n chwara i Gaerdydd? Odd son fod Man U ar i ol o y tymor diwethaf, dio di brifo?

Heblaw am yr amddiffyn (fydd yn well pan ddoith Gabbidon yn ei ol) ma tim Cymru yn un go lew ar bapur, a ma Bale a Bellamy yn 'world class' felly ma'n rhaid ma ar Toshack ma'r bai bod nhw methu chwara efo'i gilydd.

Y son ydi fod Toshack wedi deud wrth yr FAW am gymeryd Giggs fel yr hyfforddwr newydd. Nath o weithio i ni efo Mark Hughes, a ma Giggs di cael ei hyfforddi gan y gorau, run fath a Hughes. Swn i'n hapus hefo Giggs.
Not my fault. Monkey bastard hands!

WHAT!? Am I holding a crock of shit!? Tell me something. Is this hospital called "St. Crock of Shit"!?
Rhithffurf defnyddiwr
Doctor Sanchez
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 160
Ymunwyd: Llun 10 Maw 2008 1:02 pm
Lleoliad: Ysbyty ManTywyll

Re: Ta ta Toshack...

Postiogan osian » Llun 06 Medi 2010 12:04 pm

bartiddu a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod e wedi neud yn dda dan amgylchiadau anodd dros y blynyddoed diwethaf, anafiadau e.e. Gabbidon, chwarewyr yn ymddeol gynt na phryd (Simon Davies edrycha ar David Weir!).

Un blip fach yw canlyniad Montenegro, oni bant o adref ac roeddent yn dim bach da llawn trefn, gôl ffodus, a bu bron i ni cael hi'n gyfartal, rhy gynnar i banico gleu?! :rolio:

Ma fe wedi dod a llwyth o chwarewyr ifanc ardderchog drwyddo, a sawl un o rheini yn mynd mlaen i arwyddo cytyndebau da gyda clybiau. Byddai'n siomedig os eith e yn ystod yr ymgyrch yma, a'r holl ail adeilau eto ddeith gyda rheolwr newydd. :(

Dwi'n cyfaddef dwi ddim yn deall lot fawr am bel droed, ond dwi'n deall bod Mr T. yn deall ei stwff, a mae fod yn rheolwr ar Gymru fach yn dalcen caled.
Yr unig foi all cymeryd ei le yw Brian Flynn. Dwi'n gobeithio wneith e ddim rhoi'r ffidil yn y tô serch hynny.

Er mwyn y mowredd allen ni fennu lan 'da Robbie Savage! :? Paid mynd Tosh!


Dwi'n derbyn hynna, dydi Cymru ddim yn dîm da ac ma'n goblyn o job rheoli nhw. Ond, ma 7 mlynedd yn gyfnod hir i unrhyw reolwr, ac ma wirioneddol angen rhywun newydd.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Ta ta Toshack...

Postiogan Josgin » Llun 06 Medi 2010 12:28 pm

Gol ffodus ? Ym mha ffordd ?. Mi wnaeth o'n union beth oedd o wedi bwriadu ei wneud.
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Ta ta Toshack...

Postiogan bartiddu » Llun 06 Medi 2010 12:46 pm

Wel digon teg, ond bwrw'r bar a mynd mewn wnaeth hi ynde (os dwi'n cofio'n iawn..), allei wedi bwrw'r bar a gwyro am mas, ond rhy hwyr nawr, ymddengys bod Toshack yn mynd :? Yn ol awgrymiadau'r western mail dwi'n darllen nawr, ma Giggs/Flynn yn swnio'n diddorol, chwystrelliad bach o hen law ac arwr i ysbrydoli.....
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: Ta ta Toshack...

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 06 Medi 2010 9:21 pm

Fi wedi bod yn gefnogwr mawr i Tosh dros y blynyddoedd ond mae'n amser iddo fe fynd nawr. Byswn i'n rhoi Flynn mewn fel rheolwr yn syth. Mae'n nabod yr holl chwaraewyr ers eu cyfnod yn chwarae i'r tim dan-21, ac fe wnaeth e gal y gore mas ohonyn nhw yn y cyfnod yna. Byddai cael Giggs i fod yn rhif 2 i Flynn yn wych os yw hynny'n bosibl, gyda Giggs yn cymryd yr awenau ar gyfer y gemau rhagbrofol nesaf, ond dwi ddim yn ffyddiog y bydd Giggs am dderbyn swydd gyda Cymru ar hyn o bryd. Dwi ddim yn gweld unrhyw bwynt i Toshack aros ar gyfer y 2 gem nesaf, bydd hi'n rhyw hwyr wedyn i unrhyw un arall allu gwneud gwahaniaeth, os yw e am fynd, gwell iddo fynd yn syth neu aros nes diwedd y gemau rhagbrofol yma.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Ta ta Toshack...

Postiogan Duw » Llun 06 Medi 2010 9:22 pm

Wel, dwi'm dilyn pel droed yn rheolaidd, ond mae'n edrych fel ei fod wedi colli parch mysg y chwaraewyr - atgoffa i o ddiweddglo Graham Henry. Os oes agendor rhyngddo a'r chwaraewyr, y rheolwr dylai fynd. Trueni - mae gennyf lawer o barch tuag ato. Mae'r holl sôn am Giggsy yn gwneud i mi chwerthin. Bydd ishe rhywun profiadol sy ddim dal yn chwarae pob Sadwrn. Gyda cholled erbyn shrimps y grwp, tywyll yw'r ffordd. Wylle dylai newid cael ei wneud nawr yn hytrach nag ar ôl y 2 gêm nesa. A fydde'r chwaraewyr yn rhoi popeth mewn i'r gêm gan wybod roedd y bos yn "gweithio'i docyn"? Hwyaden clôff?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ta ta Toshack...

Postiogan Aberblue » Llun 06 Medi 2010 9:59 pm

Gwynt teg ar ôl y twmffat tew da-i-ddim.

Mae Cymru wedi dioddef chwe mlynedd o bêl-droed eithriadol o wael yn ystod cyfnod Toshack. Fe aeth ef mas o'i ffordd i gael gwared o bobol fel Savage a Collins; roedd nifer fawr o chwaraewyr yn amlwg yn ei gasau - pa wlad arall sydd wedi cael cymaint o'u chwaraewyr gore yn gadael?


"Ond reodd e wedi rhoi cyfle i'r bois ifanc
" medd ei gefnogwyr - ie, rwy'n edrych arnat TI, Abandonato. :x Pa ddewis arall oedd ganddo - roedd wedi gelyniaethu llawer o'r tô hyn. Ac roedd wedi cadw y goalie Paul Jones yn lot rhy hir hefyd.

Yr unig ganlyniad da alla i gofio i ni gael dan Toshack oedd curo Slovakia 5 - 2 oddi cartref. Crafu buddugoliaethau yn erbyn gwledydd fel Cyprus, San Marino, Azerbaijan a Liechtenstein oedd yr uchafbwyntiau o dan Toshack.

Rwy'n cofio un aelod o Gyngor yr FAW yn siarad yn erbyn Toshack rai blynyddoedd yn ôl - cafodd y dyn druan ei gosbi am feiddio dweud y gwir! Mor nodweddiadol o'r corff sy'n cam-lywodraethu pêl-droed yng Nghymru!
Aberblue
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 29
Ymunwyd: Maw 26 Meh 2007 5:37 pm
Lleoliad: Ceredigion

Re: Ta ta Toshack...

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 07 Medi 2010 6:44 pm

Cytuno efo Aberblue gant y cant! Mae gan y Cymry duedd nid yn annhebyg i'r Saeson, gwaetha'r modd, i feddwl ein bod ni'n well nag ydan ni mewn difrif, ond diwadd y gân 'di hyn; mi ddudodd Toshack i'w feirniadu ar sail ymgyrch Cwpan y Byd 2010 ac roedd honno ymgyrch ofnadwy. Roedd rhai o'r gemau unigol ymysg y gwaetha dwi erioed wedi gweld tîm rhyngwladol yn chwarae, heb sôn am Gymru. Mae Toshack wedi mynd â Chymru cyn belled ag y gall a hynny ers blynyddoedd bellach. Gwynt teg.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Nesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron