rygbigog a ddywedodd:Dim posib gael 'Ail Gyfle' pan does dim 'Cyfle Gyntaf'! Mae'r drefn pel droed yn well, ddyrchafu a gostwng timau'n awtomatig - ond mae corff Clwbiau'r Uwch Gynghrair wedi llwyddo i tynnu'r drws yn dyn iawn.
Ai, o'n i'n amau fod e ddim cweit yn addas, ond y term agosa gallai feddwl am
rygbigog a ddywedodd:Bydd y Crwydriaid yn wan o herwydd fod Chaerdydd wedi dennu'r hyfforddwr a chwaraewyr, mae Bedwas yn twll heb adnoddau addas, ac mae Tonmawr yn pentre gyda un dyn arian ac un chwaraewr lleol. Yn fy mharn i, mae angen safon well o adnoddau a canolbwyn ar ddatblygu chwaraewyr ifainc. Mwy o symyd i fynnu ac i lawr, neu cael gwared o'r llanast British & Irish Cup a dwy uchwanegol yn yr UG.
Mae URC yn sicr yn ceisio datblygu safon yn nhermau adnoddau o fewn y clybiau, arwain dybiwn i at geisio gosod cytundebau canolog ar y chwareuwyr. Yn bersonol fi ddim yn credu fydd cytundebau canolog o les i Gymru yn y tymor hir, ond dadl arall yw hynny.
rygbigog a ddywedodd:Pob lwc i Chaucey yn Glasgow. Cytundeb 2 fis yn unig, ond wedyn ar gael i Ganada ar taith mis Tachwedd, a wedyn.....? Dysgodd llawer gyda'r Gogs a Clive Griff, mae angen ddatblugu mwy o sgiliau ond bydd ei gem yn addas iawn i'r Albanwyr, corfforol iawn. Fellu dwi' gobeithio bydd o'n llwyddo i barhau gyda Glasgow am y tymor, a wedyn gyda Canada i Cwpan Y Byd.
Ie, cytundeb dros dro tra bod un o sgwad Glasgow wedi cael anaf. Blaenasgellwr os gofiaf yn iawn?
rygbigog a ddywedodd:Mae chroeso dda i'r Cannucks llenwi'r bylchau yma, gyda cymaint o Gogs yn timau Llanelli a'r Scarlets.

McCusker yn sicr yn gwneud enw da i'w hunan. George North wedi cael dechreuad safonol iawn hefyd (yn y cyn dymor

pre season) yn ogystal a'i ddechrau mas yn yr Eidal. Ofnaf fod agwedd amaturaidd Llanelli yn golygu mai tim eilradd fyddan nhw am cryn dipyn, a datglygu talent ar gyfer y Gweilch a Chaerdydd yw ei tynged.