'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrair

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: 'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrai

Postiogan rygbigog » Gwe 21 Ion 2011 9:54 pm

Does dim cydymdeimlad at methiant ranbarthau y De o'r Gogs. Os bydd y system gwreiddiol wedi bydoli (Gorllewyn / De / Dwyrain / Gogledd), bydd rhanbarth y Gogledd yn gryfach na Connaught (ac yn creu mwy o chwaraewyr) a ranbarth y Gorllewin llawer gryfach na Munster (ac yn gystadlu ac enill ar brig Ewrop). Diolch am dim Mr Gallagher.

Mae'r Gogledd eleni yn gorffen Cynllyn Datblygu 5 mlynedd, gyda timau dan oed yn medru cystadlu gyda'r ranbarthau a tim dynion yn medru cystadlu gyda clwbiau Uwch Gynghrair, ond yn mwy bwysig wedi dechrau sylfaenau o'r cyflesterau sydd yn angen: http://www.wru.co.uk/23042.php Mae'r cwmni anibynol sydd wedi gorffen y gwaith yma gyda dyledion o £35,000 ond wedi dod a byddsodiad o £6,400,000, dim synnu mae'r URC yn mynnu cymryd drosodd. Dwi' heb wedi weld y llyfrau, ond mae honiadau bod y ddau rheswm am y dyled o herwydd 1) URC yn mynnu newid enw'r tim o Rygbi Gogledd Cymru i RGC1404 a 2) rhan o costau'r Canncks ddim yn cael ei dalu can Rygbi Canada fel y cytunwyd.

Ond i feddwl bod peldoed Lloegr wedi gwario £15 filiwn ar ymgyrch aflwyddianus am Cwpan Y Byd, efallai mae sefyllfa yn y Gogledd ddim mor ddrwg na hynnu.
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: 'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrai

Postiogan Duw » Maw 25 Ion 2011 11:03 pm

Yn bersonol, dwi'n wir gobeithio bydd RC... yn llwyddiant. Mae angen lledu'r gem nid crebachu i sawl ardal fechan o'n gwlad. Tybed faint o'n trigolion sydd yn byw digon agos i 4 stadiwm i fynychu gemau yn rheolaidd? Braf byyde gweld tim o'r gogs yn chwarae rhai o'n dodrefn yn wythnosol. Win-win.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: 'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrai

Postiogan ceribethlem » Mer 26 Ion 2011 9:09 am

Bydden i'n lico gweld rygbi yn y Gogledd yn llwyddo, ond fi'n ame na fydde fe yn. Does dim digon o ddwyster poblogaeth yna i'w gynnal. Mae'r trafferthion ariannol gyda RGC1404, y Croesgadwyr a Wrecsam yn y gorffennol yn dangos pa mor anodd yw hi i gynnal camp broffesiynol lan 'na.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: 'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrai

Postiogan rygbigog » Mer 26 Ion 2011 7:42 pm

ceribethlem a ddywedodd:Bydden i'n lico gweld rygbi yn y Gogledd yn llwyddo, ond fi'n ame na fydde fe yn. Does dim digon o ddwyster poblogaeth yna i'w gynnal. Mae'r trafferthion ariannol gyda RGC1404, y Croesgadwyr a Wrecsam yn y gorffennol yn dangos pa mor anodd yw hi i gynnal camp broffesiynol lan 'na.

Gamgymeriad erchyll gan gweithiwr dros dro o'r URC oedd RGC1404, dinistriodd llawer o'r hunaniaeth mae pobol Gogledd Cymru wedi cael gyda tim rygbi Gogledd Cymru ers 80 mlynedd. Collodd y cwmni oedd yn rhedeg y tim arian mawr o herwydd hyn, dim synnu y peth gyntaf a wnaethwyd yr URC ar ol cymryd yr awenau oedd cyhoeddi fod yr enw RCG1404 wedi mynd i'r bin sbwriel!

Gyda'r ffin rhwng ranbarthau'r Sgarlets a'r Gogledd uwchben Aberystwyth, byddai'n meddwl mae'r poblogaeth a'r ddwyster poblogaeth yn debyg i'r ddau.
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: 'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrai

Postiogan ceribethlem » Mer 26 Ion 2011 8:33 pm

rygbigog a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Gyda'r ffin rhwng ranbarthau'r Sgarlets a'r Gogledd uwchben Aberystwyth, byddai'n meddwl mae'r poblogaeth a'r ddwyster poblogaeth yn debyg i'r ddau.

Wrth dwysedd poblogaeth, fi'n son am y boblogaeth hwnnw sydd o fewn pellter teithio hawdd. Mae Caerdydd a Chasnewydd yn amlwg yng nghanol (ish) eu dinasoedd, mae'r Gweilch wedi eu lleoli yn agos i Abertawe a'n weddol agos i Gastell Nedd. Mae'r Sgarlets yn Llanelli sydd a phoblogaeth mawr ac yn weddol agos at Gaerfyrddin. Roedd y Rhyfelwyr ym Mhenybont ac yn agos at Bontypridd, serch hynny llipa oedd eu torfeydd.
Yr hyn sy'n fy mhoeni am gael rhanbarth lefel uchaf yng Ngogledd Cymru yw bydd disgwyl i'r ffans deithio pellter i'w gyrraedd. Bydd y novelty factor yn gwneud i'r torfeydd ymddangos yn dda ar y dechrau, ond beth wedyn? Beth sy'n digwydd ar ddiwrnod oer/gwlyb pan mae'r gem ar y teledu, neu pan mae'r tim yn cael cyfnod siomedig?
Mae'r syniad sydd gyda URC o greu Academi yn rhywbeth fydd yn helpu i ddatblygu talent, ond a fydd hynny yn ddigon i gynnal tim proffesiynol?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: 'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrai

Postiogan rygbigog » Mer 26 Ion 2011 11:43 pm

Mae Parc Eirias ar ochr ffordd mwyaf ar draws y Gogledd (A55) ac yn agos i'r A470 i lawr yr ardal, sy'n galleogi rhan fwyaf o'r ranbarth gyraedd y stadiwm o fewn awr.
I feddwl mae ranbarth y Gogledd yn rhan mwyaf o filiwn o pobol, mae'n amlwg pam mae'r URC yn awyddus i ddatblugu'r diddordeb. Academi > Clwb Uwch Gynghrair > Rhanbarth Proffessiynol ? Amser fydd yn penderfynnu.
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: 'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrai

Postiogan ceribethlem » Iau 27 Ion 2011 11:08 am

rygbigog a ddywedodd:Mae Parc Eirias ar ochr ffordd mwyaf ar draws y Gogledd (A55) ac yn agos i'r A470 i lawr yr ardal, sy'n galleogi rhan fwyaf o'r ranbarth gyraedd y stadiwm o fewn awr.
I feddwl mae ranbarth y Gogledd yn rhan mwyaf o filiwn o pobol, mae'n amlwg pam mae'r URC yn awyddus i ddatblugu'r diddordeb. Academi > Clwb Uwch Gynghrair > Rhanbarth Proffessiynol ? Amser fydd yn penderfynnu.

Arian mwy nag amser.
Fi wedi clywed si fod cae Gogledd Cymru ddim lan i'r safonau gosodwyd gan URC er mwyn cael mynediad i Uwch-gynghrair Cymru. Mae hwn yn golygu buddsoddiad mawr er mwyn cael hwn lan i'r safon angenrheidiol.
Y broblem arall yw'r trac record sydd gyda URC yn rheoli clybiau ar y lefel uchaf. Dan oruwchwyliaeth URC fe chwalwyd y rhyfelwyr bron yn syth, ac ers i URC berchen ar 50% o'r Dreigiau, mae pethau wedi bod yn anodd iddyn nhw hefyd.
Dwi o'r farn (er yn gobeithio mod i'n anghywir) na fydd tim cynta Gogledd Cymru yn cael llawer o sylw gan URC, ac yn diflannu. Yr academi i ddatblygu'r chwareuwyr ifanc fydd o ddiddordeb iddyn nhw, ac fydd unrhywun sy'n cyrraed y nod yn cael eu cynnig i gael contract datblygu yn un o'r rhanbarthau arall.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: 'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrai

Postiogan rygbigog » Iau 27 Ion 2011 3:31 pm

ceribethlem a ddywedodd:

Cytuno, mae camgymeriadau yn cael ei wneud gan URC - ond ddim angos cymaint na dyddiau Glanmor. Roedd yr 1404 peth yn sarhad i iaith gyntaf y ranbarth - mor ddrwg a gorfodi ail enwi'r Sgarlets yn SA14! Clywais hefyd bod yr URC wedi dechrau mynnu rheolaeth o'r tim yn ystod ail haner llwyddianus tymor diwethaf - er i nhw gwrthod rhoi ceiniog yn uniongyrchol at arianu''r tim. Digon hawdd fod yn amheus a credu oedd lladd hunaniaeth (a'r incwm) trwy newid yr enw yn ffordd o sicrhau bydd popeth yn syrthio mewn i ddwylo'r URC.

Fellu beth mae'r URC yn cynllunio? Mae'r gwaith ddatblygu'r stadiwm eleni yn codi'r safonau Parc Eirias o lefel Uwch Gynghrair i stadiwm well na beth sydd gyda Connaught. Bydd y Crusaders yn gorfen tua 2012 neu 2013 ond yn gadael miloedd o chefnogwyr gyda angen i wylio rygbi broffessiynnol. Gyda ser rygbi Cymru yn gadael am yr arian mawr yn Ffrainc, mae'n bosib bydd yr URC yn edrych i canolbwyntio'r arian at 5 tim?
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: 'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrai

Postiogan ceribethlem » Iau 27 Ion 2011 7:46 pm

rygbigog a ddywedodd:Fellu beth mae'r URC yn cynllunio? Mae'r gwaith ddatblygu'r stadiwm eleni yn codi'r safonau Parc Eirias o lefel Uwch Gynghrair i stadiwm well na beth sydd gyda Connaught. Bydd y Crusaders yn gorfen tua 2012 neu 2013 ond yn gadael miloedd o chefnogwyr gyda angen i wylio rygbi broffessiynnol.

Beth yw'r Crusaders i neud da'r peth? Dim yr un camp yw e.

rygbigog a ddywedodd: Gyda ser rygbi Cymru yn gadael am yr arian mawr yn Ffrainc, mae'n bosib bydd yr URC yn edrych i canolbwyntio'r arian at 5 tim?

Gyda ser Cymru yn gadael am Ffrainc, bydden i'n tybio mae crynhoi'r arian bydde'r ateb, nid teneuo'r holl beth rhwng mwy o glybiau.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: 'Play Offs' i Rygbi Gogledd Cymru mewn i'r Uwch Gynghrai

Postiogan luluxiu » Gwe 19 Awst 2011 1:14 am

Scarlets yw hyfforddi personél, a Dreigiau, ac yna i pensiwn bach a gyrru pobl ifanc. Fy mhrif ddiddordeb AME Coleg RGC1404 Undeb Rygbi Cymru, cyn mynd i'r gwely ar gyfer y Scarlets i'r gweilch glas neu unrhyw dalent ifanc, os nad ydynt yn ddigon da.
luluxiu
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Mer 17 Awst 2011 8:31 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron