Does dim cydymdeimlad at methiant ranbarthau y De o'r Gogs. Os bydd y system gwreiddiol wedi bydoli (Gorllewyn / De / Dwyrain / Gogledd), bydd rhanbarth y Gogledd yn gryfach na Connaught (ac yn creu mwy o chwaraewyr) a ranbarth y Gorllewin llawer gryfach na Munster (ac yn gystadlu ac enill ar brig Ewrop). Diolch am dim Mr Gallagher.
Mae'r Gogledd eleni yn gorffen Cynllyn Datblygu 5 mlynedd, gyda timau dan oed yn medru cystadlu gyda'r ranbarthau a tim dynion yn medru cystadlu gyda clwbiau Uwch Gynghrair, ond yn mwy bwysig wedi dechrau sylfaenau o'r cyflesterau sydd yn angen: http://www.wru.co.uk/23042.php Mae'r cwmni anibynol sydd wedi gorffen y gwaith yma gyda dyledion o £35,000 ond wedi dod a byddsodiad o £6,400,000, dim synnu mae'r URC yn mynnu cymryd drosodd. Dwi' heb wedi weld y llyfrau, ond mae honiadau bod y ddau rheswm am y dyled o herwydd 1) URC yn mynnu newid enw'r tim o Rygbi Gogledd Cymru i RGC1404 a 2) rhan o costau'r Canncks ddim yn cael ei dalu can Rygbi Canada fel y cytunwyd.
Ond i feddwl bod peldoed Lloegr wedi gwario £15 filiwn ar ymgyrch aflwyddianus am Cwpan Y Byd, efallai mae sefyllfa yn y Gogledd ddim mor ddrwg na hynnu.