Gemau rhygwladol y Tachwedd

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan ceribethlem » Llun 29 Tach 2010 6:20 pm

Duw a ddywedodd:Hmm. Darllen y papur heddi (dim ysgol!), roedd Gatland yn son pa mor hapus odd e gyda'r bois a'i fod yn edrych ymlaen i gâl rhyw 4 chwaraewr dewis cynta'n ôl. Twat. Ennill 2 gêm allan o 13. Dyna beth fydd pobol yn cofio amdano.

Er wylle'n annheg, y rhanbarthe sy'n gyfrifol am ddatblygu ein chwaraewyr - sgilie sylfaenol ayyb. Ishe bo nhw o safon cyn bo nhw'n cripan mlan i'r ca. A oes gormod o estronied yn ware i'r rhanbarthe? Dyma hen ddadl 'da fi. Shwt allwn ni ddatblygu dyfnder pan fydd cymaint o Kiwis and duwknowswot yn ware pob penwthnos. Blydi trychineb. A'r hen bwynt ei bo nhw'n datblygu chwaraewyr o'u cwmpas - gret i'r rheiny o'u cwmpas, ond beth am ser yr academis sy ffili câl gêm a symud i'r lefel nesa?

Jest enghraifft o'r Gleision (2010-2011):

Paul Tito (NZ)
Ben White (AUS)
Xavier Rush (NZ)
Andries Pretorius (RSA)
Mike Paterson (NZ)
Dan Parks (SCO)
Ma'ama Molitika (TON)
Casey Laulala (NZ)
Taufa’ao Filise (TON)
Ben Blair (NZ)
Tom Brown (ENG?!)

Allan o garfan 40, mae'r estroniaid yn cyfri o gwmpas 25%. Peidiwch â sôn bo hwnna'n iawn. Gwarth. Bydde 5 yn hen ddigon. Stopes i gefnogi'r Sgarlets am eu bod wedi cychwyn ar brynu'r holl estroniaid. Wrth ddilyn y Gweilch, dwi dal yn yr un cwch. Os fyddai am ddilyn tim o Gymru, bydd yn rhaid i mi symud i Ffrainc. :rolio:

Mae gemau'r Tachwedd yn rhannol gyfrifol am hyn yn fy marn i. Gan fod URC yn cymryd chwareuwyr Cymru o'r rhanbarthau am gyfnodau hir mae angen cael chwareuwyr tramor mewn i lenwi llefydd. Mae agwedd URC at y gynghrair yn golygu fod pobol yn colli diddordeb yn y gem. Mae'n hollol wirion fod y gynghrair yn parhau gyda cymaint o gemau rhyngwladol yn mynd mlaen yr un pryd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan rygbigog » Maw 30 Tach 2010 11:23 am

Gwyliais y Gweilch v Caerlyr yn ystod Gyfres yr Hydref, gem gwych gyda hogia ifainc lleol yn cymryd y cyfle i ddangos pwy ydi'r dyfodol.

James King (Gogledd Cymru), Joe Rees, Kristian Phillips, Tom Prydie, Ashley Beck, Matthew Morgan, Craig Mitchell, etc. Oni bai am yr GyH bydd y chyfle yma ddim yn digwydd. Wrth i'r bois yma codi o'r Uwch Gynghrair Cymru mae rhai mwy ifainc yn llenwi'r bylchau ac eto'n mwynhau'r cyfle.

Yr unig problem ar y funud ydi gormod o chwaraewyr rhyngwladol yn rhai ranbarthau (Gweilch) a bron dim yn eraill (Dreigiau).
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan ceribethlem » Mer 08 Rhag 2010 7:43 pm

Ffacin gemau dibwynt* wedi niweidio George North - mae mas am tua 12 wythnos mae'n debyg. Mae dechrau da'r Sgarlets mynd i ddymchwel yn rhacs yn fuan iawn.



*dibwynt yn hermau rygbi - holl bwynt y gemau yma yw talu dylwed URC. Contions.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan rygbigog » Sul 12 Rhag 2010 4:03 pm

ceribethlem a ddywedodd:Ffacin gemau dibwynt* wedi niweidio George North - mae mas am tua 12 wythnos mae'n debyg. Mae dechrau da'r Sgarlets mynd i ddymchwel yn rhacs yn fuan iawn.



*dibwynt yn hermau rygbi - holl bwynt y gemau yma yw talu dylwed URC. Contions.


Yn edrych yn ol:

Hapus i fynd a'r 3 tim gorau yn y byd i'r 10 munud olaf a 225,000 yn gwylio yn SyM.

Ddim yn hapus gyda'r '4ydd' gem ar hyn o bryd; diffyg dyfnder a methu dewis chwaraewyr Cymru tu allan i'r wlad.

Cytundebau Canolog? Dadl arall yn lle arall!
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Nôl

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 24 gwestai