Duw a ddywedodd:Hmm. Darllen y papur heddi (dim ysgol!), roedd Gatland yn son pa mor hapus odd e gyda'r bois a'i fod yn edrych ymlaen i gâl rhyw 4 chwaraewr dewis cynta'n ôl. Twat. Ennill 2 gêm allan o 13. Dyna beth fydd pobol yn cofio amdano.
Er wylle'n annheg, y rhanbarthe sy'n gyfrifol am ddatblygu ein chwaraewyr - sgilie sylfaenol ayyb. Ishe bo nhw o safon cyn bo nhw'n cripan mlan i'r ca. A oes gormod o estronied yn ware i'r rhanbarthe? Dyma hen ddadl 'da fi. Shwt allwn ni ddatblygu dyfnder pan fydd cymaint o Kiwis and duwknowswot yn ware pob penwthnos. Blydi trychineb. A'r hen bwynt ei bo nhw'n datblygu chwaraewyr o'u cwmpas - gret i'r rheiny o'u cwmpas, ond beth am ser yr academis sy ffili câl gêm a symud i'r lefel nesa?
Jest enghraifft o'r Gleision (2010-2011):
Paul Tito (NZ)
Ben White (AUS)
Xavier Rush (NZ)
Andries Pretorius (RSA)
Mike Paterson (NZ)
Dan Parks (SCO)
Ma'ama Molitika (TON)
Casey Laulala (NZ)
Taufa’ao Filise (TON)
Ben Blair (NZ)
Tom Brown (ENG?!)
Allan o garfan 40, mae'r estroniaid yn cyfri o gwmpas 25%. Peidiwch â sôn bo hwnna'n iawn. Gwarth. Bydde 5 yn hen ddigon. Stopes i gefnogi'r Sgarlets am eu bod wedi cychwyn ar brynu'r holl estroniaid. Wrth ddilyn y Gweilch, dwi dal yn yr un cwch. Os fyddai am ddilyn tim o Gymru, bydd yn rhaid i mi symud i Ffrainc.
Mae gemau'r Tachwedd yn rhannol gyfrifol am hyn yn fy marn i. Gan fod URC yn cymryd chwareuwyr Cymru o'r rhanbarthau am gyfnodau hir mae angen cael chwareuwyr tramor mewn i lenwi llefydd. Mae agwedd URC at y gynghrair yn golygu fod pobol yn colli diddordeb yn y gem. Mae'n hollol wirion fod y gynghrair yn parhau gyda cymaint o gemau rhyngwladol yn mynd mlaen yr un pryd.