Gemau rhygwladol y Tachwedd

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan ceribethlem » Iau 04 Tach 2010 2:37 pm

Mae'r gemau nonsens yr Hydref ar fin dechrau. Gemau sy'n tynnu chwareuwyr wrth eu cyflogwyr am dros fis i chwarae gemau diwerth heb ddim gwerth ei ennill ar y diwedd. Gemau sy'n codi'r risg o anafiadau ychydig cyn i'r gemau pwysig Cwpan Heineken ddechrau.

Ta beth.
Cymru yn erbyn Awstralia fydd y gem agoriadol.

Dyma'r timoedd:

Cymru
15: James Hook;
14: Will Harries,
13: Tom Shanklin,
12: Andrew Bishop,
11: Shane Williams,
10: Stephen Jones,
9: Mike Phillips;

1: Gethin Jenkins,
2: Matthew Rees (c),
3: Adam Jones,
4: Bradley Davies,
5: Alun Wyn Jones,
6: Dan Lydiate,
7: Sam Warburton,
8: Jonathan Thomas.

Eilyddion : Huw Bennett, Paul James, Deiniol Jones, Martyn Williams, Richie Rees, Dan Biggar, Chris Czekaj.

Awstralia
15. Kurtley Beale
14. James O’Connor
13. Adam Ashley-Cooper
12. Matt Giteau
11. Drew Mitchell
10. Quade Cooper
9. Will Genia

8. Ben McCalman
7. David Pocock
6. Rocky Elsom (c)
5. Nathan Sharpe
4. Mark Chisholm
3. Ben Alexander
2. Stephen Moore
1. Benn Robinson

Eilyddion: Saia Faingaa, James Slipper, Dean Mumm, Richard Brown, Luke Burgess, Berrick Barnes, Lachie Turner.


Ddyle Cymru cael y fantais yn y sgrym (yn dibynnu ar ddylanwad Wayne Barnes), Ar wahan i hynny mae'r Wallabies yn edrych yn rhy gryf o lawer. Mae Pocock yn chwareuwr anhygoel. Llinell Cymru yn tueddu i fod braidd yn fregus, felly mantais i Awstralia dybiwn i. Mae Rocky Elsom yn hynod o ddylanwadol gyda'r bel yn ei ddwylo.

Mae llinell ol Awstralia mor greadigol, tra fod Cymru gyda Shanklin a Bishop yn y canol. Cyfuniad amddiffynol gref ond yn ddi fflach yn ymosodol.

Fi'n rhaglwed Cymru yn cael coten yn y gem yma. Awstrlia i ennill wrth 20+
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan Duw » Iau 04 Tach 2010 10:08 pm

Cytuno Ceri - tua 20 os yn fwdlyd/glaw trwm/to ar agor. Wylle o gwmpas 40 os yw'r maes yn sych. :(
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan rygbigog » Iau 04 Tach 2010 10:13 pm

Gemau sy'n dod a rhwng 200,000 a 250,000 mewn i'r Mileniwm, rhai yn talu £70 y set, a galleuogi'r undeb i rhoi £6,000,000.00 i'r ranbarthau bob flwyddyn!

Mae'r Gemau y Hydref rwan yn flynyddol, fel y Chwe Gwlad. Timau gorau y De yn yr Hydref, timau gorau'r Gogledd yn y Gwanwyn.

Diwedd y gan yw'r geiniog Ceri, angen 75,000 ar Cymru, o leia 10,000 i'r ranbarthau, o leia 1,000 i'r Brif Clybiau, 100 neu ddwy i'r clybiau fach.

Arianu'r llwybr i'r brig.
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan ceribethlem » Gwe 05 Tach 2010 7:38 pm

rygbigog a ddywedodd:Gemau sy'n dod a rhwng 200,000 a 250,000 mewn i'r Mileniwm, rhai yn talu £70 y set, a galleuogi'r undeb i rhoi £6,000,000.00 i'r ranbarthau bob flwyddyn!
£6 miliwn i'r rhanbarthau? bolycs. Dyw'r undeb ddim yn rhoi unrhywbeth tebyg iddyn nhw.

rygbigog a ddywedodd:Mae'r Gemau y Hydref rwan yn flynyddol, fel y Chwe Gwlad. Timau gorau y De yn yr Hydref, timau gorau'r Gogledd yn y Gwanwyn.
Mae nifer ob un o wledydd y Gogledd yn chwarae pob un o timoedd y De mewn rhyw gyfuniad, felly dim i wneud a'r goreuon v y goreuon. Er enghraifft, dyw'r Alben yn methu denu'r timoedd mawr yn yr un modd ag y mae Cymru, Lloegr ac Iwerddon yn medru gwneud. Dyw torfeydd yr Alban ddim yn ddigon i ariannu'r teithiau yma. Gwneud arian ar gyfer yr Undebau gwahanol yn unig yw pwrpas y gemau yma.


rygbigog a ddywedodd:Diwedd y gan yw'r geiniog Ceri, angen 75,000 ar Cymru, o leia 10,000 i'r ranbarthau, o leia 1,000 i'r Brif Clybiau, 100 neu ddwy i'r clybiau fach.
Diwedd y gan yw'r geiniog, ond y clybiau sy'n gorfod darganfod yr arian er mwyn talu'r chwareuwyr yma. Mae James Hook, fel enghraifft, wedi chwarau bron hanner cymaint o gemau i Gymru ag y mae i'r Gweilch. Mae hynny'n hollol hurt.


rygbigog a ddywedodd:Arianu'r llwybr i'r brig.
Does dim llwybyr i'r brig. Mae'r bois ifanc - George North, Tom Prydie, Kristian Phillips, Rob McCusker ayyb heb weithio'i ffordd lan o'r gwaelodion. Mae'r chwareuwyr o safon yn dechrau ar y brig (yn nhermau clwb) oherwydd eu bod yn cael eu sbotio'n ifanc ac yn mynd i'r Academi. Mae'r bois sy'n chwarae i'r clybiau is yn shit (yn nhermau rygbi lefel uchel).
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan ceribethlem » Gwe 05 Tach 2010 7:49 pm

rygbigog a ddywedodd:Gemau sy'n dod a rhwng 200,000 a 250,000 mewn i'r Mileniwm, rhai yn talu £70 y set, a galleuogi'r undeb i rhoi £6,000,000.00 i'r ranbarthau bob flwyddyn!

Mae'r Gemau y Hydref rwan yn flynyddol, fel y Chwe Gwlad. Timau gorau y De yn yr Hydref, timau gorau'r Gogledd yn y Gwanwyn.

Diwedd y gan yw'r geiniog Ceri, angen 75,000 ar Cymru, o leia 10,000 i'r ranbarthau, o leia 1,000 i'r Brif Clybiau, 100 neu ddwy i'r clybiau fach.

Arianu'r llwybr i'r brig.

Bach o wanieth yn dy syms di fynna :lol:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan Duw » Sad 06 Tach 2010 9:58 am

Mae'r gost yn warthus - tocyn £60+. Sut ar y ddaear alla'i fynd â'r mab i weld tim deche? £120+ mynediad a'r holl nonsens 'achlysur' sy'n mynd ar ben hwnna. Gallet fentro bydde dim llawer o newid o £200 am gwpwl o orie.

Mae URC/Stadiwm wedi colli'u penne. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan Duw » Sad 06 Tach 2010 4:25 pm

Perfformiad da, ware teg. Dim awch ymosod shwt. Blaenwyr yn wych.

Cwpwl o dacle gwan. A oes gormod o ffocws ar 'man and ball'? Taclo rownd y coese wedi mynd mas o fashiwn.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan rygbigog » Sad 06 Tach 2010 4:49 pm

ceribethlem a ddywedodd:
rygbigog a ddywedodd:Gemau sy'n dod a rhwng 200,000 a 250,000 mewn i'r Mileniwm, rhai yn talu £70 y set, a galleuogi'r undeb i rhoi £6,000,000.00 i'r ranbarthau bob flwyddyn!

Mae'r Gemau y Hydref rwan yn flynyddol, fel y Chwe Gwlad. Timau gorau y De yn yr Hydref, timau gorau'r Gogledd yn y Gwanwyn.

Diwedd y gan yw'r geiniog Ceri, angen 75,000 ar Cymru, o leia 10,000 i'r ranbarthau, o leia 1,000 i'r Brif Clybiau, 100 neu ddwy i'r clybiau fach.

Arianu'r llwybr i'r brig.

Bach o wanieth yn dy syms di fynna :lol:


Efallai oherwydd roedd un o ni yn AGM yr Undeb, ac un ddim! :winc:
Golygwyd diwethaf gan rygbigog ar Sad 06 Tach 2010 4:54 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan rygbigog » Sad 06 Tach 2010 4:53 pm

Duw a ddywedodd:Mae'r gost yn warthus - tocyn £60+. Sut ar y ddaear alla'i fynd â'r mab i weld tim deche? £120+ mynediad a'r holl nonsens 'achlysur' sy'n mynd ar ben hwnna. Gallet fentro bydde dim llawer o newid o £200 am gwpwl o orie.

Mae URC/Stadiwm wedi colli'u penne. :rolio:


£25 mae'r tocynnau rhataf Duw, llai na'r cost i gwylio gemau clwb peldroed.

Gam bwyll gyda'r cyflymder yfed hefyd, £40 mewn dwy awr! :ofn:
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan rygbigog » Sad 06 Tach 2010 4:56 pm

Duw a ddywedodd:Perfformiad da, ware teg. Dim awch ymosod shwt. Blaenwyr yn wych.

Cwpwl o dacle gwan. A oes gormod o ffocws ar 'man and ball'? Taclo rownd y coese wedi mynd mas o fashiwn.


Gyda haner dwsin yn absenol, mae llai na 10 pwynt yn ymdrechh dda. Cofiwch yn erbyn tim llawn Awstralia - sydd newydd curo'r Crysau Duon.
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Nesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai

cron