gan ceribethlem » Iau 25 Tach 2010 5:03 pm
TIm Cymru i wynebu Seland Newydd
15: Lee Byrne
14: George North
13: Tom Shanklin
12: James Hook
11: Tom James
10: Stephen Jones
9: Mike Phillips
1: Gethin Jenkins
2: Matthew Rees (capt)
3: Adam Jones
4: Bradley Davies
5: Alun Wyn Jones
6: Dan Lydiate
7: Sam Warburton
8: Ryan Jones
Eilyddion: Huw Bennett, Paul James, Jonathan Thomas, Andy Powell, Martyn Williams, Richie Rees, Andrew Bishop.
Tim Seland Newydd i gipio'r Gamp Lawn mewn steil a llond berfa o bwyntie:
15: M Muliaina
14: I Toeava
13: C Smith
12: SB Williams
11: H Gear
10: D Carter
9: J Cowan
1: T Woodcock
2: K Mealamu
3: O Franks
4: B Thorn
5: S Whitelock
6: J Kaino
7: R McCaw (capt)
8: K Read (Crusaders).
Eilyddion: A Hore, J Afoa, A Boric, D Braid, A Ellis, S Donald, M Nonu.
Dyfarnwr: Allan Lewis (Ireland)
Tim cryfa posib Cymru (gan fod anafiadau gyda Shane, 1/2c a Henson heb whare ers tro - Ian Evans ddim nol i'w orau), serch hynny o gymharu ambell i frwydyr, mae'n ymddangos i mi fod Seland Newydd yn mynd i ennill o dipyn.
Muliaina v Byrne - Muliaina yw'r gorau yn y Byd, ac mae Byrne heb ddychwelyd i'w orau. Bydd Muliaina yn gwrthymosod ar bob cyfle, felly bydd ein cicio gorfod bod yn dda. Byrne heb ddangos yr awch i wrthymosod ers tro byd.
Smith a Williams v Shanklin a Hook - Sonny Bill yn anferth a thalentog, tueddu i redeg lot mwy syth na Hook sy'n golygu ei fod yn fwy tebyg o glymu mewn yr amddiffyn. Conrad Smith yn chwareuwr galluog tu hwnt, ac yn cynnig mwy na Shanklin, er fod Shanklin ar ei ddydd yn parhau i fod yn chwareuwr o safon.
Cowan v Phillips - ar ei ddydd mae Phillips yn gallu bod yn wych (gweler taith y Llewod), serch hynny mae tipyn mwy ym mhen Cowan, ac mae'n edrych ar ei opsiynau mewn ffordd tipyn gwell.
Mc Caw v Warburton - Y meistr lan yn erbyn gobaith mawr newydd rygbi Cymru. Profiad McCaw yn mynd i ennill hon, er bydd Warburton yn chwareuwr o safon hynod uchel mewn dim o dro.
Read v Jones - Jones ddim yn cael ei barchu gystal ac y dylai, mae'n chwareuwr call iawn (er fod ei gapteiniaeth yn erbyn Ffiji yn doji) ond mae Read yn darllen y gem mor effeithiol, ac yn tueddu i gyrraedd y llefydd cywir yn aml iawn.
Carter v Jones - Fi heb wneud cymhariaeth o'r ddau yma, achos mae gymaint yn dibynnu ar ba mor gyflym bydd y bel yn cael ei gyflwyno o'r ryciau (neu sgarmesi - er fod Cymru ddim i weld yn rhy hoff o'r sgarmes).
Nonsens