Gemau rhygwladol y Tachwedd

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan rygbigog » Maw 23 Tach 2010 10:03 pm

Duw a ddywedodd:Parthed y gem olaf. Allen i fod wedi mynd lawr i Gaerdydd i mofyn tocyn neu 'cael' un o'r clwb. Dyw'r chwant ddim yna. Eitha posib bo tocynne wedi gwerthu mas, ond wyndran faint o docynne'r clybie fydd yn ffeindio'u ffordd i ddwylo'r twots (sic).

Mae'r prisie'n dyrchinebus stim ots sut mae rhai yn trio'u hamddiffyn. O, hoffi'r sylw am ddisgyn prisie'r haf. Mae Joci Soch yn hedfan, myn jiawch i. :rolio:


Roeddwn yn synnu faint o twots oedd ynno am y gem De Affrig, ond braf weld amrym dal gyda llond dyrn o docynnay heb werthu chwarter awr cyn y gem. :lol:

Mae rhai o'r clybiau'n cwyno fod ddim digon o elw ar ol werthu'r tocynnau i chwmniau!. :rolio: Dim cydymdeimlad yma.
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan Duw » Mer 24 Tach 2010 8:11 pm

Hoffwn fod wedi gweld y diawled mewn panics cwarter awr cyn y gem. Er, maen nhw'n gwbod be ma nhw'n neud, felly synen i'n fawr os na naethon nhw rhyw faint o elw.

Er, mae hwn yn gofyn cwestiwn o werth y twots. Dwi wastod wedi eu cymryd fel scum. Ond, a ydyn nhw'n darparu gwasanaeth anghenrheidiol neu ydyn nhw'n cymryd y pisho? A fyddech chi'n gwerthu tocyn iddyn nhw?

Dwi wedi gwerthu tocynne cyn nawr, ond dim ond i ffans am bris y tocyn. Nid am geiniog goch yn fwy. :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan rygbigog » Mer 24 Tach 2010 10:03 pm

Mae pawb sy'n gwylio Cymru'n aml gyda ffrindiau wedi bod yn yr un sefyllfa; rhwyn gyda problem salwch, trafnidiaeth, neu'r wraig wedi canslor permit!

Colli £40 neu sefyll yn canol y twots gyda'r tocyn yn yr awyr, gyda trafferth gwerthu o herwydd mae pawb yn meddwl ti'n twot arall yn ofyn gormod.

Dwi'n credu mae angen man swyddogol tu allan i'r stadiwm lle mae chefnogwyr iawn yn medru prynnu a gwerthu tocynnau, ond am pris y tocyn a dim mwy!

Bydd nifer wedyn yn medru gwerthu/prynnu tocynau spar am pris y tocyn, ac anghoffio am y cockneys, scowsars, a'r holl twots arall!
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan ceribethlem » Iau 25 Tach 2010 5:03 pm

TIm Cymru i wynebu Seland Newydd

15: Lee Byrne
14: George North
13: Tom Shanklin
12: James Hook
11: Tom James
10: Stephen Jones
9: Mike Phillips
1: Gethin Jenkins
2: Matthew Rees (capt)
3: Adam Jones
4: Bradley Davies
5: Alun Wyn Jones
6: Dan Lydiate
7: Sam Warburton
8: Ryan Jones

Eilyddion: Huw Bennett, Paul James, Jonathan Thomas, Andy Powell, Martyn Williams, Richie Rees, Andrew Bishop.


Tim Seland Newydd i gipio'r Gamp Lawn mewn steil a llond berfa o bwyntie:

15: M Muliaina
14: I Toeava
13: C Smith
12: SB Williams
11: H Gear
10: D Carter
9: J Cowan
1: T Woodcock
2: K Mealamu
3: O Franks
4: B Thorn
5: S Whitelock
6: J Kaino
7: R McCaw (capt)
8: K Read (Crusaders).

Eilyddion: A Hore, J Afoa, A Boric, D Braid, A Ellis, S Donald, M Nonu.

Dyfarnwr: Allan Lewis (Ireland)



Tim cryfa posib Cymru (gan fod anafiadau gyda Shane, 1/2c a Henson heb whare ers tro - Ian Evans ddim nol i'w orau), serch hynny o gymharu ambell i frwydyr, mae'n ymddangos i mi fod Seland Newydd yn mynd i ennill o dipyn.

Muliaina v Byrne - Muliaina yw'r gorau yn y Byd, ac mae Byrne heb ddychwelyd i'w orau. Bydd Muliaina yn gwrthymosod ar bob cyfle, felly bydd ein cicio gorfod bod yn dda. Byrne heb ddangos yr awch i wrthymosod ers tro byd.

Smith a Williams v Shanklin a Hook - Sonny Bill yn anferth a thalentog, tueddu i redeg lot mwy syth na Hook sy'n golygu ei fod yn fwy tebyg o glymu mewn yr amddiffyn. Conrad Smith yn chwareuwr galluog tu hwnt, ac yn cynnig mwy na Shanklin, er fod Shanklin ar ei ddydd yn parhau i fod yn chwareuwr o safon.

Cowan v Phillips - ar ei ddydd mae Phillips yn gallu bod yn wych (gweler taith y Llewod), serch hynny mae tipyn mwy ym mhen Cowan, ac mae'n edrych ar ei opsiynau mewn ffordd tipyn gwell.

Mc Caw v Warburton - Y meistr lan yn erbyn gobaith mawr newydd rygbi Cymru. Profiad McCaw yn mynd i ennill hon, er bydd Warburton yn chwareuwr o safon hynod uchel mewn dim o dro.

Read v Jones - Jones ddim yn cael ei barchu gystal ac y dylai, mae'n chwareuwr call iawn (er fod ei gapteiniaeth yn erbyn Ffiji yn doji) ond mae Read yn darllen y gem mor effeithiol, ac yn tueddu i gyrraedd y llefydd cywir yn aml iawn.


Carter v Jones - Fi heb wneud cymhariaeth o'r ddau yma, achos mae gymaint yn dibynnu ar ba mor gyflym bydd y bel yn cael ei gyflwyno o'r ryciau (neu sgarmesi - er fod Cymru ddim i weld yn rhy hoff o'r sgarmes).
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan Duw » Gwe 26 Tach 2010 12:00 pm

Synnu bo Ryan Jones yn câl mynd yn agos i bêl hirgron yn dilyn ei berfformiad yr wythnos diwetha. Pais hyrt.

Dwi ddim yn gwbod os odd yr hyfforddwyr yn iawn i'w feiriadu'n gyhoeddus, ond dwedon nhw ddim byd na fydde bron pob Cymro arall wedi dweud wrtho.

Ni mynd i gâl coten yffyrnol. Diolch i'r drefn dwi'n Bryste fory. Bydda i'n ffindo tafarn heb deledu a malu cachu gyda'm ffrind sy'n casau rygbi. Pan fyddwn ni'n ware fel shower of shit, dwi'n casau ein rygbi ifyd. Dwi'n skypluso'r peth rhag ofan i ni ennill. Cwic weip os nagyn ni.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan ceribethlem » Gwe 26 Tach 2010 2:29 pm

Duw a ddywedodd:Synnu bo Ryan Jones yn câl mynd yn agos i bêl hirgron yn dilyn ei berfformiad yr wythnos diwetha. Pais hyrt.

Gan fod Lydiate a Warburton yn chwarae ar y flaenasgell, a lan yn erbyn McCaw a'i brofiad, fi'n tybio mai eisiau profiad Ryan sydd. Mae Powell yn ormod o headless chicken i whare'e rol o'r un profiadol, a dyw JT ddim yn cynnig digon yn y ryc ac wrth gario. Fi ddim yn gweld fod lot o opsiwn gyda ni eto. Cyn hir bydd Faletau, Ben Morgan, McCusker ar gael a gyda mwy o brofiad.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan Duw » Sul 28 Tach 2010 8:30 pm

Sylwes i'r sgor 25-37. Shwt gem odd e? Gwerth edrych arno?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan rygbigog » Sul 28 Tach 2010 11:05 pm

Ddim lot rhwng y blaenwyr, braf weld bois ifainc Cymru fel Lydiate a Warburton yn rhoi gem galed iawn i McCaw.

Tu ol oedd y gwahaniaeth, ond gyda 3/4i ail ddewis i Chymru, roedd dim synnu.

Ond ar ol i Henry son am 'smasho'r Cymru', 10 munud i fynd a Chymru o fewn trosiad - ddim yn ddrwg!

Seren y gem o Samoa a sgorwyr ceisiau o Samoa - dim newid gydar Crysau Duon!

Fellu ar diwedd y gyfres: Chwarae'r 3 gorau yn y byd, dal yn pob gem i'r 10 munud olaf a colli o gafartaledd llai na 10 pwynt. Ond Fiji yn dangos mae angen gwella'r dyfnder chwaraewyr, rhywbeth lle mae pawb yn wlad fach gyda gyfraniad i wneud!
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan ceribethlem » Llun 29 Tach 2010 9:16 am

Duw a ddywedodd:Sylwes i'r sgor 25-37. Shwt gem odd e? Gwerth edrych arno?

Gem weddol dda, ond am Lee Byrne. Twat.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan Duw » Llun 29 Tach 2010 2:32 pm

Hmm. Darllen y papur heddi (dim ysgol!), roedd Gatland yn son pa mor hapus odd e gyda'r bois a'i fod yn edrych ymlaen i gâl rhyw 4 chwaraewr dewis cynta'n ôl. Twat. Ennill 2 gêm allan o 13. Dyna beth fydd pobol yn cofio amdano.

Er wylle'n annheg, y rhanbarthe sy'n gyfrifol am ddatblygu ein chwaraewyr - sgilie sylfaenol ayyb. Ishe bo nhw o safon cyn bo nhw'n cripan mlan i'r ca. A oes gormod o estronied yn ware i'r rhanbarthe? Dyma hen ddadl 'da fi. Shwt allwn ni ddatblygu dyfnder pan fydd cymaint o Kiwis and duwknowswot yn ware pob penwthnos. Blydi trychineb. A'r hen bwynt ei bo nhw'n datblygu chwaraewyr o'u cwmpas - gret i'r rheiny o'u cwmpas, ond beth am ser yr academis sy ffili câl gêm a symud i'r lefel nesa?

Jest enghraifft o'r Gleision (2010-2011):

Paul Tito (NZ)
Ben White (AUS)
Xavier Rush (NZ)
Andries Pretorius (RSA)
Mike Paterson (NZ)
Dan Parks (SCO)
Ma'ama Molitika (TON)
Casey Laulala (NZ)
Taufa’ao Filise (TON)
Ben Blair (NZ)
Tom Brown (ENG?!)

Allan o garfan 40, mae'r estroniaid yn cyfri o gwmpas 25%. Peidiwch â sôn bo hwnna'n iawn. Gwarth. Bydde 5 yn hen ddigon. Stopes i gefnogi'r Sgarlets am eu bod wedi cychwyn ar brynu'r holl estroniaid. Wrth ddilyn y Gweilch, dwi dal yn yr un cwch. Os fyddai am ddilyn tim o Gymru, bydd yn rhaid i mi symud i Ffrainc. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 33 gwestai

cron