Gemau rhygwladol y Tachwedd

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan ceribethlem » Mer 17 Tach 2010 10:07 pm

Duw a ddywedodd:Biggar/Bishop - diddorol. Wyndran pa mor hir tan ddeiff Jones/Shanks ymlaen. Dwi ddim yn ffan mawr o hen stejyrs yn ol shwt ma nhw'n ware ar y funed, ond ffili deall URC - ai B/B yw'r ffordd mlân? Os taw e, ni'n bygerd. :crio:

Fi'n tybio mai mater o roi bach o gemau i'r ddau cyn i Gwpan y Byd ddechre. Os yw Stephen jones yn cael anaf ni mewn bach o dwll, a gyda Shanks yn heneiddio, Bishop yw ei olynydd naturiol.
Fi'n becso mwy am pam fod Adam yn chware, does dim sgrym nerthol/trefnus gyda Ffiji (Deacon Manure!!), felly pam risgo Adam?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan Duw » Gwe 19 Tach 2010 9:32 pm

Fel wedes i B/B - crap. Ond y blaenwyr wnaeth einb gadel lawr yn yr hanner cynta. Shite llwyr. Tries i gâl tocynne muned ola, ond wedodd y fenyw ar Ticketmaster i fynd lawr 'na a risgo fe. Falch yffyrnol nes i ddim boddran nawr. Dyna'r perfformiad gwîtha dwi wedi gweld gan y shower of shit yna ers sbel. Gatland - 5 mlynedd arall o hwn? Da iawn bois, blydi gwd show. Ma rhan fwya o busnese'n cynnig arian nol os y' chi ddim yn hapus gyda'u cynnyrch. Dwi'n credu dyle'r URC gynnig arian nol i'r cefnogwyr. Ffili gweld neb llawer am brynu tocynne i'r gem ola ar ol heno. Dwi'n stopo nawr, timlo rant yn dod mlân :drwg: .
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan ceribethlem » Sad 20 Tach 2010 2:41 pm

Shite llwyr. Odd penderfyniadau Richie Rees yn warthus. Pam chwarae ar draws y cae o linell i linell am flynyddoedd, wedyn dechrau taflu'r peth ambwyti'n wyllt? Chware mewn i ddwylo Ffiji! Pam cymryd tap cyflym pan fod cic gosb llawn gyda ni o fewn 22 ein hunain? Ffolineb. Pam fod Bennett wedi para'r gem cyfan pan oedd y linell mor fregus? Pam fod Bennett yna ta beth. Mae TRT o'r Gleision a Ken Owens o'r Sgarletsd yn well na'r twlpyn o gachu yna.

Gem wedi ei greu i ddefnyddio patrymau oedd hon a blino Ffiji gyda threfn cyn ei daflu o gwmpas yn yr ugain ola, dim dechre fel gem o 7 bob ochor, 'na pam gollon ni hon yng Nghwpan y Byd! :rolio:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan rygbigog » Llun 22 Tach 2010 2:51 pm

Rheswm arall i anghofio am ail greu Cymru A, gan fod gymaint o Dydd Gwener yn chwaraewyr ail ddewis.

Llawer well canolbwyntio ar Cymru a dim ond y chwaraewyr dewis gyntaf!

Y wasg yn SN yn dweud rhaid rhoi'r Tim gryfaf phosib yn erbyn Cymru, rhag ofn colli !!!

Rhanbarthau ydi'r lle I bois ail ddewis profi ei hunaun.
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan ceribethlem » Llun 22 Tach 2010 6:59 pm

Duw a ddywedodd:Ffili gweld neb llawer am brynu tocynne i'r gem ola ar ol heno.

Hwnna yw'r unig gem i werthu mas nage fe?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan rygbigog » Maw 23 Tach 2010 10:10 am

ceribethlem a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:Ffili gweld neb llawer am brynu tocynne i'r gem ola ar ol heno.

Hwnna yw'r unig gem i werthu mas nage fe?


Ar ol gwylio Lansdowne a Murrayfield llawer waeth, mae'r 55k am a tri gem diweddaf ddim yn edrych mor ddrwg.

Cywir CB, mae'r gem Dydd Sawrn wedi gwerthu allan a hefyd bydd y ddau gem adref 6 Gwlad (Lloegr & Iwerddon) yn gwerthu allan.

Y fantes o Cymru'n colli (neu ddim enill) cymaint o gemau agos eleni, ydi'r arian mae'r chwaraewyr (a'r hyfforddwyr) yn cael (neu ddim wedi cael) am enill gemau.

Mae'r URC wedi arbed fortiwn, a mae hyn wedi galleogi nhw i gostwng prisiau y tocynnau i'r gemau yn y haf!
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan ceribethlem » Maw 23 Tach 2010 11:23 am

rygbigog a ddywedodd:Mae'r URC wedi arbed fortiwn, a mae hyn wedi galleogi nhw i gostwng prisiau y tocynnau i'r gemau yn y haf!

:lol:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 23 Tach 2010 2:12 pm

Nawn nhw mo'r ffasiwn beth. Un o'r rhesymau bod y stadiwm ddim yn llawn ydi achos bod y tocynnau yn warthus o ddrud, a hynny heb wir angen. Roedd hyd yn oed tocynnau Ffiji'n ddrytach na rhai Samoa llynadd!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan rygbigog » Maw 23 Tach 2010 3:15 pm

Torfeudd y wledydd Celtaidd yn erbyn y Crusau Duon eleni:

Alban 56k gyda 11k set wag.
Iwerddon 46k gyda 5k set wag'
Cymru 75k gyda dim set wag'

Y Gwyddelod sydd gyda'r problem mwyaf, dirwasgiad enfawr ond stadiwm newydd angen talu am degawdau.

O leia bydd y Stadiwm Mileniwm wedi talu ffwrdd mewn 10 mlynedd.

Bydd y gemau 6 Gwlad Cymru yn gwerthu allan, ond yn cytuno gyda ddisgyn prisiau gemau'r haf.
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Gemau rhygwladol y Tachwedd

Postiogan Duw » Maw 23 Tach 2010 7:40 pm

Parthed y gem olaf. Allen i fod wedi mynd lawr i Gaerdydd i mofyn tocyn neu 'cael' un o'r clwb. Dyw'r chwant ddim yna. Eitha posib bo tocynne wedi gwerthu mas, ond wyndran faint o docynne'r clybie fydd yn ffeindio'u ffordd i ddwylo'r twots (sic).

Mae'r prisie'n dyrchinebus stim ots sut mae rhai yn trio'u hamddiffyn. O, hoffi'r sylw am ddisgyn prisie'r haf. Mae Joci Soch yn hedfan, myn jiawch i. :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron