Cytundebau Canolog Rygbi Cymru

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cytundebau Canolog Rygbi Cymru

Postiogan rygbigog » Sul 12 Rhag 2010 4:27 pm

Wedi bod yn trafod hyn:

http://news.bbc.co.uk/sport1/hi/rugby_u ... 274588.stm

Oes angen talu arian mawr uchwanegol i cadw chwaraewyr gyda rhanbarthau yng Nghymru er mwyn un gem uchwanegol yn yr hydref, neu anghofio am y 4ydd gem a gadael i'r chwaraewyr mynd lle bynag mae'r arian? Bydd rhaid i nhw dal cael ei rhyddhau i chwarae 3 Gem yr Hedref, 6 Gwlad, Taith yr Haf, Cwpan Y Byd, Llewod, etc.

Dwi'n cefnogi bob Rhanbarth Cymru (hyd yn oed y Sgarlets) yn y Magners a'r Heineken, ond mae'r drefn o rhoi mwy o arian i'r Ranbarthau yn tueddu weld mwy o'r hen chwaraewyr yn hytrach na'r angen i ddatblygu chwaraewyr ifainc Cymru?
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Cytundebau Canolog Rygbi Cymru

Postiogan ceribethlem » Iau 16 Rhag 2010 10:02 am

rygbigog a ddywedodd:Wedi bod yn trafod hyn:

http://news.bbc.co.uk/sport1/hi/rugby_u ... 274588.stm

Oes angen talu arian mawr uchwanegol i cadw chwaraewyr gyda rhanbarthau yng Nghymru er mwyn un gem uchwanegol yn yr hydref, neu anghofio am y 4ydd gem a gadael i'r chwaraewyr mynd lle bynag mae'r arian? Bydd rhaid i nhw dal cael ei rhyddhau i chwarae 3 Gem yr Hedref, 6 Gwlad, Taith yr Haf, Cwpan Y Byd, Llewod, etc.

Dwi'n cefnogi bob Rhanbarth Cymru (hyd yn oed y Sgarlets) yn y Magners a'r Heineken, ond mae'r drefn o rhoi mwy o arian i'r Ranbarthau yn tueddu weld mwy o'r hen chwaraewyr yn hytrach na'r angen i ddatblygu chwaraewyr ifainc Cymru?

Dyw dy frawddeg ola ddim yn wir, yn arbennig am y Sgarlets yr wyt mor ddirmygus ohonynt.
Mae nifer o fois ifanc yn datblygu trwy'r academiau yn y rhanbarthau.
Gweilch: Kristian Phillips a Tom Prydie yw'r enghreifftiau mwyaf amlwg, ond mae eraill fel Ben Lewis, Tom Smith, Bevington, Gareth Owen ayyb.
Gleision: Leigh Halfpenny yw'r un amlwg ifanc diweddar, ond mae Sam Warburton, Bradley Davies, Jamie Roberts oll wedi datblygu drwy'r academi.

Bydd cytundebau canolog yn lladd rygbi yng Nghymru, yn barod mae'r gefnogaeth i'r rhanbarthau yn teneuo oherwydd fod y ser mas am rhy hir, os wy7t ti'n rhoi nhw dan cytundebau canolog, gwaethygu neiff hynny.

Mae pwytn Scott Johnson, wrth gwrs, yn hollol wahanol i gytundebau canolog. Mae Johnson am i'r arian sy'n ddyledus i'r rhanbarthau am feithrin a datblygu'r chwareuwyr yma fynd atyn nhw (y rhanbarthau). Ar hyn o bryd mae rhanbarth yn datblygu chwareuwr ifanc, sydd wedi yn chwarae lan at ddeg o gemau rhyngwladol, sydd i bob pwrpas yn farchnata'r chwareuwr i glybiau arall. Os yw URC am gymryd y chwareuwyr yma gymaint, fe ddylent dalu amdanynt, gan gynnwys ffi am y datblygiad a wnaed o fewn y rhanbarthau.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cytundebau Canolog Rygbi Cymru

Postiogan rygbigog » Gwe 17 Rhag 2010 1:01 am

Dwi'n cefnogi'r Sgarlets yn erbyn dimau dramor ond mae'r agwedd dirmugus rhwng y Sgarlets a Gogledd Cymru'n gwithio ddwy ffordd - ond mae'r ail yn dwr dan y bont dyddiau yma, gyda'r Academi Rygbi Gogledd Cymru.

Fellu cytuno yn erbyn Cytundebau Canolog. Dim angen rhoi mwy o arian i'r Ranbarthau neu dim angen i Cymru rheoli'r chwaraewyr pan does dim angen.

Ar cyfartaledd mae chwaraewyr heddiw yn dechrau chwarae tua 10 oed, ydi'r Ranbarthau'n talu i'r clybiau bach neu'r Brif Glybiau am gwaith ddatblygu sy'd digwydd ynno?

Mae'r Ranbarthau, Prif Clybiau a'r clybiau fach yn cael arian oddi wrth yr undeb gyda cytundebau / gyfrifoldebau / gwobrwyau am ddatblygu chwaraewyr.

Yn fy mharn i, mae'r Rhanbarthau'n cenfigenis o clwbiau peldroed fel Abertawe a Chaerdydd, llawer mwy gyfoethog na'r corff gweinyddu cenedlaethol a fellu dim angen ddatblygu chwaraewyr Cymru. Ond yn y gemau rhyngwladol diwethaf, roedd yr unig chwaraewyr nodiadol o'r ddau clwb yn chware i timau llawn a dan 21 Lloegr!
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Cytundebau Canolog Rygbi Cymru

Postiogan ceribethlem » Gwe 17 Rhag 2010 3:05 pm

Pa glybiau bach sy'n datblygu chwareuwyr? Dyddie 'ma mae'r chwareuwyr ifanc yn cael eu rhoi mewn academi rhanbarthol yn bell cyn eu bod digon hen i chwarae i un o'r clybiau bach. Mae 'na enghreifftiau fel George North, wrth gwrs, ond gyda'r Academi newydd yn y Gogledd, bydd llai o achlysurau tebyg.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cytundebau Canolog Rygbi Cymru

Postiogan rygbigog » Gwe 17 Rhag 2010 7:09 pm

Mae'r bechgyn yn chwarae gyda'r clybiau bach o 10 tan 15, gyda'r gorau wedyn yn mynd i'r Rhanbarthau o 15 tan 20. Dechreuodd y Gogs gyda'r Sgarlets yn diweddar gyda clybiau fel Machynlleth, Llangefni, Rhuthun, Rhyl, Llandudno, Wyddgrug, Caernarfon, Pwllheli. Heb y clybiau yma bydd rhai heb wedi chwarae'r gem at 15 oed.

Faint o chwaraewyr sydd wedi cyraedd y brig wrth dechrau rygbi ar ol 15 oed?
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Cytundebau Canolog Rygbi Cymru

Postiogan ceribethlem » Gwe 17 Rhag 2010 9:37 pm

Mae'r grym sydd gyda'r clybiau bach 'ma dros y gem broffesiynol, i feddwl bod nhw'n 'datblygu' chwaraewyr yn warthus. Mae'r ysgolion yn chwarae rol llawer mwy cryf na'r clybiau bach yma.
A dweud y gwir, mae'r clybiau bach yn fwy o rhwystyr nac o gymorth yn amal. Bu cyfaill ysgol i mi yn gap ysgolion Cymru, ond oherwydd y budd o URC fe arhosodd gyda'r clwb oherwydd eu bod yn talu fe. Ar y pryd roedd e'n ennill mwy na'r gweddill ohonom (oherwydd bod llawer ohonom ni'n myfyrwyr i raddau), ac fe arhosodd gyda'r clwb yna yn hytrach na datblygu yn chwareuwr proffesiynol.
Mae agenda personol gyda nifer o'r clybiau bach (neu ar adegau eu Cadeiryddion yn teimlo'n or bwysig) yma, a dyle ddim hawl gyda nhw penderfynnu ar ddyfodol y gem broffesiynol.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cytundebau Canolog Rygbi Cymru

Postiogan rygbigog » Sad 18 Rhag 2010 10:16 pm

AGENDA PERSONOL - hoelen ar ei phen CB!

Croeso i ganrif 21, lle mae cymaint yn edrych i gael cymaint allan a rhoi cyn lleied i mewn.

Yn fy mharn i, mae rygbi yn bodoli er mwyn i bechgyn codi'r bel mor ifainc na phosib ac anelu at chwarae i Gymru!

Mae amrywiaeth o unigolion eraill gyda Agenda Personnol am ei hunain yn hytrach na hyn.
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Cytundebau Canolog Rygbi Cymru

Postiogan ceribethlem » Sul 19 Rhag 2010 1:53 am

rygbigog a ddywedodd: AGENDA PERSONOL - hoelen ar ei phen CB!

Croeso i ganrif 21, lle mae cymaint yn edrych i gael cymaint allan a rhoi cyn lleied i mewn.

Yn affodus mae hyn i weld yn wir.

rygbigog a ddywedodd:Yn fy mharn i, mae rygbi yn bodoli er mwyn i bechgyn codi'r bel mor ifainc na phosib ac anelu at chwarae i Gymru!

Mae amrywiaeth o unigolion eraill gyda Agenda Personnol am ei hunain yn hytrach na hyn.

Fi ddim yn hollol siwr fy mod yn cytuno gyda hyn. I raddau mae'n wir, yn sicir. Ond, beth am y bois fel Richard Fussel, sydd byth yn mynd i chwarae i Gymru? Mae'n chwareuwr proffesiynol, sydd haeddu ennill bywoliaeth deche am chwarae'r gem. Beth am bois fel Gavin Quinnell sydd wedi colli bywoliaeth mas o'r gem? Mae'n haeddu tipyn mas o'r gem.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cytundebau Canolog Rygbi Cymru

Postiogan rygbigog » Sul 19 Rhag 2010 9:17 am

Fellu mae'n mwy bwysig i Rygbi Cymru actio fel Jobcentreplus i 0.001 o'r poblogaeth yn hytrach na'r hill wlad falchio yn ein gem genedlaethol!

Atgoffa fi o boi o Chelsea ar y radio wythnos diwethaf. 'Club before Country' a dim ots bod y byd yn chwerthyn ar tim genedlaethol Lloegr.
rygbigog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Iau 11 Chw 2010 7:33 pm

Re: Cytundebau Canolog Rygbi Cymru

Postiogan ceribethlem » Sul 19 Rhag 2010 4:29 pm

Na, fy mhwynt yw fod mwy i rygbi Cymru na'r tim cenedlaethol yn unig. Darn mewn jigso yw'r tim cenedlaethol, mae'r holl darnau yn bwysig. Heb y rhanbarthau i reoli'r elfen broffesiynol, bydd dim chwareuwyr o safon gyda Chymru.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Nesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai