rygbigog a ddywedodd:Wedi bod yn trafod hyn:
http://news.bbc.co.uk/sport1/hi/rugby_u ... 274588.stmOes angen talu arian mawr uchwanegol i cadw chwaraewyr gyda rhanbarthau yng Nghymru er mwyn un gem uchwanegol yn yr hydref, neu anghofio am y 4ydd gem a gadael i'r chwaraewyr mynd lle bynag mae'r arian? Bydd rhaid i nhw dal cael ei rhyddhau i chwarae 3 Gem yr Hedref, 6 Gwlad, Taith yr Haf, Cwpan Y Byd, Llewod, etc.
Dwi'n cefnogi bob Rhanbarth Cymru (hyd yn oed y Sgarlets) yn y Magners a'r Heineken, ond mae'r drefn o rhoi mwy o arian i'r Ranbarthau yn tueddu weld mwy o'r hen chwaraewyr yn hytrach na'r angen i ddatblygu chwaraewyr ifainc Cymru?
Dyw dy frawddeg ola ddim yn wir, yn arbennig am y Sgarlets yr wyt mor ddirmygus ohonynt.
Mae nifer o fois ifanc yn datblygu trwy'r academiau yn y rhanbarthau.
Gweilch: Kristian Phillips a Tom Prydie yw'r enghreifftiau mwyaf amlwg, ond mae eraill fel Ben Lewis, Tom Smith, Bevington, Gareth Owen ayyb.
Gleision: Leigh Halfpenny yw'r un amlwg ifanc diweddar, ond mae Sam Warburton, Bradley Davies, Jamie Roberts oll wedi datblygu drwy'r academi.
Bydd cytundebau canolog yn lladd rygbi yng Nghymru, yn barod mae'r gefnogaeth i'r rhanbarthau yn teneuo oherwydd fod y ser mas am rhy hir, os wy7t ti'n rhoi nhw dan cytundebau canolog, gwaethygu neiff hynny.
Mae pwytn Scott Johnson, wrth gwrs, yn hollol wahanol i gytundebau canolog. Mae Johnson am i'r arian sy'n ddyledus i'r rhanbarthau am feithrin a datblygu'r chwareuwyr yma fynd atyn nhw (y rhanbarthau). Ar hyn o bryd mae rhanbarth yn datblygu chwareuwr ifanc, sydd wedi yn chwarae lan at ddeg o gemau rhyngwladol, sydd i bob pwrpas yn farchnata'r chwareuwr i glybiau arall. Os yw URC am gymryd y chwareuwyr yma gymaint, fe ddylent dalu amdanynt, gan gynnwys ffi am y datblygiad a wnaed o fewn y rhanbarthau.