Tudalen 1 o 1

Cwpan SWALEC

PostioPostiwyd: Gwe 17 Rhag 2010 9:20 pm
gan ceribethlem
Yn ol un o'm ffynnonellau, mae rhanbarth Gogledd Cymru wedi tynnu mas o gwpan Swalec Cymru. Mae hyn yn galluogi un o glybiau De Cymru i fynd trwodd i'r rownd nesaf heb chwarae gem.
Os mae'n wir, mae'n siomedig iawn yn dilyn yr holl ymdrech i greu rhanbarth yn y Gogledd.

Re: Cwpan SWALEC

PostioPostiwyd: Gwe 17 Rhag 2010 9:26 pm
gan Duw
Os yw hwn yn wir, beth am yr holl waith ac ymdrech? I fod yn onest, beth sy'n digwydd yn y gogledd o ran chwaraeon yn gyffredinol? Crusaders, Wrecsam, 'Rhanbarth' Rygbi. Mae'r holl beth yn mynd lawr y pan. Nid dig at y gogs yw hwn, jest un peth ar ol y llall. :(

Re: Cwpan SWALEC

PostioPostiwyd: Sul 19 Rhag 2010 7:43 pm
gan rygbigog
Ymddiheuriadau am ddim shot dy edefen CB, ond dim mwy na cyfle am gem neu ddau arall ydi'r Cwpan i Gogledd Cymru.

Byddai'n dyfalu bod y problem gyda amryw o tim Gogledd Cymru yn y Cwpan wedi chwarae i'r clybiau fach y Gogledd yn y Plat neu'r Bowlen.

Mae'n bosib fod pobol yn erbyn Gogledd Cymru wedi weld cyfle i atal syniad dda i chynwys y tim yn y Cwpan ?!?

Drist iawn os yn wir.

Re: Cwpan SWALEC

PostioPostiwyd: Mer 31 Gor 2013 10:10 am
gan abeeha
Llongyfarchiadau i Fangor. Dwi ddim tyn gweld unrhyw dim yn dal nhw i fyny. Ond ydy hyn y beth dda i Gyngrhair Cymru bod y pencampwriaeth bron wedi ei benderfynnu'n barod.

Re: Cwpan SWALEC

PostioPostiwyd: Sul 25 Awst 2013 8:16 am
gan ceribethlem
abeeha a ddywedodd:Llongyfarchiadau i Fangor. Dwi ddim tyn gweld unrhyw dim yn dal nhw i fyny. Ond ydy hyn y beth dda i Gyngrhair Cymru bod y pencampwriaeth bron wedi ei benderfynnu'n barod.

Eh? Ar Awst 31 roedd y gynghrair ar ben. :?