Tudalen 1 o 2

Cynghrair Pel Droed Cymru

PostioPostiwyd: Gwe 17 Rhag 2010 10:36 pm
gan Josgin
Pwy sydd wedi ennill pymtheg gem gyntaf y tymor ? : Bangor.

[GOL - wedi dechrau edefyn newydd i gadw pethau o fewn eu cyd-destun]

Re: Cynghrair Pel Droed Cymru

PostioPostiwyd: Llun 20 Rhag 2010 7:46 am
gan dewi_o
Llongyfarchiadau i Fangor. Dwi ddim tyn gweld unrhyw dim yn dal nhw i fyny. Ond ydy hyn y beth dda i Gyngrhair Cymru bod y pencampwriaeth bron wedi ei benderfynnu'n barod.

Re: Cynghrair Pel Droed Cymru

PostioPostiwyd: Mer 22 Rhag 2010 9:50 pm
gan Sioni Size
Wel, ma gan TNS Bangor adra a debyg y curan nhw honno, ac efo gem mewn llaw arall gall fod yn 7 pwynt o gap. Dwi'n gweld hi'n mynd i'r weiran

Re: Cynghrair Pel Droed Cymru

PostioPostiwyd: Iau 06 Ion 2011 2:50 pm
gan Sioni Size
Ac ar ol i Fangor golli eu hail gem yn olynnol neithiwr mae dy eiriau yn barod yn edrych yn fyrbwyll, Dewi-O!

Re: Cynghrair Pel Droed Cymru

PostioPostiwyd: Maw 11 Ion 2011 5:07 pm
gan snichyn
O leia mae Bangor yn glwb go iawn efo cefnogwyr go iawn sy'n malio. Yn wahanol i nifer yn y Cynghrair, fel Airbus UK. Son am glwb smalio bach. A dydy TNS a'u cae plastig fawr gwell. Rhwydd hyny i glybiau fel Bangor, Aber, Rhyl a Chaerfyrddin ddweda i.

Re: Cynghrair Pel Droed Cymru

PostioPostiwyd: Sad 12 Maw 2011 12:20 am
gan garynysmon
Angen enill yn erbyn Llanelli fory, neu dwi'n ofni mai TNS eitha hi :x

Re: Cynghrair Pel Droed Cymru

PostioPostiwyd: Sad 12 Maw 2011 7:25 am
gan Josgin
cytuno. Yr amddiffyn sy'n edrych yn wan - mae holl gardiau coch Brewerton yn dechrau costio.

Re: Cynghrair Pel Droed Cymru

PostioPostiwyd: Sul 01 Mai 2011 10:39 am
gan Josgin
Pnawn anhygoel ! Da iawn yr hogiau ( a'r "1762 +" oedd yno ) . Hen dro i'r " 100 -" a ddaeth o tu hwnt i Glawdd Offa .
TNS wedi dod acw eisiau ennill y gynghrhair , ond Bangor oedd eisiau ennill y gem.
Michael Johnston a Chris Roberts wedi bod yn wych drwy'r tymor , Craig Garside wedi bod yn hanfodol yn yr wythnos diwethaf, a gobeithio y caiff Jamie Reed wobr hefyd - arhosiad cymharol fyr, ond un o'r sgorwyr gorau i mi weld ar Ffordd Farrar erioed .
Rhan olaf y tymor wedi dangos fod gennym gystadleuaeth go iawn ar y brig.
Lawr i Llanelli dydd Sul nesaf am y gwpan .

Re: Cynghrair Pel Droed Cymru

PostioPostiwyd: Llun 02 Mai 2011 8:47 am
gan Josgin
Linc i luniau Dydd Sadwrn yma (Phil Stead sy'n gyfrifol)

http://ffwtbol.co.uk/2011/05/01/the-day ... he-league/

Re: Cynghrair Pel Droed Cymru

PostioPostiwyd: Sad 03 Medi 2011 10:14 am
gan Sioni Size
Mi fyswn i di medru sbio ar ail hanner bangor aberystwyth wythnos dwytha am byth, gwych o gem. Llanelli TNS pnawn ma'n argoeli'n dda fyd, rodd hi'n glasur flwyddyn dwytha.

B di'r gem hefo llinellau gwyn ar Sgorio? Ma nhw'n rhyfadd i gyd ar bob teledu. Ma'n boen.