Re: Pa un yw'r gamp genedlaethol?
Postiwyd:
Sad 15 Ion 2011 12:06 pm
gan Josgin
Gwylia- cei regi, cableddu, enllibio, bychanu, sarhau , rhaffu celwyddau, cam-sillafu,cam-dreiglo, gwamalu , rwdlian -OND
paid a meiddio sarhau yr hollalluog WY hirgron !
Re: Pa un yw'r gamp genedlaethol?
Postiwyd:
Sad 15 Ion 2011 4:34 pm
gan Duw
Gan y nifer sydd yn ei chwarae?
Rygbi os rydym yn gwrando i'r wasg a'r cyfryngau. Efallai bod hyn wedi sgiwio braidd.
Gwnaf gynnwys y canlynol - ailadroddiad o reolau'r seiat:
"Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt."
Re: Pa un yw'r gamp genedlaethol?
Postiwyd:
Sad 15 Ion 2011 6:05 pm
gan Nanog
Y prawf litmws: Edrychwch ar y timau yn canu'r anthem genedlaethol. Pwy dim sydd yn eu chanu gyda brwdfrydedd?
Re: Pa un yw'r gamp genedlaethol?
Postiwyd:
Iau 20 Ion 2011 12:10 pm
gan ceribethlem
Dewyrth Jo a ddywedodd:Pel-droed neu Rygbi?
Josgin a ddywedodd:Gwylia- cei regi, cableddu, enllibio, bychanu, sarhau , rhaffu celwyddau, cam-sillafu,cam-dreiglo, gwamalu , rwdlian -OND
paid a meiddio sarhau yr hollalluog WY hirgron !
Edefyn wedi'i chlou. Fel wedodd Duw, darllenwch y rheolau.