Tudalen 1 o 1

Rygbi Scarlets Llanelli wedi methu

PostioPostiwyd: Iau 20 Ion 2011 9:57 pm
gan rygbigog
Bron i £30 miliwn gan URC ers i'r gem fynd yn broffesiynol, crasfa 60 pwynt yn erbyn tim o lawr y ffordd, stadiwm newydd wag, dim ond hen maswr a bachwr o Tonyrefail digon dda i Cymru - oni bai am yr holl Gogs ifainc ynno, George Gogledd, Gog McCusker, Fenby, Galley, Rhodri, Jac, Aaron, Brandon a'r gweddill.

Dim synnu mae'r URC gyda mwy o diddordeb cymryd drosodd a byddsoddi mewn i ranbarth arall o Gymru! http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-12142282

Pob lwc i tim Rygbi Gogledd Cymru sy'n chwarae ar y penwythnos. :lol:

Re: Rygbi Scarlets Llanelli wedi methu

PostioPostiwyd: Llun 24 Ion 2011 4:44 pm
gan ceribethlem
rygbigog a ddywedodd:Bron i £30 miliwn gan URC ers i'r gem fynd yn broffesiynol

Linc?

Re: Rygbi Scarlets Llanelli wedi methu

PostioPostiwyd: Llun 24 Ion 2011 7:41 pm
gan Doctor Sanchez
Dwi'n cymeryd fod hon 'tongue in cheek' yndi Gog?

O'n i'n siomedig bod y sgarlets wedi dechrau chwarae yn y Gogledd a wedi tynnu'n ol wedyn (Dwi di cal y ffrae am hyn efo Ceri o blaen :winc: )

Ond ma'r trywydd ma'r sgarlets wedi ei ddilyn yn rhoi cyfla i fois ifanc Cymreig yn dechra talu ar ei ganfed.

Ken Owens, Dominic Day, Damien Welsh, Lou Reed, Josh Turnbull, Rob McCusker, Jonathan Edwards, Tavis Knoyle, Martin Roberts, Rhys Priestland, Jon Davies, Craig Fenby, George North, Dan Evans, Dan Newton etc etc.

Mae hein i gyd yn mynd i chwarae i Gymru ryw ben, a ma na rhei ohonyn nhw yn mynd i gal lot o gapiau. Ma nhw i gyd yn eu ugeiniau cynnar fyd.

Sa well gin i gefnogi tim fel yna na tim sy'n taflu pres at bob dim fel ma'r Gweilch di neud. A be ma nhw di gyflawni yn y diwadd? Dau deitl Magners, un LDV a bottlo bob gem fawr yn y Heineken ma nhw di chwara bron.

Ma Biggar yn mynd yn waeth, di bois fel Gareth Owen a Prydie ddim yn cal sniff ohoni, tra ma gin ti chwaraewyr tramor eilradd fel Nicky Walker a Nutbrown yn cymeryd lle Cymry ifanc.

Mai'n edrych fel bod y Gweilch yn 'spent force' beth bynnag. Byrne a Hook yn mynd, Adam Jones wedi brifo'n dragwyddol, Gough rhy hen, Wyn Jones rhy 'lightweight', Ryan Jones jest yn shit. Di hi ddim yn edrych yn dda iawn am y dyfodol.

Wedyn ma gin ti'r sgarlets efo criw o chwaraewyr ifanc cyffrous wedi tyfu fyny efo'u gilydd magu profiad drwy'r amser. Os fedar y sgarlets gadw mlaen i'r bois ifanc ma am dair bedair blynedd arall, nhw fydd yn malu'r gweilch o chwe deg.

Ac efo llwyddiant, mae'r torfeydd yn dilyn. A be fydd yn fwy melys i gefnogwyr y Sgarlets ydi fod nhw i gyd bron wedi dod drwy'r academi, yn hytrach na wedi cael eu dwyn gan ranbarthau eraill efo pocedi dyfnach.

On i byth yn meddwl swn i'n deud hyn ar ol 'debacle' y cwpan byd dwythaf, ond brafo Nigel Davies!