Tudalen 1 o 3

Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Mer 26 Ion 2011 9:06 am
gan ceribethlem
Dyma Sgwad Cymru ar gyfer y gem agoriadol yn erbyn y Saeson.

Blaenwyr: Paul James (Gweilch), John Yapp (Gleision), Craig Mitchell (Gweilch), Ryan Bevington (Gweilch), Scott Andrews (Gleision), Matthew Rees (Scarlets, capt), Richard Hibbard (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Ryan Jones (Gweilch), Sam Warburton (Gleision), Jonathan Thomas (Gweilch), Andy Powell (Wasps), Josh Turnbull (Scarlets), Toby Faletau (Dreigiau), Dan Lydiate (Dreigiau)
Olwyr: Mike Phillips (Gweilch), Dwayne Peel (Sharks), Tavis Knoyle (Scarlets), Stephen Jones (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets), James Hook (Gweilch), Jamie Roberts (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Shane Williams (Gweilch), Morgan Stoddart (Scarlets), Leigh Halfpenny (Gleision), Lee Byrne (Gweilch)

Braf Gweld Dwayne Peel yn ol yn y garfan. A Tavis, wrth gwrs, yr ail o fy nghyn-ddisgyblion i gyrraedd y sgwad (yn diolyn Kristian Phillips), y cyntaf i gael cap.

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Iau 27 Ion 2011 9:18 pm
gan Duw
Da iawn Cer. Er, ffili gweld lot o obeth yma. Credu af i gysgu am fis neu ddau. Dihuna fi lan unwaith i'r pencampwriaeth gwpla.

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Iau 27 Ion 2011 9:32 pm
gan Hedd Gwynfor
Credu byddwn ni'n cal crasfa bob gem yn anffodus. :crio: Gobeithio cael un buddugoliaeth!

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ion 2011 8:55 am
gan ceribethlem
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Credu byddwn ni'n cal crasfa bob gem yn anffodus. :crio: Gobeithio cael un buddugoliaeth!

Sai'n credu gewn ni grasfa, ar wahan i hynny, cytunaf.

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Maw 01 Chw 2011 6:11 pm
gan Duw
Crasfa #1 erbyn y Saeson: 9 (3 cic gosb) - 35 (4 cais, 3 trosiad, 3 cic gosb)

Unrhyw un am ymuno?

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Maw 01 Chw 2011 6:16 pm
gan osian
Mi enillais i gystadleuaeth dyfalu sgors cwpan y byd rygbi dwytha' ar hwn, be am gêm arall? ond dwi ddim am foddro efo sgors a ryw lol

Cymru v Lloegr
Iwerddon v Yr Eidal
Ffrainc v Yr Alban

Controfyrshal... :winc:

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Maw 01 Chw 2011 7:02 pm
gan ceribethlem
ceribethlem a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Credu byddwn ni'n cal crasfa bob gem yn anffodus. :crio: Gobeithio cael un buddugoliaeth!

Sai'n credu gewn ni grasfa, ar wahan i hynny, cytunaf.


Wedi gweld fod hyd yn oed mwy o chwareuwyr ar goll (Leigh Halfpenny mas ac yn ol ambell saws mae Stephen Jones mas hefyd) mae'n rhaid i fi newid meddwl. Mae Hedd a Duw yn iawn, uffach o doncad amdani.

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Mer 02 Chw 2011 4:51 pm
gan owain81
Dim Halfpenney... a fo dir' cyflyma. Byrne heb di bod yn chwaran dda so Hook yn rhif 15 please. bach yn nerfus yn meddwl am Nos Wener. Clubia Cymru heb di bod yn neud yn dda.

Cymru v Lloegr
Iwerddon v Yr Eidal
Ffrainc v Yr Alban

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Mer 02 Chw 2011 7:29 pm
gan Doctor Sanchez
Cymru i guro Lloegr
Curo'r Alban
Curo'r Eidal
Colli i Werddon
Colli i Ffrainc

Ffrainc i guro'r bencampwriaeth ond dim camp lawn (Cyntaf)
Werddon i gal y tripal crown (Ail)
Cymru'n drydydd
Lloegr (4ydd)
Alban (5ed)
Yr Eidal (Llwy bren)

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Mer 02 Chw 2011 9:39 pm
gan Hogyn o Rachub
Ma'n dibynnu cymaint ar faint o fomentwm geith Cymru. Os collwn ni nos Wener, swni ddim yn synnu petaem ni'n colli pob gêm, gan gynnwys yn erbyn yr Eidalwyr. O guro nos Wener, fedra i ein gweld ni'n curo'r tair gyntaf. Ar ôl hynny bydd llawer yn dibynnu ar ba fath o ymgyrch y bydd y Gwyddelod a'r Ffrancwyr wedi'i chael.