Tudalen 2 o 3

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Gwe 04 Chw 2011 2:04 pm
gan ceribethlem
Cyffro'n dechre codi nawr.

Fi'n credu bod eu rheng flaen nhw'n drech na rhai ni, ond fi ddim yn credu bydd y sgrym yn chwalfa llwyr.
Mae'n ail rheng ni yn well, er mae'r linell yn gallu bod yn fregus i'r ddau dim ar hyn o bryd.
Rheng ol ni'n well na'i un nhw, bydden i'n disgwyl i'n bois ni (Warburton a Lydiate) i ennill ardal y dacl. Bydd Easter a Haskell yn well yn cario.

Haneri'n weddol gyfartal, Yonugs mynd i fod yn wych, ond yn ddi-brofiad. Galle Phillips cael hwyl os yw'n chwarae ar ben ei gem. Syephen Jones yn well na Flood, felly lot yn dibynnu ar safon y bel ddaw iddyn nhw.

Canolwyr ni yn fwy grymus, ychydig mwy o greadigwrydd gyda nhw yn Hape. Er fi ddim yn credu byddan nhw'n lledu'n ormodol gyda'i rheng ol nhw.

Y tri cefn Lloegr yn well na'n tri ni, er fod Shane yn well na'r un ohonynt. Bydd rhaid i Hook ganolbwyntio a pheidio a chicio'n wael achos bydd Foden yn gallu ein niweidio ni tra'n gwrthymosod. Ashton hefyd yn rhedwr cryf yn erbyn amddiffyn simsan. Bydd lot o bwysau ar Stoddart i daclo'n effeithiol.

Y taclo ac ardal y dacl fydd yn holl bwysig, os gallwn ni reoli hwnna (a ddylen ni neud) a gwneud y penderfyniadau cywir, does dim rheswm pam na allwn ni ennill.

Hook a Stoddart fi'n becso am, y ddau yn gallu fod yn euog o brainfarts rhyfedda, ac eiliadau o athrylith hefyd.

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Sad 05 Chw 2011 12:00 pm
gan Duw
Ok, wel dyna'r pencampwriaeth wedi cwpla am flwyddyn arall. :rolio:

Gobeithio cawn ni gyfle i ware nhw eto yng Nghwpan y Byd - ond dwi ddim yn gweld ni'n mynd trwodd. Gats yn gorfod mynd - colled ar ol colled. Beth sydd yn mynd ymlaen yn y sesiynau ymarfer? Cicio crap, llinell crap, sgrym crap. Colli 3 pwynt tra bo Sais bant o'r cae - dyna dalent! :drwg:

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Sul 06 Chw 2011 11:53 am
gan ceribethlem
Ni'n methu a chreu unrhywbeth. Ni'n dal mor hawdd i amddiffyn yn erbyn. Ni bob amser yn symud i'r un cyfeiriad, heb gynnig dim gwahanol, does neb yn dod o ddyfnder, does neb yn cynnig onglau. Paint by numbers rygbi sydd gyda ni.

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Sul 06 Chw 2011 5:03 pm
gan Duw
FFili anghytuno Ceri. Gyda chwaraewyr o safon Shane a Jamie - sawl gwaith a wnaeth y sylwebydd eu henwi? World Class yw'r geirie mae rhai wedi defnyddio. Sawl tim sydd รข chwaraewyr WC sy byth yn lledu'r bel iddyn nhw? Allech chi ddychmygu gem lle nac oedd BOD yn derbyn y bel?

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Llun 07 Chw 2011 5:59 pm
gan ceribethlem
Lot o alw i gael gwared o Stephen Jones, sy'n methu'r pwynt rhywfaint. Os yw'r cefnwyr yn gorwedd yn holol fflat gyda neb yn rhedeg ongl, ac mae Mike Phillips yn drwsgwl yn cael y bel mas beth yn union ddylai'r maswr ei wneud? Ife rhywun i geisio bylchu? Er fod y chwareuwyr yn amlwg wedi eu or-hyfforddi i fynd i un cyfeiriad tan cyrraedd yr ystlys cyn newid cyfeiriad i'r ystlys arall. Gyda Hook yn faswr, mae'n bosib iawn y gwelwn bylchiadau pert, ond fi'n ofni caiff rhain eu dilyn gyda chic gosb yn erbyn Cymru am ddal mlaen i'r bel gan nad oes neb yna i gefnogi Hook.

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Llun 07 Chw 2011 6:20 pm
gan Duw
Mike Phillips yn shambls. Dwayne Peel ddim llawer gwell. Stephen Jones braidd yn ddi-gyfeiriad. Diffyg pwyll yn yr hanner cyntaf. Pethau'n siapo'n well ar ddiwedd yr ail hanner. Mynd trwy'r 'phases'. Wylle bydde Hook yn 10 yn well, ond dwi'n meddwl bo ishe sorto 9 allan yn fwy na 10.

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Maw 08 Chw 2011 7:26 pm
gan ceribethlem
Tim Cymru i wynebu'r Alban:

Lee Byrne (Gweilch);
Morgan Stoddart (Scarlets),
Jamie Roberts (Gleision),
Jonathan Davies (Scarlets),
Shane Williams (Gweilch);
James Hook (Gweilch),
Mike Phillips (Gweilch);

Paul James (Gweilch),
Matthew Rees (Scarlets,capten),
Craig Mitchell (Gweilch),
Bradley Davies (Gleision),
Alun Wyn Jones (Gweilch),
Dan Lydiate (Dreigiau),
Sam Warburton (Gleision),
Ryan Jones (Gweilch).

Eilyddion: Richard Hibbard (Gweilch), John Yapp (Gleision), Jonathan Thomas (Gweilch), Josh Turnbull (Scarlets), Tavis Knoyle (Scarlets), Stephen Jones (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets).


Stoddart ar yr asgell er iddo dorri ei law!Hook yn faswr :ofn: Tavis ar y fainc :ofn: Fi'n hoff o Tavis, crwtyn ffein, ac fi'n falch fod cyfle i un o'm cyn ddisybion ennill cap iawn, ond sdim lot o brofiad gyda fe! Mae'n debyg fod Peel wedi cael anaf yn erbyn Lloegr.

Fi'n darogan buddugoliaeth weddol gyffyrddus i'r Alban.

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Iau 10 Chw 2011 2:20 pm
gan ceribethlem
Cromlin gobaith wedi bwrw'r gwaelod ac ar ei ffordd nol lan eto.
Erbyn 3:30 fory byddai'n hyderus. Ar ol cyfarfod Sir UCAC nis fory a chwpwl o beints i ddilyn byddai'n hollol hyderus ac yn sicr o fuddugoliaeth safonol!

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Sad 12 Chw 2011 6:49 pm
gan ceribethlem
Lwcus fod dim clem gyda'r Alban! Synnu braidd, o'n i'n disgwyl lot mwy mas o nhw ar ol iddyn nhw guro De'r Affrig yn yr Hydref a sgorio tri chais yn erbyn Ffrainc.

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Llun 14 Chw 2011 11:55 am
gan Gowpi
We'n i'n teimlo treni dros yr Alban, yn meddwl i fy hunan, o, fel'na i ni fel arfer yn whare!