Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad
Postiwyd: Gwe 04 Chw 2011 2:04 pm
Cyffro'n dechre codi nawr.
Fi'n credu bod eu rheng flaen nhw'n drech na rhai ni, ond fi ddim yn credu bydd y sgrym yn chwalfa llwyr.
Mae'n ail rheng ni yn well, er mae'r linell yn gallu bod yn fregus i'r ddau dim ar hyn o bryd.
Rheng ol ni'n well na'i un nhw, bydden i'n disgwyl i'n bois ni (Warburton a Lydiate) i ennill ardal y dacl. Bydd Easter a Haskell yn well yn cario.
Haneri'n weddol gyfartal, Yonugs mynd i fod yn wych, ond yn ddi-brofiad. Galle Phillips cael hwyl os yw'n chwarae ar ben ei gem. Syephen Jones yn well na Flood, felly lot yn dibynnu ar safon y bel ddaw iddyn nhw.
Canolwyr ni yn fwy grymus, ychydig mwy o greadigwrydd gyda nhw yn Hape. Er fi ddim yn credu byddan nhw'n lledu'n ormodol gyda'i rheng ol nhw.
Y tri cefn Lloegr yn well na'n tri ni, er fod Shane yn well na'r un ohonynt. Bydd rhaid i Hook ganolbwyntio a pheidio a chicio'n wael achos bydd Foden yn gallu ein niweidio ni tra'n gwrthymosod. Ashton hefyd yn rhedwr cryf yn erbyn amddiffyn simsan. Bydd lot o bwysau ar Stoddart i daclo'n effeithiol.
Y taclo ac ardal y dacl fydd yn holl bwysig, os gallwn ni reoli hwnna (a ddylen ni neud) a gwneud y penderfyniadau cywir, does dim rheswm pam na allwn ni ennill.
Hook a Stoddart fi'n becso am, y ddau yn gallu fod yn euog o brainfarts rhyfedda, ac eiliadau o athrylith hefyd.