Tudalen 3 o 3

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Iau 17 Chw 2011 9:09 am
gan ceribethlem
Yn ol y son, mae Paul James wedi cael anaf i'w droed. Ac y bydd mas am bythefnos at fis. Newyddion gwael iawn.
Newyddion mwy calonogol yw efallai y bydd Adam Jones nol am gem Ffrainc.

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Sad 19 Maw 2011 9:32 pm
gan Duw
Pen ol i'w ddangos i'r byd eto.

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Sul 20 Maw 2011 4:21 pm
gan ceribethlem
'Sdim clem gyda ni wrth ymosod. Beth ddiawl mae Howley'n cael ei dalu am?

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Llun 21 Maw 2011 10:59 pm
gan Duw
ceribethlem a ddywedodd:'Sdim clem gyda ni wrth ymosod. Beth ddiawl mae Howley'n cael ei dalu am?


Cadw Edwards rhag slejo rhagor o Wyddelod. :D

Dim iws arall odyw e? A wnaeth y bois rhiteg unrhyw linelle? George North yn mynd walkabout - dyna'r unig beth a ddi'nodd fi lan. Er o'n i wedi câl cwpwl o sherberts pur erbyn i'r gêm ddechre. O'n i'n barod i roi'r byd yn ei le, gwd or bad.

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Maw 22 Maw 2011 10:40 am
gan ceribethlem
Duw a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:'Sdim clem gyda ni wrth ymosod. Beth ddiawl mae Howley'n cael ei dalu am?


Cadw Edwards rhag slejo rhagor o Wyddelod. :D

Dim iws arall odyw e? A wnaeth y bois rhiteg unrhyw linelle? George North yn mynd walkabout - dyna'r unig beth a ddi'nodd fi lan. Er o'n i wedi câl cwpwl o sherberts pur erbyn i'r gêm ddechre. O'n i'n barod i roi'r byd yn ei le, gwd or bad.

Ar wahan i George North a Shane Williams (er yn amlwg, ddim yn gem Ffrainc) does neb yn rhedeg unrhyw onglau. Cymharu hyn gyda LLoegr lle mae Ashton a Foden yn arbennig o effeithiol o redeg onglau a Tommy Bowe gyda'r Gwyddelod. Gobeithio na fydd Cymru yn or hyfforddi'r ddawn 'ma mas o George North.

Fi ddim yn deall pam bod ni'n chwarae mor fflat, does dim cyfle rhedeg unrhyw batryme; bydde twtsh o ddyfnder, gyda Roberts, JD, North a Byrne yn rhedeg patryme yn hyfryd i'w weld.

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Gwe 19 Awst 2011 1:00 am
gan luluxiu
Os byddwn yn colli nos Wener, ni fyddai swni yn synnu os ydym yn colli pob gêm, gan gynnwys yr Eidal. Ymosodiad nos Wener, gallaf weld ein bod yn curo y tri cyntaf. , Bydd y nifer yn dibynnu ar ba fath o symudiad, yr. Gwyddelig a Ffrangeg...

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Gwe 19 Awst 2011 2:07 am
gan ceribethlem
luluxiu a ddywedodd:Os byddwn yn colli nos Wener, ni fyddai swni yn synnu os ydym yn colli pob gêm, gan gynnwys yr Eidal. Ymosodiad nos Wener, gallaf weld ein bod yn curo y tri cyntaf. , Bydd y nifer yn dibynnu ar ba fath o symudiad, yr. Gwyddelig a Ffrangeg...

Eh? Beth uffar ti'n mwydro am?

Re: Sgwad Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

PostioPostiwyd: Llun 22 Awst 2011 8:39 pm
gan ceribethlem
Sgwad Cymru:
Blaenwyr: Gethin Jenkins, Lloyd Burns, Huw Bennett, Ryan Bevington, Adam Jones, Paul James, Ken Owens, Craig Mitchell, Bradley Davies, Sam Warburton (capt), Luke Charteris, Danny Lydiate, Toby Faletau, Ryan Jones, Alun Wyn Jones, Andy Powell.

Cefnwyr: Michael Phillips, Lloyd Williams, Tavis Knoyle, Jamie Roberts, James Hook, Jonathan Davies, Stephen Jones, Rhys Priestland, Scott Williams, Leigh Halfpenny, Lee Byrne, Aled Brew, Shane Williams, George North.

Y ddau syndod i mi yw fod Gethin Jenkins mewn, ag yntau yn parhau i ddiddef o anaf (mae rheolau cwpan y byd yn datgan ni caiff unrhywun ddod ag eilydd i'r garfan os oes anaf gan yr un mae'n eilyddio cyn i'r sgwad cael ei enwi) a'r ail un yw fod Martyn Williams mas. Sam Warburton yw'r unig flaen asgellwr agored sydd yn y sgwad!