Cymedrolwr: eusebio
Roedd e'n gwrthod chwarae i'r Gweilch (am ba bynnag reswm), felly fe'i rhyddhawyd. Dim syniad pam adwodd y Saracens - ei ddadl gwreiddiol oedd ei fod am fod yn Llundain er mwyn bod yn agos i'w blant. Cytundeb byr oedd ganddo yn Toulon.Josgin a ddywedodd:(a) Sut mae chwaraewr yn gallu crwydro mor hawdd o glwb i glwb o fewn yr un tymor ?
Yn honedig, fe ddywedodd (pan yn feddw gaib) mai fe oedd y chwareuwr gorau yn y Byd, ac yna mynd ymlaen i ddweud fod y capten yn shit. Arweiniodd y dadlau (honedig) at glatsho (honedig).Josgin a ddywedodd:(b) Be'n union mae o wedi wneud mor sydyn i godi gwrychyn ei gyflogwr yn Ffrainc ?
Ddim yn siwr fod e'n deg i gymharu sefyllfa Henson gyda chwareuwyr Cymru yn gyffredinol. Mae'r mwyafrif yn ymddwyn yn dda ac yn ddigon hapus i aros yng Nghymru. Pwysau ariannol (bydden i'n tybio) yw un o'r prif resymau i symud. Allai ddim gweld bai arnyn nhw am hynny, gyrfa byr iawn yw gyrfa rygbi.Josgin a ddywedodd:(c) Beth sydd yn bod ar chwaraewyr rygbi Cymru'n gyffredinol - ydi 'gadael clwb o Gymru i ehangu fy ngorwelion' yn rhyw fath o
cod cudd am ' mynd am uffern o sesh am fis tra'n cael fy nhalu ' ?
Mae'n dibynnu ar yr effaith mae'n cael ar weddill y garfan. Os yw'r garfan yn hapus iddo fod yn rhan, yna wrth gwrs ddylai fod yna. Os nad yw'r garfan yn hapus yna cadw draw sydd angen.Josgin a ddywedodd:(ch) A ydyw'n beth doeth ystyried pen bach llwyr fel hyn ar gyfer carfan Cymru ? .
Mae bellach yn rhyw 'Gazza''r byd rygbi , ac yn debyg o ddenu sylw a pwysau diangen ar bawb .
Ffacinhel, oedd bois rygbi'r oes amatur yn wyllt. Straeon di-ri am dripiau rygbi ar arwain at ryw fath o drwbwl, a nifer o westai yn gwrthod a gadael sgwad rygbi rhag mynychu'r lle.Josgin a ddywedodd:(d) Ers troi'n broffesiynol, ai ymddygiad chwaraewyr sydd wedi gwaethygu, neu wedi ei amlygu y mae ?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 24 gwestai