Tudalen 2 o 3

Re: L'Enson

PostioPostiwyd: Iau 07 Ebr 2011 7:30 pm
gan Duw
Vîn credee beaux paube un doupe. :rolio:

Re: L'Enson

PostioPostiwyd: Iau 07 Ebr 2011 8:46 pm
gan ceribethlem
Duw a ddywedodd:Vîn credee beaux paube un doupe. :rolio:

Tu ne pas un l'Enson ffan?

Re: L'Enson

PostioPostiwyd: Iau 07 Ebr 2011 9:04 pm
gan Nei
Le sacre Henson, poubelle ou hopitaaaaaaaale?!

Re: L'Enson

PostioPostiwyd: Iau 07 Ebr 2011 9:37 pm
gan rygbigog
Mamma mia, Sergio Parisse per giocare i Barbari, met Francois Steyn en Ruan Pienaar die neem van die skop. :ofn:

Re: L'Enson

PostioPostiwyd: Iau 07 Ebr 2011 9:58 pm
gan ceribethlem
rygbigog a ddywedodd:Mamma mia,

C'est ne pas de language de nef mon 'chan.

Re: L'Enson

PostioPostiwyd: Sul 24 Ebr 2011 9:44 pm
gan ceribethlem
Fi wedi bod bant ers wthnos, synnu fod neb wedi son am ei broblemau diweddaraf. Mae'r gobeithion iddo chwarae yng Nghwpan y Byd yn pylu.
Ers dyfodiad Cwpan y Byd, fe bydd y chwareuwr mwyaf dawnus o Gymru (efallai pob un o wledyddd hemisffer y Gogledd - o bosib y Byd) i byth chwarae yng Nghwpan y Byd.

Re: L'Enson

PostioPostiwyd: Mer 27 Ebr 2011 6:40 pm
gan Josgin
(a) Sut mae chwaraewr yn gallu crwydro mor hawdd o glwb i glwb o fewn yr un tymor ?

(b) Be'n union mae o wedi wneud mor sydyn i godi gwrychyn ei gyflogwr yn Ffrainc ?

(c) Beth sydd yn bod ar chwaraewyr rygbi Cymru'n gyffredinol - ydi 'gadael clwb o Gymru i ehangu fy ngorwelion' yn rhyw fath o
cod cudd am ' mynd am uffern o sesh am fis tra'n cael fy nhalu ' ?

(ch) A ydyw'n beth doeth ystyried pen bach llwyr fel hyn ar gyfer carfan Cymru ? .
Mae bellach yn rhyw 'Gazza''r byd rygbi , ac yn debyg o ddenu sylw a pwysau diangen ar bawb .

(d) Ers troi'n broffesiynol, ai ymddygiad chwaraewyr sydd wedi gwaethygu, neu wedi ei amlygu y mae ?

Re: L'Enson

PostioPostiwyd: Mer 27 Ebr 2011 8:09 pm
gan ceribethlem
Josgin a ddywedodd:(a) Sut mae chwaraewr yn gallu crwydro mor hawdd o glwb i glwb o fewn yr un tymor ?
Roedd e'n gwrthod chwarae i'r Gweilch (am ba bynnag reswm), felly fe'i rhyddhawyd. Dim syniad pam adwodd y Saracens - ei ddadl gwreiddiol oedd ei fod am fod yn Llundain er mwyn bod yn agos i'w blant. Cytundeb byr oedd ganddo yn Toulon.

Josgin a ddywedodd:(b) Be'n union mae o wedi wneud mor sydyn i godi gwrychyn ei gyflogwr yn Ffrainc ?
Yn honedig, fe ddywedodd (pan yn feddw gaib) mai fe oedd y chwareuwr gorau yn y Byd, ac yna mynd ymlaen i ddweud fod y capten yn shit. Arweiniodd y dadlau (honedig) at glatsho (honedig).

Josgin a ddywedodd:(c) Beth sydd yn bod ar chwaraewyr rygbi Cymru'n gyffredinol - ydi 'gadael clwb o Gymru i ehangu fy ngorwelion' yn rhyw fath o
cod cudd am ' mynd am uffern o sesh am fis tra'n cael fy nhalu ' ?
Ddim yn siwr fod e'n deg i gymharu sefyllfa Henson gyda chwareuwyr Cymru yn gyffredinol. Mae'r mwyafrif yn ymddwyn yn dda ac yn ddigon hapus i aros yng Nghymru. Pwysau ariannol (bydden i'n tybio) yw un o'r prif resymau i symud. Allai ddim gweld bai arnyn nhw am hynny, gyrfa byr iawn yw gyrfa rygbi.
Pe bawn i'n cael cynnig swydd i ddysgu mewn ysgol mewn lle fel De Ffrainc, bydden i'n ystyried y peth, bydden i'n ddwl i beidio. Mae'r opsiwn i ddod yn ol yna o hyd.

Josgin a ddywedodd:(ch) A ydyw'n beth doeth ystyried pen bach llwyr fel hyn ar gyfer carfan Cymru ? .
Mae bellach yn rhyw 'Gazza''r byd rygbi , ac yn debyg o ddenu sylw a pwysau diangen ar bawb .
Mae'n dibynnu ar yr effaith mae'n cael ar weddill y garfan. Os yw'r garfan yn hapus iddo fod yn rhan, yna wrth gwrs ddylai fod yna. Os nad yw'r garfan yn hapus yna cadw draw sydd angen.

Josgin a ddywedodd:(d) Ers troi'n broffesiynol, ai ymddygiad chwaraewyr sydd wedi gwaethygu, neu wedi ei amlygu y mae ?
Ffacinhel, oedd bois rygbi'r oes amatur yn wyllt. Straeon di-ri am dripiau rygbi ar arwain at ryw fath o drwbwl, a nifer o westai yn gwrthod a gadael sgwad rygbi rhag mynychu'r lle.

Re: L'Enson

PostioPostiwyd: Iau 28 Ebr 2011 7:51 am
gan ceribethlem
Erthygl wych gan Brian Moore fan hyn http://www.telegraph.co.uk/sport/rugbyunion/international/wales/8478524/Brian-Moore-Wales-need-Gavin-Henson-and-Andy-Powell-but-they-should-grow-up-or-go-away.html
Falle bod llawer ohonoch yn ddirmygus o Brian Moore, ond fi'n itha lico fe, ac mae'r erthygl yn un werth ei ddarllen.

Re: L'Enson

PostioPostiwyd: Gwe 29 Ebr 2011 10:06 am
gan ceribethlem
Odd penderfyniad gan Toulon, parth L'Enson, fod i gael ei ddatgan ar ddydd Llun, ond mae wedi ei ohirio'n ddyddiol. Dim clem gyda fi os yw hyn yn beth positif i L'Enson ai peidio :?