Tudalen 1 o 2

da wan CPD Abertawe

PostioPostiwyd: Llun 30 Mai 2011 9:14 pm
gan dil
jyst isio deud llongyfariade Abertawe.

dwi di dilyn Wrecsam erioed ond yn falch iawn fod tim Cymraeg di mynd i fynu i Prem.
champions league wan ie!

Re: da wan CPD Abertawe

PostioPostiwyd: Llun 30 Mai 2011 9:22 pm
gan ap Dafydd
ys gwedodd Gramsci: pessimism of the intelligence, optimism of the will...

cawn weld!

Re: da wan CPD Abertawe

PostioPostiwyd: Llun 30 Mai 2011 10:58 pm
gan Rhods
Dydd anhygoel - Abertawe yn y permiership!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!! Y dydd gorau erioed - ecstasi ! (ac heb anghofio y 90miliwn yn y banc i ni!!!!!!!!!)
O waelodion y y gyngrair, i fynd mas o fusnes dwywaith, i achub ein lig satus ar y dydd ola'r tymor 8 mlynedd yn ol i hwn - Roy of the Rovers styff!!!!

Re: da wan CPD Abertawe

PostioPostiwyd: Maw 31 Mai 2011 8:55 am
gan Josgin
A fuasai Abertawe'n cael chwarae yn y 'Champion's league' ?- cofier y ddadl pan gyrhaeddodd Caerdydd y cup final.

Re: da wan CPD Abertawe

PostioPostiwyd: Maw 31 Mai 2011 3:59 pm
gan Gwenci Ddrwg
Llongfarchiadau! On i am edrych ar y gem ar lein ond nes i fethu fo. :ing: I ddeud y gwir on i'n disgwyl y fuasai Caerdydd yn cyrraedd y big time yn gyntaf ond mae hwn yn grĂȘt eniwe. Cefnogwr Man City dwi ond dwi'n edrych ymlaen at weld Abertawe yn y prem.

Mae gynnon ni timau pel-droed Canadaidd (Toronto FC, Whitecaps FC ) mewn cynghrair sy'n Americanaidd yn bennaf felly mae na mwy na tipyn o ddiddordeb o blaid y cyfryngau yng Nghanada.

Re: da wan CPD Abertawe

PostioPostiwyd: Iau 02 Meh 2011 12:30 pm
gan Rhods
Gwenci Ddrwg a ddywedodd:Llongfarchiadau! On i am edrych ar y gem ar lein ond nes i fethu fo. :ing: I ddeud y gwir on i'n disgwyl y fuasai Caerdydd yn cyrraedd y big time yn gyntaf ond mae hwn yn grĂȘt eniwe. Cefnogwr Man City dwi ond dwi'n edrych ymlaen at weld Abertawe yn y prem.


Dyna beth oedd cyfryngau Cymru yn meddwl hefyd am flynyddoedd - ond fel na mai! Mae rhaid bod ffans Caerdydd yn gytyd :crio: Tra byddwn i yn mynd i Old trafford, Anfield. Emirates, bydda i wrth cwrs yn cofio ac yn meddwl am ffans Caerdydd a fydd yn neud tripiau i Doncatser, Peteborough a Brighton :winc: . Y wers yw, os da chi yn rhedeg clwb pel droed yn y ffordd cywir a synhwyrol mae gobeithion yn dod yn wir yn lle dangos despeartion llwyr i fynd ir Premeirship a mynd lawr y lein 'all or nothing' trwy gwario yn hollol afreolus ar chwarwaewyr a mynd mewn i ddyled. Dim jyst ni hefyd - mae chware pel droed y ffordd cywir yn bwysig yn lle hwffio'r bel lawr y cau bob tro - dyna ffordd mae Abertawe weid i mynd ir Premiership.

Abertawe - y tim gyntaf o Gymru i fod yn y premiership - doedd hwnna ddim yn rhan or sgript gan mai Caerdydd oedd y tim oedd wedi cael ei adeiladu ai bowstio'n hunan fel y tim o Gymru oedd fod yn y permership gan bron a fod pawb yn y circular pel droed yng Ngymru! :lol:

Re: da wan CPD Abertawe

PostioPostiwyd: Sad 04 Meh 2011 3:03 pm
gan Mackem
Shwmae pawb, Sais a chefnogwr Sunderland ydw i, llongyfarchiadau mawr i'r Elyrch am esgyn i'r Uwchgynghrair...fi'n edrych ymlaen at y ddwy gem rhwng ein clybiau ni y tymor nesaf...jysd un cwestiwn sy 'da fi am Abertawe...pam bod nhw'n galw nhw 'Y Jacs'? O ble mae'r llysenw'n dod?

Re: da wan CPD Abertawe

PostioPostiwyd: Sad 04 Meh 2011 7:27 pm
gan ceribethlem
Mackem a ddywedodd:Shwmae pawb, Sais a chefnogwr Sunderland ydw i, llongyfarchiadau mawr i'r Elyrch am esgyn i'r Uwchgynghrair...fi'n edrych ymlaen at y ddwy gem rhwng ein clybiau ni y tymor nesaf...jysd un cwestiwn sy 'da fi am Abertawe...pam bod nhw'n galw nhw 'Y Jacs'? O ble mae'r llysenw'n dod?

Enw ci oedd Swansea Jack.
http://en.wikipedia.org/wiki/Swansea_Jack

Re: da wan CPD Abertawe

PostioPostiwyd: Sad 04 Meh 2011 7:56 pm
gan osian
Er fod brawddeg ola'r erthygl yn awgrymu posibiliadau eraill

Re: da wan CPD Abertawe

PostioPostiwyd: Sul 05 Meh 2011 11:17 am
gan ceribethlem
osian a ddywedodd:Er fod brawddeg ola'r erthygl yn awgrymu posibiliadau eraill

Odi, nes i ddim ddarllen yr holl beth! Yn yr holl flynyddoedd o fyw yn neu ger Abertawe (rhyw bymtheg mlynedd bellach), y stori am y ci yw'r un fi wedi ei glywed.