gan ceribethlem » Gwe 21 Hyd 2011 1:15 pm
Hook yn warth eto, a Stephen Jones dim lot gwell. Rhyfedd i feddwl, petai Biggar yn y sgwad yn lle un ohonynt, bydden ni siwr o fod yn y rownd derfynnol!
Ta beth, nath y gem yn erbyn Awstralia ddangos bod ni ddim wir yn dim da iawn. Gethon ni daith lwcus i'r rownd gynderfynnol. Pe bai Pocock yn chwarae, bydde Awstralia wedi curo Iwerddon.
Nath y tim Ffrainc gwaethaf i fi gofio guro'r tim Saesneg gwaethaf i fi gofio. Nethon ni guro tim Iwerddon oedd yn mynd yn hen.
Nath Awstralia ddangos i ni heddi fod dipyn o ffordd i ni fynd cyn bod yn un o'r goreuon.
Y peth arall nethon ni ffindo mas yw cyn lleied o ddyfnder sydd gyda ni.
Heb Adam Jones does neb arall yn gallu gwenud y gwaith o fod yn brop pen tynn.
Warburton o beth wmbreth yw'n blaenasgellwr gorau. Mae gyda ni ddewis yn 6 ac 8, ond mae Warburton yn bell tu hwnt i bawb fel 7.
Mae Hook yn shit. Mae Stephen Jones yn rhy hen.
1: Gethin Jenkins, Paul James, ambell un arall.
2: Huw Bennett, Matthew Rees (pan fydd yn holliach),
3: Adam Jones - neb arall
4: Charteris,
5: AWJ, Bradley
6: Lydiate, Ryan Jones (er fod yntau'n heneiddio - mae McCusker gyda'r Scarlets a Pretorius gyda'r Gleision)
8: Toby Faletau, Ryan Jones, Ben Morgan o bosib, er ei fod yn wael ar hyn o bryd
7: Warburton, yr unig ddewis arall o bosib bydde Tirpuric
9: Phillips, sneb arall yn agos ato ar hyn o bryd
10: Priestland, sneb arall yn agos ato ar hyn o bryd
11: Shane, sneb arall yn agos ato ar hyn o bryd
12: Roberts, Scott Williams
13: Jon Davies, Scott Williams
14: North, sneb arall yn agos ato ar hyn o bryd
15: Halfpenny, sneb arall yn agos ato ar hyn o bryd
Mae hyn yn golygu os oes anaf i 3, 7, 9, 10, 11, 14, 15 ni mewn twll, ac mae'r tim yn troi o dim gweddol i tim itha crap.
Jiawcs fi'n ddigalon, fi ddim ishe mynd drwy chwarter canrif arall o wylio'r un hen shit!
Nonsens