Tudalen 1 o 9

Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sad 06 Awst 2011 1:02 pm
gan ceribethlem
Mae Cwpan y Byd ar y gorwel! Heddi mae gem ymarfer rhwng Cymru a LLoegr. Tro diwethaf cafwyd gem o'r fath (cyn Cwpan y Byd), chwalodd Lloegr ni'n rhacs 62 - 5. Ail dim Cymru oedd hynny, i bob pwrpas. Heddiw mae tim llawer cryfach.

Gan mai gem ymarfer yw hi, mae'r systemau a'r patrymau'n bwysicach na'r buddugoliaeth i raddau. Wedi dweud hynny bydde buddugoliaeth yn braf, wrth reswm.
Ar wahan i'r rheng flaen, mae tim Cymru yn edrych ychydig yn gryfach a mwy phrofiadol na Lloegr.
Y linell sy'n fy mhoeni fwy, gyda Bennett yn chwarae bachwr, mae sicrhau ein llinell ein hunain yn holl bwysig.

Tim Lloegr:

D Armitage
M Banahan
M Tuilagi
R Flutey
M Cueto
J Wilkinson
D Care

A Corbisiero
D Hartley
M Stevens
S Shaw
T Palmer
T Croft
L Moody
J Haskell

Eilyddion
L Mears, D Wilson, M Botha, T Wood, R Wigglesworth, C Hodgson, C Sharples.

Tim Cymru
Rhys Priestland
George North
Jonathan Davies
Jamie Roberts
Shane Williams
Stephen Jones
Mike Phillips

Paul James
Huw Bennett
Craig Mitchell
Bradley Davies
Alun Wyn Jones
Danny Lydiate
Toby Faletau
Sam Warburton

Eilyddion
Lloyd Burns, Ryan Bevington, Luke Charteris, Ryan Jones, Tavis Knoyle, Scott Williams, Morgan Stoddart.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sad 06 Awst 2011 1:29 pm
gan ceribethlem
Stephen Jones wedi tynnu mas gydag anaf cyn i'r gem gychwyn! :crio:

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sad 06 Awst 2011 3:26 pm
gan ceribethlem
Priestland wedi ymateb yn dda iawn i Stephen Jones yn tynnu mas ag anaf.
Stoddard wedi torri ei goes, ac felly mas o gwpan y Byd, pwrdab.
Gwaith ffitrwydd Cymru wedi edrych yn effeithiol, a Chymru wedi gorffen y gem yn gryf.
Y broblem mawr i ni yw'r diffyg creadigwrydd eto. Ar ol cychywn addawol, nid oeddwn wir wedi edrych fel creu llawer. Wedi dweud hynny tri chais i ni. Tybed a fydd Henson yn cynnig yr opsiwn creadigol hwnnw? Mae bownd o fod yn y sgwad nawr bod Stoddard mas.

Diddorol i weld os bydd rheng flaen y Llewod yn dychwelyd dydd Sadwrn? Mae 'na gwestiynau am ba mor iach yw Matthew Rees a Gethin Jenkins, gobeithio nad yw'r anafiadau yn rhai gwael.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Sad 13 Awst 2011 9:57 am
gan ceribethlem
Yr ail gem baratoadol heddi, yn erbyn Lloegr unwaith eto.

Tim Cymru:
James Hook;
George North;
Jamie Roberts,
Gavin Henson;
Shane Williams;
Rhys Priestland,
Mike Phillips;

Paul James,
Lloyd Burns,
Craig Mitchell,
Luke Charteris,
Alun Wyn Jones,
Dan Lydiate,
Sam Warburton,
Toby Faletau

Eilyddion: Huw Bennett, Ryan Bevington, Josh Turnbull, Justin Tipuric, Tavis Knoyle, Scott Williams, Aled Brew

Tim Lloegr:
Ben Foden;
Chris Ashton,
Mike Tindall,
Shontayne Hape,
Mark Cueto;
Toby Flood,
Richard Wigglesworth;

Alex Corbisiero,
Steve Thompson,
Dan Cole;
Louis Deacon,
Courtney Lawes;
Tom Wood,
Hendre Fourie,
Nick Easter.

Eilyddion: Lee Mears, Matt Stevens, Tom Palmer, James Haskell, Danny Care, Charlie Hodgson, Matt Banahan.


Cyfle arall i Toby Faletau, yn dilyn gem gweddol siomedig wythnos diwethaf. Henson, wrth gwrs, yn cael cyfle pwysig i ddangos ei ddoniau. Bydden i'n tybio, yn dilyn anaf Stoddard ei fod yn sicr o ddechrau. Diddorol gweld, er iddo gael ei ddewis yn gefnwr wythnos diwethaf, for Priestland yn cadw crys y maswr tra fod Hook yn mynd i'r cefn. Ni'n amlwg ddim yn hynod o hapus am ein rheng flaen (rheng flaen y Llewod) gyda'r tri yn cael hoe eto. Mae yna bosib y bydd Matthew Reees yn colli Cwpan y Byd oherwydd anaf i'w wddf.
Gem diddorol yn y fantol. Ar i ni guro Lloegr yn Nhwickenham o ran y ceisiau (3 i 2), os nad y sgorfwrdd, rwy'n hyderus gallwn guro nhw. Mae buddugoliaeth yn bwysig o ran hunangred, ni wedi colli 10 mas o'r 14 gem diwethaf! Serch hynny mae perfformiad yn bwysig iawn, a chael systemau'n dechrau gweithio cyn i ni wynebu De'r Affrig mewn mis.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Llun 15 Awst 2011 6:58 pm
gan ceribethlem
Matthew Rees mas o Gwpan y Byd, yn sicr. Trueni, ond wrth reswm, ei iechyd sydd bwysicaf. Diddorol gweld a fydd Warburton yn cadw'r gapteiniaeth.
Gem baratoadol ola ni yn erbyn yr Ariannin ddydd Sadwrn. Bydden i'n hyderus (yn dibynnu ar y tim ni'n dewis) o ennill honna'n weddol gyffyrddus.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Maw 16 Awst 2011 9:48 am
gan Jams
Bydd Mathew Rees yn golled fi'n credu - siwr bydd Hibbard fydd yn llanw ei le, ond sgitje mawr i lanw. Y cwestiwn mwya yw os fydd Gav yn cael dod - anheg iawn ar y chwaraewyr sydd yn iach, ond ma'r boi yn gallu dod a rhywbeth arall at y gem. Wythnos diddorol.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Maw 16 Awst 2011 12:11 pm
gan ceribethlem
Jams a ddywedodd:Bydd Mathew Rees yn golled fi'n credu - siwr bydd Hibbard fydd yn llanw ei le, ond sgitje mawr i lanw. Y cwestiwn mwya yw os fydd Gav yn cael dod - anheg iawn ar y chwaraewyr sydd yn iach, ond ma'r boi yn gallu dod a rhywbeth arall at y gem. Wythnos diddorol.

Gatland yn poeni am lefelau ffitrwydd Hibbard o'r hyn i fi ei glywed. Mae rheol 48 awr ynglyn ag eilyddion. Bydd Henson ddim yn gallu chwarae tan y chwarteri (neu efallai y gem cyn hynny, Ffiji rwy'n credu) oherwydd yr anaf. Bydd siwr o fod posib ei hedfan mas oherwydd anaf i rywun arall erbyn hynny ta beth!

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Maw 16 Awst 2011 12:17 pm
gan ceribethlem
Y tim i wynebu yr Ariannin yw:
15: Byrne,
14: Halfpenny,
13: Davies,
12: Roberts,
11: North,
10: Hook,
9: Knoyle,
1: James,
2: Hibbard,
3: A Jones,
4: Davies,
5: AW Jones,
6: Lydiate,
7: Williams,
8: R Jones (capt)
Eilyddion: Bennett, Bevinton, Powell, Tipuric, lloyd Williams, Stephen Jones, Brew


Roberts, North, James, AW Jones a Lydiate yn cychwyn eu trydydd gem o'r bron! O'n i'n disgwyl gweld Scott Williams yn dechrau yn lle Roberts, Charteris yn lle AW Jones, Bevingotn yn lle James ac un o Jonathan Thomas/Delve/Powell yn lle Lydiate.
Mae'n ymddangos nawr na fydd JT na Delve yn mynd, ond mae 'na gyfle i Powell gan fod e ar y fainc. Fi ddim yn meddwl lot o Powell a JT ta beth, ond yn synnu nad yw Delve yn cael y cyfle i ddangos ei ddoniau. Mae'n debyg fod Gatland wedi dweud fod Delve ddim yn holliach.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Maw 16 Awst 2011 5:29 pm
gan ceribethlem
Tim yr Ariannin i'n gwynebu ni ddydd Sadwrn nesaf:

M. Rodriguez,
Agulla,
Bosch,
S. Fernandez,
Camacho,
Contepomi (cap),
Vergallo;

Leguizamon,
J. M. Fernandez Lobbe,
Cabello,
Albacete,
Carizza,
Figallo,
Ledesma,
Roncero.

Reps: Creevy, Scelzo, Galarza, Campos, Lalanne, Sanchez, Imhoff

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

PostioPostiwyd: Iau 18 Awst 2011 12:32 pm
gan ceribethlem
Ryan Jones mas o'r gem. Powell yn symud lan o'r fainc a Jonathan Thomas yn dod i'r fainc.