Cwpan y Byd - Rygbi

Does dim rhieni gan y reffarî

Cymedrolwr: eusebio

Rheolau’r seiat
Croeso i chi drafod unrhyw chwaraeon o beldroed neu rygbi i didliwincs! Plîs peidiwch â chreu unrhyw edefyn pêl-droed v rygbi. Mae'r math yma o edefyn yn ddiflas tu hwnt ac wedi arwain yn y gorffenol at ffraeo a checru hurt. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

Postiogan ceribethlem » Gwe 30 Medi 2011 1:20 pm

Macsen a ddywedodd:Cymru yn y rownd nesaf i bob pwrpas, angen osgoi colli o 38 pwynt yn erbyn Ffiji er mwyn mynd drwodd... Ar y llaw arall mae angen iddyn nhw faeddu Ffiji yn reit gyffyrddus er mwyn magu hyder cyn gemau rownd yr wyth olaf.

Samoa wedi chwarae'n dda yn erbyn y Bokkes, anlwcus i golli mewn nifer o ffyrdd.

Mae Cymru yn saff, ac fi'n credu gwelwn ni berfformiad reit dda wrth Gymru. Yn llythrennol does dim i'w golli (gan gymryd yn ganiataol na bydd Ffiji yn curo ni o dros 38), felly bydd y pwysau bant o'r ysgwyddau ac byddwn yn gallu ymlacio a chwarae rygbi yn ol y cynllyn.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

Postiogan Macsen » Gwe 30 Medi 2011 6:47 pm

ceribethlem a ddywedodd:felly bydd y pwysau bant o'r ysgwyddau ac byddwn yn gallu ymlacio a chwarae rygbi yn ol y cynllyn.

Neu ymlacio gormod a chwarae gem saith bob ochor 80 munud, sgor terfynol 84-43 a Chymru allan o Gwpan Rygbi'r Byd. :P
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

Postiogan Hen Rech Flin » Sad 01 Hyd 2011 12:29 am

Pebai Fiji yn Curo Cymru 70-0 Fiji bydd yn y rownd nesaf :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

Postiogan ceribethlem » Sad 01 Hyd 2011 9:42 am

Macsen a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:felly bydd y pwysau bant o'r ysgwyddau ac byddwn yn gallu ymlacio a chwarae rygbi yn ol y cynllyn.

Neu ymlacio gormod a chwarae gem saith bob ochor 80 munud, sgor terfynol 84-43 a Chymru allan o Gwpan Rygbi'r Byd. :P

Byth mynd i ddigwydd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

Postiogan ceribethlem » Sad 01 Hyd 2011 9:43 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Pebai Fiji yn Curo Cymru 70-0 Fiji bydd yn y rownd nesaf :wps:

Byth mynd i ddigwydd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

Postiogan Macsen » Sad 01 Hyd 2011 7:02 pm

Dechrau poeni y gallai Lloegr ennill Cwpan Rygbi'r Byd nawr. Mae ganddyn nhw lwybr weddol rhwydd i'r ffeinal (Ffrainc sydd newydd golli yn erbyn Tonga, a wedyn Iwerddon neu Gymru) a dyw Awstralia na chwaith De Affrica wedi bod yn arbennig hyd yma. A nawr mae Seland Newydd wedi colli Carter. Mae Lloegr heb chwarae yn dda ond maen nhw wedi ennill yn gyson dros y flwyddyn ddiwethaf, a dyna sy'n cyfri yn y diwedd. :?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

Postiogan ceribethlem » Sul 02 Hyd 2011 6:02 pm

Toncad a hanner. Cymru'n edrych yn dda ar y cyfan.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

Postiogan Duw » Sul 02 Hyd 2011 9:20 pm

Hawdd yn erbyn tim heb siap.
Iwerddon yn ennill yn hawdd - er dwi ddim mor impresd. Eidal heb ware'n dda - unwaith mae cydraddoldeb mysg y blaenwyr, gallen nhw ddisgwyl slap.

Twitter llawn nonsens am Iwerddon yn sbaddu Cymru yn y gem i ddod. Mae teimlad da gen i am y gem.

Dwi'n ffansio ein siawns yn erbyn Lloegr/Ffrainc hefyd.

Diddorol sut mae'r pools wedi troi allan:

Hemisffer y Golgedd yn QF1 a 2
Hemisffer y De QF3 a 4
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

Postiogan ceribethlem » Maw 04 Hyd 2011 7:13 am

Nerfe'n dechre whare'r diawl gyda fi nawr!
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cwpan y Byd - Rygbi

Postiogan dil » Maw 04 Hyd 2011 1:28 pm

ose ddim llawer o wahaniaeth yn y ffordd ma Werddon, lloegr ar Alban yn chware dwi meddwl.
mar saeson yn dangor mwy o hyder yn Werddon na Cymru oherwydd arddull i chware nhw.
ar y cyfan negyddol uffernol ydir arddull. canolbwyntio ar gryfder blaenwyr a lladd gem y lleill.
delwedd eitha crap i rygbi gogledd y byd.

ma Cymru wedi bod yn wych ar adegau a prin di cael tim llawn.
ma Werddon wedi bod yn dda ar adegau ond yn gyson ddiflas uffernol.

dim curo nhw ydir gol ond chwalu nhw yn racs.
i neud hynu ma anghen ffendio ffordd rownd y tactegau negyddol.

Cymru yn edrych yn dda ir ffeinal dwi meddwl.
pam ddim!
Rhithffurf defnyddiwr
dil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 488
Ymunwyd: Gwe 19 Maw 2004 11:47 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Chwaraeon

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron