
Cymedrolwr: eusebio
Doctor Sanchez a ddywedodd:Udish i do
Macsen a ddywedodd:Wel doedd hi ddim yn 'gweir' nagoedd.
Macsen a ddywedodd:Doctor Sanchez a ddywedodd:Udish i do
Wel doedd hi ddim yn 'gweir' nagoedd. Ond os oes gen ti rifau loteri i'w hawgrymu, neges breifat plz.
Dw i wedi dysgu efo Cymru ei fod yn well bod yn weddol besimistaidd a chael syrpreis neis na bod yn or-hyderus a torri calon.
Doctor Sanchez a ddywedodd:Ma gin Gymru obaith go iawn o guro'r bencampwriareth.
Macsen a ddywedodd:Doctor Sanchez a ddywedodd:Ma gin Gymru obaith go iawn o guro'r bencampwriareth.
Does dim angen mynd dros ben llestri. Mae Cymru wedi cyrraedd rownd y pedwar olaf am yr eildro erioed, ond y prif reswm am hynny oedd bod timoedd cryfach na Iwerddon yn ein disgwyl ni yn 1999 a 2003, sef y ddau dim aeth ymlaen i ennill y gystedleuaeth.
Pe baen ni'n curo Ffrainc, fe fyddai camp y tim yma ar tua'r un lefel a thimoedd 05 a 08 - fe fydden ni wedi ennill ryw fath o 'mini chwe gwlad' fel petai. Ond dim ond dau beth fydd yn fy argyhoeddi fod Cymru wedi 'troi cornel' go iawn - maeddu'r Tair Gwlad yn weddol gyson (byddai un buddugoliaeth bob hydref yn ddigon), ac hefyd cynnal y safon yma dros y blynyddoedd nesaf, rhywbeth na lwyddon ni i'w wneud yn 06 a 09.
Dw i ddim eisiau piso ar y pared ond y gwir ydi nad yw Seland Newydd wedi colli yn Eden Park ers 1994. Carter neu beidio mae hynny'n annhebygol iawn o newid yn ystod y pythefnos nesaf. Fe fyddwn i wrth fy modd yn bwyta fy ngeiriau wrth gwrs.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai