Bolycs llwyr. MAe'r tri yn hollol wahanol.dil a ddywedodd:ose ddim llawer o wahaniaeth yn y ffordd ma Werddon, lloegr ar Alban yn chware dwi meddwl.
mar saeson yn dangor mwy o hyder yn Werddon na Cymru oherwydd arddull i chware nhw.
ar y cyfan negyddol uffernol ydir arddull. canolbwyntio ar gryfder blaenwyr a lladd gem y lleill.
delwedd eitha crap i rygbi gogledd y byd.
1. Yr Alban - Mae'r Alban yn crap, ac yn trial arafu'r gem a thynnu ppopeth mewn i'r gwter.
2. Lloegr - Bwlis yw Lloegr. Os yw eu pac nhw'n well o lawer na'r gwrthwynebwyr, yna byddant yn ennill yn hawdd. Un problem gyda nhw yw maswr; mae Wilkinson yn chwarae'n ddwfn iawn, sy'n golygu fod e'n anodd iawn i'r cefnwyr greu patrwm; mae Flood yn chwarae'n llawer mwy fflat, ac yn cael y cefnwyr i symud. Problem Flood yw ei fod yn gallu dewis y penderfyniad anghywir, bydde Wilkinson yn sicrhau pwyntiau.
3. Iwerddon - Mae gan Iwerddon gem effeithiol iawn. Rheng ol anferth a chryf. Bowe yn dod mewn ar yr ongl i greu lle. Yn amddiffynol mae'r tacteg o gadw'r dyn a'r bel ar ei draed er mwyn arafu'r bel ac o bosib troi'r bel drosodd drwy orfodi sgrym. Mae'r linell yn wych gyda POC yn medru darllen yn linell mor effeithiol.
Hmmm, mae Bowe yn dangos donie gwych. Mae BOD dal i fod yn fygythiad anferth, bydden i ddim yn gweud fod nhw'n ddiflas o gwbwl. Mae Cymru wedi bod yn hynod gystadleuol, ac yn ffit ryfedda, bydden i ddim yn darllen gormod mewn i gemau Namibia a Ffiji. Doedd dim gormod o geisiau (na chyfle am geisiau) yn erbyn y Bokkes a Samoa.dil a ddywedodd:ma Cymru wedi bod yn wych ar adegau a prin di cael tim llawn.
ma Werddon wedi bod yn dda ar adegau ond yn gyson ddiflas uffernol.
Bydden i ddigon hapus i ennill yn negyddol. Unrhyw fuddugoliaeth yn neud y tro mewn gem gwpan.dil a ddywedodd:dim curo nhw ydir gol ond chwalu nhw yn racs.
i neud hynu ma anghen ffendio ffordd rownd y tactegau negyddol.
dil a ddywedodd:Cymru yn edrych yn dda ir ffeinal dwi meddwl.
pam ddim!
O'r iesu mae'r optimism gnome yn byw yno ti!