Macsen a ddywedodd:Cymru yn y rownd nesaf i bob pwrpas, angen osgoi colli o 38 pwynt yn erbyn Ffiji er mwyn mynd drwodd... Ar y llaw arall mae angen iddyn nhw faeddu Ffiji yn reit gyffyrddus er mwyn magu hyder cyn gemau rownd yr wyth olaf.
Samoa wedi chwarae'n dda yn erbyn y Bokkes, anlwcus i golli mewn nifer o ffyrdd.
Mae Cymru yn saff, ac fi'n credu gwelwn ni berfformiad reit dda wrth Gymru. Yn llythrennol does dim i'w golli (gan gymryd yn ganiataol na bydd Ffiji yn curo ni o dros 38), felly bydd y pwysau bant o'r ysgwyddau ac byddwn yn gallu ymlacio a chwarae rygbi yn ol y cynllyn.